Mae gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod teuluoedd ledled Cymru sy’n defnyddio Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn elwa ar lawer o fanteision.
Gan gynnwys:
- Mae gan 84% fwy o incwm i’w wario
- Mae gan 56% fwy o gyfleoedd i gynyddu eu henillion
- Mae 57% yn teimlo bod mwy o hyblygrwydd o ran penderfyniadau ynghylch gwaith
- Mae 45% yn gweld mwy o gyfleoedd i gael hyfforddiant, i ddysgu ac i ddatblygu.
Dangosodd y gwerthusiad annibynnol hefyd fod y Cynnig o fantais arbennig i deuluoedd ar incwm isel. Roedd 66% o’r rhieni a oedd yn defnyddio’r Cynnig yn ystod tymor yr haf 2019 yn ennill yr un swm â’r cyflog cyfartalog cenedlaethol blynyddol, neu lai. Ochr yn ochr â’r manteision ariannol, dywedodd llawer o’r rhieni a gafodd eu cyfweld eu bod yn dioddef llai o straen ac o bryder oherwydd eu bod yn gallu cael gafael ar ofal ar gyfer eu plant.
Dangosodd yr arolwg hefyd fod 39% o’r rhieni sy’n defnyddio’r Cynnig yn manteisio ar ofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg i’w plant.
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer rhieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Ym mis Awst eleni, roedd y Cynnig ar gael ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, gan gyrraedd y nod hwnnw dros flwyddyn yn gynharach nag a gynlluniwyd yn wreiddiol. Y gwerthusiad hwn yw’r tro cyntaf i bobl o bob cwr o Gymru rannu eu sylwadau. Dim ond y saith awdurdod a wnaeth dreialu’r Cynnig gyntaf gafodd eu cynnwys yn yr adroddiad blaenorol.
Ynghyd â gofyn barn rhieni, roedd y gwaith ymchwil yn cynnwys siarad â lleoliadau gofal plant sy’n darparu’r Cynnig. Roedd bron i ddwy ran o dair (65%) o’r darparwyr a holwyd yn ystod yr ail flwyddyn yn credu bod y Cynnig wedi cael effaith gadarnhaol ar yr elw a wneir gan eu busnes.
Hefyd, nododd bron i ddwy ran o dair ohonynt (62%) bod y Cynnig wedi cael effaith gadarnhaol ar gynaliadwyedd eu lleoliad. Roedd 36% wedi gweld cynnydd yn nifer y plant a oedd yn dod i’w lleoliad o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
Mae’r cynnig gofal plant i Gymru yn dod â llawer o fanteision i rieni. Ochr yn ochr â’r cymorth ariannol, mae’n arbennig o galonogol clywed bod rhieni’n credu bod y Cynnig yn gwneud daioni i’w llesiant yn gyffredinol ac yn helpu i leihau straen.
Mae economi Cymru hefyd yn cael hwb diolch i’r Cynnig - nid lleoliadau gofal plant yn unig, sydd wedi gweld eu bod yn fwy proffidiol, ond hefyd busnesau eraill sy’n gweld gwahaniaeth diolch i deuluoedd â mwy o arian yn eu pocedi i’w wario.
Hoffwn ddiolch i bawb yn y sector gofal plant, awdurdodau lleol a phartïon perthnasol eraill sy’n helpu i gyflenwi’r Cynnig Gofal Plant ac sydd wedi chwarae rhan anferthol yn y gwaith o gefnogi teuluoedd.