Sut rydym yn trin unrhyw ddata personol a gyflwynwch fel darparwr gofal plant gan ddefnyddio gwasanaeth Cynnig Gofal Plant Cymru.
Cynnwys
Pa ddata personol a ddelir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?
Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy a allai gael ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ffactor adnabod'. Caiff data categori arbennig megis grŵp ethnig neu gyflwr iechyd eu diogelu ymhellach o dan y gyfraith diogelu data.
Caiff y data rydym yn eu casglu am leoliadau gofal plant eu hegluro'n fanylach yn Atodiad 1 i'r hysbysiad preifatrwydd hwn.
Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?
Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus, hynny yw arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i weithredu'r Cynnig Gofal Plant, ac yn darparu gwybodaeth a fydd yn helpu Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch datblygu'r polisi, sy'n cael ei gyflwyno i wella llesiant economaidd a chymdeithasol yng Nghymru yn unol ag adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
At ba ddiben y defnyddir y data?
Caiff y data eu defnyddio ar gyfer y canlynol:
- galluogi rhieni i ddewis y lleoliad gofal plant o'u dewis ar y gwasanaeth digidol a chreu cytundeb ar gyfer oriau gofal plant o dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru (y Cynnig)
- gwneud taliadau i chi am oriau gofal plant a hawlir o dan y Cynnig
- darparu adroddiadau ar gyfer awdurdodau lleol (ALl) i helpu i hyrwyddo, darparu ac adrodd ar gynnydd y Cynnig
- at ddibenion gwerthuso rhaglenni ac ymchwil
Efallai y byddwn hefyd yn rhannu rhywfaint o ddata a ddarperir gennych gydag awdurdodau lleol ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn gwirio pwy ydych chi a datrys problemau TG mewn perthynas â chael mynediad at wasanaeth digidol y Cynnig. Gweler Atodiad 1 am restr o'r data a gasglwn a phwy gaiff eu gweld.
Caiff rhaglen y Cynnig ei gwerthuso o bryd i'w gilydd er mwyn asesu perfformiad y rhaglen a helpu Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch datblygu'r polisi mewn perthynas â’r Cynnig. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi ynghylch cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil sy'n gysylltiedig â'r Cynnig Gofal Plant, cewch hysbysiad preifatrwydd ar wahân yn amlinellu sut y bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan yr ymchwil yn cael ei chasglu, ei chadw a'i defnyddio. Mae cymryd rhan yn yr ymchwil yn wirfoddol ac ni chewch eich enwi yn unrhyw adroddiad.
Cysylltir eich data'n ddienw â ffynonellau data eraill fel rhan o'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig, oni bai eich bod yn gofyn nad yw hynny'n digwydd (gweler y nodyn esboniadol).
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
O dan GDPR, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych. Rydym yn defnyddio technolegau blaenllaw a meddalwedd amgryptio i ddiogelu eich data ac yn cadw at safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad heb awdurdod ato.
Dim ond chi a staff awdurdodedig sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, ac unrhyw gontractwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru, fydd â mynediad at eich data. Gweler Atodiad 1 am ddadansoddiad o'r data a gasglwn a phwy all eu gweld.
Bydd yr holl ddata a gesglir yn cael eu defnyddio'n ddienw mewn adroddiadau ystadegol neu adroddiadau ymchwil. Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu cynnwys mewn unrhyw adroddiadau, nac unrhyw wybodaeth y gellid eu defnyddio i'ch adnabod. Bydd data cyfun hefyd yn cael eu rhoi ar wefan StatsCymru.
Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad o'r Cynnig Gofal Plant, bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud heblaw o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer y contractau
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?
Rhaid cydymffurfio â’r terfynau amser canlynol ar gyfer dinistrio data:
- o fewn 18 mis ar ôl i’r darparwr ddadgofrestru ar gyfer darparu’r Cynnig Gofal Plant
- data trafodion ariannol i'w gadw at ddibenion treth yn unol â chyfnod cadw statudol o 7 mlynedd
Hawliau unigol
O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu fel rhan o'r Cynnig Gofal Plant. Mae hawl gennych i’r canlynol:
- gweld copi o'ch data
- gofyn inni gywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn y data hynny
- gwrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (mewn rai amgylchiadau)
- Yr hawl i fynnu bod eich data yn cael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
- Yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Rhagor o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio eich data, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Tîm y Cynnig Gofal Plant
Adeiladau'r Goron, CP2
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Trafodgofalplant@llyw.cymru
Gweler y manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru isod:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru.
Nodyn esboniadol
Mae Banc Data SAIL yn cynnwys data dienw am boblogaeth Cymru. Caiff ei gydnabod yn rhyngwladol am ei system storio gadarn a diogel a'r defnydd o ddata personol dienw ar gyfer ymchwil i wella iechyd, lles a gwasanaethau. Gall ymatebwyr ddewis a ydynt eisiau i'w hatebion gael eu cysylltu â ffynonellau eraill ai peidio. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hynny neu ynghylch cysylltu data.
Atodiad 1: data a gedwir am ddarparwyr
Darparwyr gofal plant sy'n darparu gwasanaethau o dan y Cynnig Gofal Plant
Fel darparwr sy'n darparu gwasanaethau o dan y Cynnig Gofal Plant i Gymru rydym yn casglu'r wybodaeth ganlynol amdanoch:
Eich data personol | Pwy all weld y wybodaeth hon |
---|---|
Enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt ar gyfer person sy'n cofrestru lleoliad ar y gwasanaeth digidol, neu'n ymuno â lleoliad sy'n bodoli eisoes | Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru |
A yw'n well gennych gyfathrebu yn Gymraeg/ Saesneg | Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru |
Eich rôl – p'un a ydych yn cofrestru lleoliad newydd neu'n ymuno â lleoliad sy'n bodoli eisoes | Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru |
A ydych wedi cofrestru gydag AGC neu Ofsted | Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru |
Rhif cofrestru AGC, Rhif Lleoliad (SIN) a chod post cofrestredig | Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru |
Enw, cyfeiriad a chod post y lleoliad, | Chi, rhieni sy'n gwneud cais am y Cynnig, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru |
Cyfeiriad e-bost, rhif cyswllt ac awdurdod lleol y lleoliad | Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru |
Manylion banc – enw ar y cyfrif, cod didoli, rhif cyfrif, rhif cofrestr y gymdeithas adeiladu | Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru |
PIN actifadu | Chi |
Hawliadau rydych wedi'u gwneud mewn perthynas â phlentyn | Chi, rhiant y plentyn rydych wedi gwneud hawliad yn ei gylch o dan y Cynnig, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru |