Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weinidogion Cymru a'r Alban yn cytuno ar gamau i wrthsefyll risgiau difrifol i ddatganoli.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, cytunodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, i gydweithio ar welliannau i Fil Ymadael â'r UE Llywodraeth y DU.

Bwriad y newidiadau hyn fydd amddiffyn pwerau a chyfrifoldebau sydd wedi'u datganoli a darparu pwerau effeithiol er mwyn sicrhau bod cyfraith ddatganoledig yn gweithio wrth ymadael â'r UE.

Ymrwymodd  y ddau Brif Weinidog hefyd i gydlynu cyngor i'r Senedd a'r Cynulliad er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr holl wybodaeth am y risgiau sy’n codi yn sgil Bil Llywodraeth y DU a'r newidiadau arfaethedig.

Mae'r ddwy lywodraeth wedi nodi'n glir o’r blaen na allant argymell y dylid rhoi cydsyniad deddfwriaethol  i gynigion Llywodraeth y DU gan eu bod yn gosod cyfyngiadau annerbyniol ar y pwerau datganoledig presennol, a chan eu bod hefyd yn anymarferol ac  yn amhosibl eu gweithredu.

Yn dilyn eu cyfarfod, dywedodd y ddau Brif Weinidog:

"Rydyn ni'n agosáu at ugain mlynedd ers y ddau refferendwm a fu'n sail i sefydlu Senedd yr Alban a Chynulliad Cymru. Mae'r pleidleisiau hynny, a'r gwaith o ddatblygu datganoli ers 1998, yn darparu sylfaen ddemocrataidd ddiogel i hunanlywodraeth yng Nghymru a'r Alban.

“Ers y bleidlais i ymadael â'r UE, mae Llywodraeth y DU wedi mynd i'r afael â'r broses ymadael drwy wrthod egwyddor datganoli a’r egwyddor o rannu’r broses benderfynu ar draws y gwledydd hyn – sef dewis clir pobl Cymru a'r Alban.

"Yn fwyaf diweddar, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi papurau safbwynt sy'n ymwneud â buddiannau hanfodol Cymru a'r Alban ond sydd wedi'u paratoi heb i’r gweinyddiaethau datganoledig gael cyfle i gyfrannu atynt.

"Yn fwyaf difrifol, mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) Llywodraeth y DU yn ymgais haerllug i ganoli'r pwerau penderfynu yn San Steffan, gan fynd yn hollol groes i’r pwerau a'r cyfrifoldebau datganoledig presennol.

"Mae Llywodraethau Cymru a'r Alban eisoes wedi dweud yn glir na allan nhw argymell i Senedd yr Alban a'r Cynulliad Cenedlaethol roi'r cydsyniad deddfwriaethol angenrheidiol i'r Bil. Rydym o’r farn na ddylid caniatáu i’r Bil fynd rhagddo yn ei ffurf bresennol.

"Er mwyn darparu ffordd adeiladol ymlaen, mae Llywodraethau Cymru a'r Alban bellach yn gweithio i gytuno ar welliannau posibl i'r Bil a fyddai'n mynd i'r afael â'n pryderon. Rydyn ni hefyd yn cydlynu ein cyngor i'r Senedd a'r Cynulliad er mwyn sicrhau eu bod yn deall ein pryderon yn llawn, ynghyd â'n cynigion eraill.

“Er mwyn symud y trafodaethau ymlaen, bydd angen i Lywodraeth y DU yn awr ymateb yn gadarnhaol i'n gwelliannau arfaethedig, a sicrhau bod system gyfreithiol weithredol yn barod ar gyfer ein hymadawiad â'r UE.  Bydd angen sicrhau hefyd fod cytundeb ar strwythurau ar gyfer y DU – lle bo’u hangen – a’r rheini’n adlewyrchu safbwyntiau a buddiannau pob rhan o’r DU ac yn parchu pwerau a chyfrifoldebau sydd wedi’u datganoli.”