Neidio i'r prif gynnwy

Er mwyn ymuno â'r lleoliad, rhaid i staff ddarllen a chytuno i'r telerau ac amodau hyn ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

1. Cyflwyniad

1.1 Mae Cynnig Gofal Plant Cymru (y "Gwasanaeth") yn gynllun a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys plant tair a phedair oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Yn ystod y tymor (39 wythnos o'r flwyddyn) mae'r Cynnig yn adeiladu ar yr ymrwymiad cyffredinol presennol i addysg gynnar sy'n rhoi o leiaf 10 awr yr wythnos o ddarpariaeth i bob plentyn 3 a 4 oed. Am y 9 wythnos sy'n weddill, mae'r Cynnig yn ariannu 30 awr o ofal plant yr wythnos.

1.2 Gall staff sy'n gweithio mewn lleoliad gofal plant sydd wedi'i gofrestru gyda llwyfan digidol ar-lein Llywodraeth Cymru (y "Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol") gofrestru i ymuno â'u lleoliad ar y gwasanaeth digidol er mwyn rheoli a gweinyddu gwaith eu lleoliad. Er mwyn ymuno â’r lleoliad, rhaid i chi yn gyntaf ddarllen a chytuno i'r Telerau ac Amodau a nodir isod.

1.3 Noder bod staff gofal plant sy'n defnyddio'r Gwasanaeth wedi'u rhwymo gan y “Dyfarniad Cyllid i Ddarparwyr Gofal Plant mewn perthynas â Chynnig Gofal Plant Cymru”, ac os canfyddir bod unrhyw wybodaeth a ddarperir i gefnogi cais neu yn ystod tymor y cytundeb hwn yn anwir neu'n anghywir, yna gellir tynnu'r cyllid yn ôl a gellir cymryd camau pellach i adennill unrhyw gostau.

2. Diffiniadau

Mae unrhyw gyfeiriad yn yr Amodau hyn at:

"Lleoliad Gofal Plant" yn cyfeirio at leoliad gofal plant sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (neu Ofsted yn Lloegr) sydd hefyd wedi'i gofrestru i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant Cymru.

"Cynnig Gofal Plant Cymru” neu “Cynnig Gofal Plant” yn cyfeirio at gynllun gan Llywodraeth Cymru i ddarparu hyd at 48 awr o ofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys plant tair a phedair oed.

"Amodau" yn cyfeirio at y telerau a'r amodau a bennir yma.

"Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol" yn cyfeirio at blatfform digidol ar-lein Llywodraeth Cymru lle gall rhieni wneud cais am Gynnig Gofal Plant Cymru a lle gall Darparwyr Gofal Plant reoli'r oriau o ofal plant a ddarperir o dan y cynnig a hawlio cyllid.

"ni" neu "ein" yn cyfeirio at Weinidogion Cymru.

"chi" neu "eich" yn cyfeirio at y staff sy’n defnyddio’r gwasanaeth digidol ar ran eu lleoliad gofal plant i weinyddu’r gwasanaeth.

3. Telerau ac amodau defnyddio

3.1 Drwy gofrestru fel defnyddiwr ar y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol a rydych yn gweithredu ar ran sefydliad neu busnes a bydd eich gweithrediadau’n rhwymo’r sefydliad a’r busnes hwnnw. Rhaid i chi:

3.1.1 ond weithredu yn unol â'ch rôl o fewn y busnes neu'r sefydliad hwnnw neu'n ymwneud ag ef;

3.1.2 weithredu bob amser o fewn awdurdod y sefydliad neu'r busnes perthnasol bob amser;

3.1.3 weithredu’n unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir i chi gan y sefydliad neu'r busnes hwnnw wrth gwblhau a/neu gyflwyno unrhyw hawliadau neu wybodaeth ar ran y sefydliad neu'r busnes hwnnw (ar yr amod pan fo unrhyw gyfarwyddiadau o'r fath yn gwrthdaro â chanllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru neu unrhyw gyfraith, y bydd canllawiau neu gyfraith o'r fath yn cael blaenoriaeth dros unrhyw gyfarwyddiadau).

3.2 Byddwch yn rhoi gwybod i ni ar unwaith am unrhyw newid i’r wybodaeth yr ydych wedi’i darparu i ni.

4. Gwybodaeth

4.1 Yr ydych yn cydnabod ein bod yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (yr “FOIA”), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr “EIR”), Deddf Diogelu Data 2018 (y “DPA”) a fersiwn cyfraith yr UE a ddargedwir o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (Rheoliad (UE) 2016/679) (“GDPR y DU”).

4.2 Yr ydych yn cydnabod mai ni sy’n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn absoliwt a ddylid:

4.2.1 datgelu unrhyw wybodaeth a gawsom o dan neu mewn cysylltiad â’r Cyllid, i’r graddau y mae’n ofynnol ein bod yn datgelu’r cyfryw wybodaeth i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan yr FOIA neu’r EIR; a/neu

4.2.2 esemptio unrhyw wybodaeth o’r gofynion datgelu o dan yr FOIA neu’r EIR.

4.3 Yr ydych yn cydnabod y gallwn rannu unrhyw ddata yr ydych yn eu darparu i ni ag asiantaethau gwrth-dwyll a thrydydd partïon at ddibenion atal a datgelu twyll.  

4.4 Yr ydych yn cydnabod y gallwn rannu data yr ydych yn eu darparu ag awdurdodau lleol ac unrhyw gontractwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn datrys problemau TG mewn perthynas â chael mynediad i wasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru.

4.5 Caiff unrhyw ddata personol a gesglir gennym eu rheoli yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd.

4.6 Byddwn ni’n prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn unol â'n polisi Cwcis. Drwy ddefnyddio gwasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru rydych chi’n cydsynio i brosesu o’r fath ac rydych chi’n gwarantu bod yr holl ddata fyddwch chi’n ei ddarparu yn gywir.