Neidio i'r prif gynnwy

Cynnig Gofal Plant Cymru: Help gyda chost gofal plant i rieni gymwys sydd â phlant 3 i 4 oed

Oes angen i chi gael cymorth gyda chostau gofal plant? Trwy Gynnig Gofal Plant Cymru, fe allech hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos, am hyd at 48 wythnos o’r flwyddyn. Nod y cynllun gofal plant hwn a ariennir gan y llywodraeth yw lleihau baich costau gofal plant fel y gallwch wario’r arian rydych wedi’i arbed ar y pethau sydd bwysicaf i’ch teulu.

Mae’r Cynnig eisoes wedi helpu rhieni ledled Cymru i ddychwelyd i’r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio’n fwy hyblyg. Os ydych yn chwilio am swydd neu’n meddwl am ddychwelyd i addysg neu hyfforddiant, ond yn pryderu am gostau gofal plant, gallai’r cymorth hwn wneud gwahaniaeth mawr.

Beth bynnag mae’r Cynnig yn ei olygu i chi a’ch teulu, peidiwch â cholli’r cyfle i gael eich rhan o’r cyllid gofal plant hwn.

Gallwch wneud cais nawr i dderbyn gofal plant wedi'i ariannu o Ionawr 2024.

Image
Mae gwasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru yn fyw

 

Bydd angen i bob rhiant a hoffai gael gofal plant a ariennir gan Gynnig Gofal Plant Cymru wneud cais trwy’r gwasanaeth digidol cenedlaethol. Mae’r gwasanaeth ar-lein yn ddwyieithog ac fe allwch gael ato trwy liniadur, ffôn symudol neu ddyfais lechen.

Wrth wneud cais, bydd arnoch angen:

  • Tystysgrif geni’ch plentyn
  • Prawf o’ch cyfeiriad
  • Prawf o incwm yr aelwyd neu gofrestru ar gwrs addysg uwch neu addysg bellach

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch gyda’r Cynnig Gofal Plant, cysylltwch â ni.

Gwneud cais am Gynnig Gofal Plant Cymru

A ydw i’n gymwys i gael gofal plant wedi’i ariannu?

I fod yn gymwys ar gyfer y Cynnig, mae’n rhaid i bob rhiant:

  • Fyw yng Nghymru
  • Bod â phlentyn 3 neu 4 oed
  • Ennill llai na £100,000 y flwyddyn
  • Bod yn gyflogedig ac ennill o leiaf, ar gyfartaledd, yr hyn sy’n cyfateb i weithio 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol
  • Neu fod wedi’i gofrestru ar gwrs israddedig, ôl-raddedig neu addysg bellach sy’n para 10 wythnos o leiaf

 

Os oes angen mwy o help arnoch am y Cynnig Gofal Plant i Gymru, cysylltwch â ni.

Beth sydd wedi’i gynnwys yn y Cynnig?

Mae Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn golygu bod llawer o rieni plant 3 i 4 oed yn gallu cael cymorth gyda chostau gofal plant.

Mae hyn yn golygu 30 awr o addysg gynnar (a elwir hefyd yn addysg feithrin) a gofal plant yng Nghymru i rieni sy’n gymwys. Mae’r 30 awr yn cynnwys lleiafswm o 10 awr o addysg gynnar yr wythnos ac uchafswm o 20 awr o ofal plant yr wythnos.

Mae angen cais ar wahân ar gyfer eich oriau addysg gynnar. Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol am ragor o wybodaeth.

Mae’r Cynnig ar gael am 48 wythnos o’r flwyddyn, sy’n golygu y gall eich helpu gyda chostau gofal plant ar gyfer rhai o wyliau’r ysgol.

Mae cannoedd o feithrinfeydd, gwarchodwyr plant, Cylchoedd Meithrin, cylchoedd chwarae a crèches yn defnyddio’r Cynnig erbyn hyn, sy’n golygu y gallwch ddewis darparwr gofal plant sy’n gweddu orau i’ch anghenion chi a’ch plentyn. Mae’r Cynnig ar gael p’un a ydych eisiau defnyddio gofal plant Cymraeg, Saesneg neu ddwyieithog. 

Mae’r cyfnod cyn ysgol yn adeg wych i ddechrau taith ddwyieithog eich plentyn, felly os hoffech gael gwybod mwy am fanteision dysgu Cymraeg i’ch plentyn, ewch i’r wefan Cymraeg i Blant.

Ble alla’ i ddod o hyd i ddarparwr gofal plant?

Cyn Dewis Gofal Plant dysgwch am y budd-daliadau a'r mathau o ofal plant sydd ar gael yng Nghymru.

Bydd eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu eich helpu i ddod o hyd i ddarparwr cofrestredig sy’n cynnig y gwasanaeth sy’n bodloni’ch anghenion pan fyddwch yn defnyddio’ch oriau sydd wedi’u hariannu.

Rwy’n ddarparwr gofal plant. Sut galla’ i gymryd rhan yn y Cynnig?

Os ydych yn ddarparwr gofal plant, mae ein canllawiau i ddarparwyr yn rhoi gwybodaeth i chi am Gynnig Gofal Plant Cymru.