Cynnig Gofal Plant Cymru: gwasanaeth digidol cenedlaethol strategaeth ddigidol â chymorth - Atodiad 1
Y trefniadau cymorth i helpu pobl sy’n methu defnyddio gwasanaeth digidol y Cynnig Gofal Plant heb gymorth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cenhadaeth 1: gwasanaethau digidol
Cenhadaeth 1 mae gwasanaethau digidol yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a'u dylunio o amgylch anghenion defnyddwyr. Elfen ategol allweddol o'r genhadaeth hon yw rôl y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol. Mae'r Ganolfan wedi bod yn datblygu cyfres o Safonau Gwasanaeth Digidol sy'n berthnasol i holl gyrff gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Bydd y Safonau'n cefnogi ac yn ymgorffori cynlluniau gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn darparu gwell gwasanaethau a chanlyniadau iddo.
Cenhadaeth 2: cynhwysiant digidol
Cenhadaeth 2 mae cynhwysiant digidol yn trafod ffyrdd amgen o gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus: “Ar gyfer y rheini nad ydynt yn gallu cymryd rhan yn ddigidol, neu sy’n dewis peidio â gwneud, byddwn yn dal i gadw at egwyddorion dylunio sy’n rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf, fel bod ganddynt ffyrdd eraill o ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Dylai’r rhain fod cystal â’r rhai ar-lein.”
Bydd ein polisi i’r dyfodol yn parhau i adeiladu ar yr angen cydnabyddedig i gefnogi pawb i feithrin y cymhelliant, yr hyder a'r sgiliau er mwyn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus a dewis sut maent am ymgysylltu â’n byd cynyddol ddigidol a gwneud y gorau ohono. I'r rheini na allant, neu sy'n penderfynu peidio ag ymgysylltu’n ddigidol, rhaid inni sicrhau bod ffyrdd eraill o gael mynediad at wasanaethau yn parhau. Dylid ystyried y llwybr digidol fel dull o ddatrys problemau yn seiliedig ar anghenion a dymuniadau defnyddwyr, yn hytrach na gweld technoleg fel yr unig ateb. Byddwn ni fel Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau nad oes unrhyw ddinesydd yn cael ei adael ar ôl wrth inni fabwysiadu dull ‘digidol yn gyntaf’, a bydd cynhwysiant digidol wrth wraidd popeth a wnawn.
Mae angen i wasanaethau digidol, gwefannau ac apiau fod yn hygyrch i bawb, gan gynnwys defnyddwyr sy’n wynebu rhwystrau o ran:
- eu golwg - fel pobl â nam difrifol ar eu golwg (dall), pobl â rhywfaint o nam ar eu golwg (rhannol ddall) neu bobl liwddall
- eu clyw - fel pobl sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw
- eu symudedd - fel y rhai sy'n ei chael yn anodd defnyddio llygoden neu fysellfwrdd
- eu meddwl a’u dealltwriaeth - fel pobl â dyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau dysgu.
Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1, sy'n seiliedig ar 4 egwyddor ddylunio:
- clir
- ymarferol
- dealladwy
- cadarn
Drwy ganolbwyntio ar egwyddorion, nid ar dechnoleg, byddwn yn ystyried yr angen i feddwl am y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn rhyngweithio â chynnwys.
Mae Egwyddor 1 ac elfennau o Egwyddor 4 yn berthnasol i'r deunyddiau cymorth sy'n gysylltiedig â'r system ddigidol. Mae Egwyddor 2, 3 ac elfennau o Egwyddor 4 yn fwy penodol i'r system ei hun.
Egwyddor 1: clir
Er mwyn bodloni Egwyddor 1: clir WCAG 2.1 (ar w3.org) byddwn yn gwneud yn siŵr bod defnyddwyr yn gallu adnabod a defnyddio’r gwasanaeth gyda’r synhwyrau sydd ar gael iddynt, megis drwy:
- ddarparu testunau amgen (testun ‘alt') ar gyfer cynnwys nad yw'n destun
- darparu trawsgrifiadau ar gyfer sain a fideo
- darparu teitlau ar y sgrin ar gyfer fideo
- sicrhau bod cynnwys wedi'i strwythuro'n rhesymegol a bod modd i raglen darllen sgrin ei lywio a'i ddarllen - mae hyn hefyd yn helpu os yw dalenni arddull wedi'u hanalluogi
- defnyddio lliwiau testun sy'n ymddangos yn glir yn erbyn lliw’r cefndir
- sicrhau y gellir defnyddio pob nodwedd pan fydd maint y testun yn cynyddu 200% a bod y cynnwys hwnnw'n ail-lifo i un golofn pan gaiff ei gynyddu 400%
- sicrhau bod ein gwasanaeth yn ymatebol - er enghraifft i ddyfais y defnyddiwr, gogwydd y dudalen a maint y ffont y maent yn hoffi ei ddefnyddio
- sicrhau bod ein gwasanaeth yn gweithio'n dda gyda thechnolegau cynorthwyol - er enghraifft, mae negeseuon pwysig yn cael eu marcio mewn ffordd sy’n cyfleu i’r rhaglenni darllen sgrin eu bod yn bwysig.
Egwyddor 2: ymarferol
Er mwyn bodloni Egwyddor 2: ymarferol WCAG 2.1 (ar w3.org) byddwn yn gwneud yn siŵr bod defnyddwyr yn gallu dod o hyd i gynnwys a'i ddefnyddio, ni waeth sut y maent yn dewis cael gafael arno (er enghraifft, defnyddio bysellfwrdd neu orchmynion llais), megis drwy:
- sicrhau bod popeth yn gweithio i rai sy’n defnyddio bysellfwrdd yn unig
- galluogi pobl i chwarae, rhewi a stopio unrhyw gynnwys sy'n symud
- peidio â defnyddio cynnwys sy'n fflachio - na gadael i'r defnyddiwr analluogi animeiddiadau
- darparu dolen 'ymlaen i’r cynnwys’
- defnyddio teitlau disgrifiadol ar gyfer tudalennau a fframiau
- sicrhau bod defnyddwyr yn gallu symud drwy’r cynnwys mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr
- defnyddio dolenni disgrifiadol fel bod defnyddwyr yn gwybod i ble y bydd dolen yn mynd â nhw, neu beth yw’r cynnwys cysylltiedig y mae modd ei lawrlwytho
- defnyddio penawdau a labeli ystyrlon, gan sicrhau bod unrhyw labeli hygyrch yn cyfateb neu'n debyg iawn i'r label yr ydym yn ei defnyddio yn y rhyngwyneb
- ei gwneud yn hawdd i rai sy’n defnyddio bysellfwrdd weld yr eitem y mae eu bysellfwrdd neu dechnoleg gynorthwyol yn canolbwyntio arni ar unrhyw adeg - gelwir hyn yn 'ffocws gweithredol’
- defnyddio pethau fel digwyddiadau llygoden neu ryngweithiadau deinamig (fel sweipio neu binsio) dim ond pan fyddant yn gwbl angenrheidiol - neu adael i'r defnyddiwr eu hanalluogi a rhyngweithio â'r rhyngwyneb mewn ffordd wahanol
- ei gwneud yn hawdd i ddefnyddwyr analluogi a newid llwybr byr ar y bysellfwrdd
Egwyddor 3: dealladwy
Er mwyn bodloni Egwyddor 3: dealladwy WCAG 2.1 (ar w3.org) WCAG 2.1 byddwn yn gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu deall y cynnwys a sut mae'r gwasanaeth yn gweithio, megis drwy:
- ddefnyddio Cymraeg/Saesneg (ar GOV.UK) clir
- cadw brawddegau'n fyr
- peidio â defnyddio geiriau ac ymadroddion na fydd pobl yn eu deall - neu roi esboniad os na allwn osgoi gwneud hynny
- esbonio’r holl fyrfoddau ac acronymau, oni bai eu bod yn adnabyddus ac yn cael eu defnyddio'n gyffredin - er enghraifft y DU, yr UE, TAW
- ei gwneud yn glir ym mha iaith y mae'r cynnwys wedi'i ysgrifennu, a nodi os bydd hyn yn newid
- sicrhau bod nodweddion yn edrych yn gyson ac yn ymddwyn mewn ffyrdd y gellir eu rhagweld
- sicrhau bod labeli gweladwy ac ystyrlon ar gyfer pob blwch ar ffurflen - a'u bod wedi'u marcio'n briodol
- ei gwneud yn hawdd i bobl adnabod a chywiro gwallau mewn ffurflenni yn unol â’r arferion gorau ar gyfer dylunio ffurflenni fel y nodir yn GOV.UK Design System (ar GOV.UK)
Egwyddor 4: cadarn
Er mwyn bodloni Egwyddor 4: Cadarn WCAG 2.1 (ar w3.org) byddwn yn gwneud yn siŵr y gall ein cynnwys gael ei ddehongli’n ddibynadwy gan amrywiaeth eang o asiantau defnyddwyr (gan gynnwys porwyr a thechnolegau cynorthwyol eithaf hen, rhai cyfredol a rhai a ragwelir), megis drwy:
- ddefnyddio HTML dilys fel y gall asiantau defnyddwyr, gan gynnwys technolegau cynorthwyol, ddehongli a dosbarthu cynnwys yn gywir
- sicrhau bod ein cod yn rhoi gwybod i dechnolegau cynorthwyol ar gyfer beth mae pob cydran o’r rhyngwyneb defnyddwyr, beth yw eu cyflwr ar unrhyw adeg ac a ydynt yn newid
- sicrhau bod negeseuon statws pwysig neu ddeialogau moddol yn cael eu marcio mewn ffordd sy'n rhoi gwybod i'r defnyddiwr am eu presenoldeb a'u diben, ac yn gadael iddynt ryngweithio â nhw gan ddefnyddio eu technoleg gynorthwyol
- gadael i'r defnyddiwr ddychwelyd i'r hyn yr oedd yn ei wneud ar ôl iddo ryngweithio â'r neges statws neu fewnbwn moddol.