Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad newydd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod cynnydd da wedi'i wneud wrth fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, ond mae lle i wella o hyd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Adroddiad Blynyddol a Rhagolwg Camddefnyddio Sylweddau 2016 yn dangos bod 71.0% o bobl wedi cwblhau eu triniaeth yn rhydd o sylweddau sy’n achosi problemau neu wedi cyrraedd y nod o ran eu triniaeth yn 2015/16 o gymharu â 62.1% yn 2011/12.

Mae hefyd yn dangos gostyngiad o 32.4% yn nifer yr unigolion o dan 25 oed a gafodd eu derbyn i'r ysbyty am gyflyrau sy’n gysylltiedig ag alcohol dros y pum mlynedd diwethaf.

Dyma rai o’r canlyniadau mwyaf arwyddocaol:

  • Roedd 74.5% o'r rhai oedd yn cael triniaeth yn dweud eu bod yn defnyddio llai o sylweddau yn 2015/16 o gymharu â 68.4% yn 2011/12.

  • Roedd 65.9% o'r rhai oedd yn cael triniaeth yn nodi bod ansawdd eu bywyd wedi gwella yn 2015/16 o gymharu â 57.8% yn 2011/12.

  • Gwelwyd gostyngiad o 23.1% yn nifer yr unigolion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd opioid dros y pum mlynedd diwethaf. 

  • Cafodd 83.0% o'r rhai oedd angen triniaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau fynediad at y gwasanaethau o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl cael eu hatgyfeirio yn 2015/16, gan wneud yn well na'r targed o 80%.
Lansiodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Cyflawni ar Gamddefnyddio Sylweddau yn ddiweddar sy'n rhoi braslun o'r hyn sydd angen ei wneud i wella'r ffigurau hyn eto. Un o'r prosiectau pwysig dan sylw yw'r Rhaglen Allan o Waith lle mae’r rhai sydd ar y daith i wella o gamddefnyddio sylweddau a/neu broblemau iechyd meddwl yn cael eu cefnogi gan gymheiriaid wrth iddyn nhw ddechrau mewn hyfforddiant neu swydd. 

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos cynnydd yn nifer y marwolaethau o gamddefnyddio cyffuriau, o 113 yn 2014 i 168 yn 2015, yn dilyn gostyngiad yn y blynyddoedd cynt. Mae'n ymddangos mai effaith carfan o ddefnyddwyr heroin sy'n heneiddio a chanddynt anghenion iechyd cymhleth yw hyn.   

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid ar ystod o fentrau i adeiladu ar y gwaith da sydd eisoes wedi'i gyflawni ac i fynd i'r afael â nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau. Mae'r camau hyn yn cynnwys:
  • Cynnal symposiwm cenedlaethol ym mis Ionawr, ar y cyd â Chwaraeon Cymru i godi ymwybyddiaeth pellach o'r broblem o Gyffuriau sy'n Gwella Perfformiad a Delwedd (IPEDs).

  • Cynnal ymgyrch tri mis o hyd i sicrhau bod gofalwyr y rhai sydd mewn perygl o gymryd gorddos yn ymwybodol o'r peryglon, yr arwyddion a’r symptomau fel eu bod yn gallu gweithredu mewn ffordd briodol.

  • Parhau i ddatblygu’r Rhaglen Naloxone i'w Ddefnyddio Gartref fel ei bod yn cynnwys ystafelloedd y ddalfa ac adrannau brys ysbytai, ynghyd â lansio gwefan ar gyfer naloxone/lleihau niwed.

  • Ystyried y camau nesaf o ran cyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol i fynd i'r afael â'r niwed i iechyd sy'n gysylltiedig ag alcohol cryf, rhad.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:

"Gall camddefnyddio sylweddau gael effaith drychinebus ar unigolion a’u teuluoedd. Dyma pam ein bod ni yma yng Nghymru wedi ymrwymo i leihau’r niwed sy'n gysylltiedig â hyn. Ry'n ni'n buddsoddi £50 miliwn bob blwyddyn i fynd i'r afael â'r mater.

"Ry'n ni wedi gweld cynnydd da dros y pum mlynedd diwethaf. Mae mwy o bobl wedi cwblhau eu triniaeth yn rhydd rhag sylweddau neu wedi cyrraedd y nod o ran eu triniaeth. Dw i hefyd yn hynod o blês gyda'r gwelliannau a welwyd ymysg pobl ifanc, gyda llai yn cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd alcohol ac opioid.

"Er hyn, nid da lle gellir gwell. Ein blaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf fydd canolbwyntio ar ddychwelyd i'r sefyllfa o weld nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn gostwng yng Nghymru. Byddwn ni'n gweithio'n agos gyda'n partneriaid i edrych ar y rhesymau wrth wraidd y cynnydd ac yn cymryd camau i fynd i'r afael â hynny."