Mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi amlinellu cynlluniau i gyflwyno Bil Brys i amddiffyn datganoli.
Gofynnir i Aelodau'r Cynulliad ystyried cyflwyno'r Bil Parhad fel Bil Brys, i geisio trosglwyddo Cyfraith yr UE mewn meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli i fod yn rhan o gyfraith Cymru ar y diwrnod y bydd y DU yn ymadael â'r UE. Bydd hyn yn rhoi i fusnesau Cymru'r sefydlogrwydd a'r sicrwydd cyfreithiol y maent wedi bod yn galw amdanynt gyhyd.
Yr opsiwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio o hyd yw i Lywodraeth y DU ddiwygio ei Bil Ymadael arfaethedig. Ond gan fod cymaint o amser wedi pasio heb unrhyw gytundeb rhwng y llywodraethau ar y diwygiadau gofynnol, mae angen bwrw ymlaen â'r Bil Parhad fel ail ddewis i amddiffyn datganoli yng Nghymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:
"Byddai'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, yn caniatáu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd rheolaeth dros gyfreithiau a meysydd polisi sydd wedi'u datganoli. Dydy hyn ddim yn dderbyniol o gwbl i Lywodraeth Cymru, nac i bobl Cymru sydd wedi pleidleisio dros ddatganoli mewn dau refferendwm.
"Bydd y penderfyniadau a wneir yn awr yn effeithio ar Gymru am ddegawdau i ddod. Mae'n hanfodol i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud mewn ffordd sy'n parchu datganoli.
"Rydyn ni’n parhau i fod yn bartneriaid adeiladol mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig am newidiadau i'w Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd - a dyna'r dewis rydyn ni'n ei ffafrio o hyd. Fodd bynnag, mae amser yn brin, ac rydyn ni wedi datblygu ein Bil ein hunain i baratoi ar gyfer sefyllfa lle nad yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn diwygio ei Bil Ymadael yn ddigonol i barchu'r setliad datganoli.
"Byddai'n anghyfrifol gwrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol i Fil Llywodraeth y Deyrnas Unedig heb fod yn barod i osod ein mesurau ein hunain yn eu lle i roi eglurder am gyfraith sy'n deillio o'r Undeb Ewropeaidd yng Nghymru yn ymwneud â materion datganoledig.
"Gadewch i mi ddweud yn glir, ni fydd ein Bil yn ymgais i rwystro nac atal Brexit. Yr unig beth rydyn ni'n ceisio ei wneud yw amddiffyn y setliad datganoli presennol i Gymru, gan wneud yn siŵr bod sicrwydd cyfreithiol pan fydd y Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dyma mae busnesau Cymru yn galw amdano.
"Doedd y bleidlais dros ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ddim yn bleidlais dros wyrdroi datganoli. Mae'r setliad datganoli presennol yng Nghymru wedi cael cefnogaeth mewn dau refferendwm - yn 1997 a 2011. Nod y Bil hwn yw parchu ewyllys pobl Cymru."