Telerau ac amodau ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru: gwasanaeth rhieni/gwarcheidwaid.
Cynnwys
1. Cyflwyniad
1.1 Mae Cynnig Gofal Plant Cymru (y "Gwasanaeth") yn gynllun a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys plant tair a phedair oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Yn ystod y tymor (39 wythnos o'r flwyddyn) mae'r Cynnig yn adeiladu ar yr ymrwymiad cyffredinol presennol i addysg gynnar sy'n rhoi o leiaf 10 awr yr wythnos o ddarpariaeth i bob plentyn 3 a 4 oed. Am y 9 wythnos sy'n weddill, mae'r Cynnig yn ariannu 30 awr o ofal plant yr wythnos.
1.2 Gall rhieni wneud cais am y Gwasanaeth drwy blatfform digidol ar-lein Llywodraeth Cymru (y "Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol"). Er mwyn creu cyfrif i wneud cais am y Gwasanaeth, rhaid i chi yn gyntaf ddarllen a chytuno i'r Telerau ac Amodau a nodir isod.
1.3 Noder bod rhieni sy'n defnyddio'r Gwasanaeth wedi'u rhwymo gan y Telerau ac Amodau ar gyfer Rhieni ac os canfyddir bod unrhyw wybodaeth a ddarperir i gefnogi cais neu yn ystod tymor y cytundeb hwn yn anwir neu'n anghywir, yna gellir tynnu'r cyllid yn ôl a gellir cymryd camau pellach i adennill unrhyw gostau.
2. Diffiniadau
Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Amodau hyn at:
"Darparwr Gofal Plant" yn cyfeirio at ddarparwr gofal plant sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (neu Ofsted yn Lloegr) sydd hefyd wedi'i gofrestru i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant Cymru.
"Cynnig Gofal Plant Cymru” neu “Cynnig Gofal Plant” yn cyfeirio at gynllun gan Llywodraeth Cymru i ddarparu hyd at 48 awr o ofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys plant tair a phedair oed.
"Amodau" yn cyfeirio at y telerau a'r amodau a bennir yma.
"Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol" yn cyfeirio at blatfform digidol ar-lein Llywodraeth Cymru lle gall rhieni wneud cais am Gynnig Gofal Plant Cymru a lle gall Darparwyr Gofal Plant reoli'r oriau o ofal plant a ddarperir o dan y cynnig a hawlio cyllid.
"ni" neu "ein" yn cyfeirio at Weinidogion Cymru.
"chi" neu "eich" yn cyfeirio at y rhiant, gwarcheidwad, llys-riant neu bartner sy’n cyd-fyw yn hirdymor o fewn aelwyd.
3. Telerau ac Amodau Defnyddio
3.1 Drwy gofrestru cyfrif ar y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol a gwneud cais am y Cynnig Gofal Plant, rydych yn cytuno ac yn cadarnhau:
3.1.1 bod yr wybodaeth a roddwch i ni i gefnogi eich cais yn gyflawn, yn gyfredol, yn wir ac yn gywir;
3.1.2 eich bod wedi datgelu i ni'r holl ffeithiau neu amgylchiadau perthnasol y mae angen eu datgelu i'n galluogi i gael darlun cywir a chywir o'ch cymhwystra;
3.1.3 y byddwch yn rhoi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar eich cymhwystra ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ar unrhyw adeg;
3.1.4 os bydd eich cais yn llwyddiannus a'ch bod yn derbyn y Cynnig Gofal Plant, efallai y bydd yn ofynnol i chi ail-gadarnhau eich bod yn gymwys o bryd i'w gilydd; a
3.1.5 bydd pob awr o ofal plant yn ychwanegol at yr uchafswm a ganiateir o dan y Cynnig Gofal Plant yn cael ei ddarparu drwy drefniant preifat rhyngoch chi a'ch Darparwr Gofal Plant.
3.2 Os byddwch, oherwydd newid yn eich amgylchiadau, yn mynd yn anghymwys i dderbyn gofal plant wedi'i ariannu drwy'r Cynnig Gofal Plant, bydd cyfnod eithrio dros dro o 8 wythnos yn cael ei ganiatáu. Os na fyddwch yn dod yn gymwys eto ar gyfer y Cynnig Gofal Plant erbyn diwedd y cyfnod eithrio, ni fyddwn yn ariannu unrhyw oriau gofal plant mwyach a byddwch yn gyfrifol am unrhyw daliadau gofal plant a ddefnyddir yn y dyfodol ar ôl i'r cyfnod eithrio ddod i ben.
3.3 Gallwn, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, dynnu'n ôl y dyfarniad cyllid o dan y Cynnig Gofal Plant:
3.3.1 os ydych yn torri unrhyw un o'r Amodau yn ddifrifol; neu
3.3.2 os ydym yn amau bod unrhyw weithred o dwyll wedi'i chyflawni gennych chi
ac yn y naill achos a’r llall, efallai y byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i chi ad-dalu'r cyfan neu ran o'r cyllid a ddyfarnwyd eisoes.
Os byddwn yn amau bod unrhyw weithred o dwyll wedi'i chyflawni, rydym yn cadw'r hawl i gymryd camau cyfreithiol priodol. Gall hyn gynnwys rhoi gwybod i'r heddlu am y mater.
4. Gwybodaeth
4.1 Yr ydych yn cydnabod ein bod yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (yr “FOIA”), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr “EIR”), Deddf Diogelu Data 2018 (y “DPA”) a fersiwn cyfraith yr UE a ddargedwir o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (Rheoliad (UE) 2016/679) (“GDPR y DU”).
4.2 Yr ydych yn cydnabod mai ni sy’n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn absoliwt a ddylid:
4.2.1 datgelu unrhyw wybodaeth a gawsom o dan neu mewn cysylltiad â’r Cyllid, i’r graddau y mae’n ofynnol ein bod yn datgelu’r cyfryw wybodaeth i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan yr FOIA neu’r EIR; a/neu
4.2.2 esemptio unrhyw wybodaeth o’r gofynion datgelu o dan yr FOIA neu’r EIR.
4.3 Yr ydych yn cydnabod y gallwn rannu unrhyw ddata yr ydych yn eu darparu i ni ag asiantaethau gwrth-dwyll a thrydydd partïon at ddibenion atal a datgelu twyll.
4.4 Penodir awdurdodau lleol gennym i ymgymryd â swyddogaethau penodol ar ein rhan i ddarparu'r Gwasanaeth, er enghraifft asesu cymhwystra rhieni ar gyfer y Cynnig Gofal Plant a chynorthwyo gydag ymholiadau’n ymwneud â cheisiadau rhieni. Drwy gofrestru cyfrif ar y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol a gwneud cais am y Cynnig Gofal Plant, rydych yn cydnabod y gallwn rannu unrhyw ddata a roddwch i ni gyda'ch awdurdod lleol at ddibenion rheoli eich cais.
4.5 Caiff unrhyw ddata personol a gesglir gennym eu rheoli yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd.
4.6 Byddwn ni’n prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â'n polisi Cwcis. Drwy ddefnyddio gwasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru rydych chi’n cydsynio i brosesu o’r fath ac rydych chi’n gwarantu bod yr holl ddata fyddwch chi’n ei ddarparu yn gywir.