Mae rhaglen sy'n helpu sefydliadau ledled Cymru i gyflawni gwelliannau mewn cynhyrchiant a lleihau gwastraff ar y cyd â Toyota wedi gweld nifer o gwmnïau mawr yn adrodd am arbedion o £1 miliwn yr un.

Mae Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota yn cynnig cymorth o'r safon uchaf i fusnesau yng Nghymru sydd am wneud gwelliannau cynaliadwy mewn cystadleuaeth.
Mae'n gweithio i ymgorffori egwyddorion athroniaeth gynhyrchu Toyota, sy'n cael ei ystyried yn feincnod ar gyfer arferion gorau effeithlonrwydd gweithgynhyrchu ledled y byd, i optimeiddio gweithrediadau busnes.
O ganlyniad uniongyrchol i gymryd rhan yn y rhaglen, mae Tata, Airflo ac eraill i gyd wedi adrodd arbedion o £1 miliwn yr un yn ddiweddar, tra bod busnes Coed Duon Seda wedi cynyddu ei gynhyrchiad o gwpanau o 200,000 y dydd.
Cwmni arall sydd wedi elwa yw y gwneuthurwr o Bort Talbot, British Rototherm Group. Mae wedi adrodd gostyngiad o 77% mewn peiriannau yn torri i lawr, gostyngiad o 50% mewn diffygion, a chynnydd o 300% mewn capasiti.
Dywedodd Oliver Conger, Rheolwr Gyfarwyddwr Rototherm:
Nid oes unrhyw fuddsoddiad arall rydyn ni wedi'i wneud wedi sicrhau enillion gwell i ni o ran effeithlonrwydd na Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota. Mae'r ffordd maen nhw'n strwythuro'r rhaglen yn ei haddasu i'ch busnes ac yn defnyddio'ch prosesau penodol i wella a datblygu. Yn bwysicaf oll, mae'n datblygu eich pobl.
Yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chanolfan Rheoli Darbodus Toyota yng Nglannau Dyfrdwy, mae Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota wedi cefnogi mwy na 150 o sefydliadau yng Nghymru ers 2018.
Dywedodd Nick Pearn, Rheolwr Adran Canolfan Rheoli Darbodus Toyota (TLMC):
Mae wedi bod yn wych gweld y gefnogaeth sydd ar gael i gwmnïau yng Nghymru yn tyfu. Hyd yn oed yn fwy ysbrydoledig yw bod cymaint o sefydliadau wedi dewis ymgymryd â hyfforddiant ac wedi ymrwymo i ymgymryd â'u prosiectau eu hunain. Mae'r canlyniadau wedi gwneud yn well na’n disgwyliadau, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn trwy barhau â'r rhaglen am y tair blynedd nesaf.
Mae Rhaglen Clystyrau Darbodus Toyota bellach wedi derbyn £800,000 arall o gyllid gan Lywodraeth Cymru, i ymestyn y fenter tan 2029.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Mae gwella cynhyrchiant yn un o'r heriau allweddol sy'n ein hwynebu wrth i ni ymdrechu i sicrhau ffyniant yn y dyfodol wedi'i hadeiladu ar economi wyrddach.
Mae'r rhaglen hanfodol hon yn helpu sefydliadau i wella perfformiad a thwf trwy rannu egwyddorion cynhyrchu Toyota o’r safon uchaf fel arfer gorau.
Bydd y cam nesaf yn adeiladu ar lwyddiannau blaenorol a disgwylir iddo gefnogi 72 o sefydliadau i sicrhau cynnydd cynhyrchiant o 20% ar gyfartaledd.