Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Mwy o Swyddi

Mae Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi manylion yr uwchgynhadledd buddsoddi rhyngwladol fawr sy'n cael ei chynnal yng Nghymru yn nes ymlaen eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ddydd Llun 1 Rhagfyr, yng Nghanolfan Gynadledda Rhyngwladol Cymru (ICC Cymru) a chyrchfan y Celtic Manor yng Nghasnewydd.

Bydd yn canolbwyntio ar hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i fuddsoddwyr tramor. Ar hyn o bryd mae tua 1,480 o gwmnïau dan berchnogaeth dramor yn gweithredu yng Nghymru, gan gyflogi mwy na 174,000 o weithwyr.

I gyd-fynd â'r cyhoeddiad heddiw, mae Cadence Design Systems Inc, arweinydd meddalwedd dylunio lled-ddargludyddion o'r Unol Daleithiau, wedi cyhoeddi cynlluniau i agor canolfan ddylunio newydd yng Nghaerdydd, gan greu mwy na 100 o swyddi medrus iawn. Bydd Canolfan Ddylunio Cadence, menter ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Compound Semiconductor Applications Catapult, yn dylunio sglodion ar gyfer lled-ddargludyddion, gan greu cronfa gref o raddedigion talentog i helpu i fynd i'r afael â phrinder sgiliau yn y diwydiant.

Yn siarad cyn yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi, dywedodd y Prif Weinidog:

Mae Cymru'n mynd o nerth i nerth mewn diwydiannau sy'n siapio'r byd, o led-ddargludyddion ar gyfer ffonau symudol a cherbydau trydan i'n diwydiannau creadigol enwog, sy'n allforio rhaglenni teledu a ffilm i gynulleidfaoedd ar hyd a lled y byd.

Twf economaidd yw fy mhrif flaenoriaeth ac rwy'n edrych ymlaen at groesawu'r prif bobl yn y meysydd hyn i'r digwyddiad busnes mwyaf i gael ei gynnal yng Nghymru erioed. Bydd yr Uwchgynhadledd yn gyfle i rannu gyda'r byd y cyfoeth o gyfleoedd sydd ar gael yn ein cenedl ddeinamig, sy'n edrych tua'r dyfodol.

Dywedodd Syr Terence Matthews, Cadeirydd cyrchfan y Celtic Manor:

Rydym yn falch iawn o gael cynnal Uwchgynhadledd Buddsoddi Llywodraeth Cymru yn ICC Cymru a Chyrchfan y Celtic Manor.  Edrychwn ymlaen at groesawu arweinwyr diwydiant o bob cwr o'r byd i Gymru.  

Mae'r Uwchgynhadledd yn gyfle gwych i fusnesau Cymru ddenu buddsoddwyr a rhoi hwb i'r economi.  Digwyddiadau fel hyn yw'r rheswm pam y gwnaethom adeiladu ICC Cymru, gan fod digwyddiadau busnes mor bwysig i greu cysylltiadau a hwyluso masnach a buddsoddiad.  Mae'r amseru’n dda hefyd ar gyfer proffil a thwf mentrau technoleg cyfathrebu newydd yng Nghymru, gan ddefnyddio AI a dylunio a chreu dyfeisiau IoT gan ddefnyddio Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.

Wrth siarad am fuddsoddiad Cadence, dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

Mae partneriaeth gyffrous Cadence gyda Llywodraeth Cymru a CSA Catapult yn atgyfnerthu'r hyder rhyngwladol yn y sector lled-ddargludyddion safon byd-eang yng Nghymru, a hefyd yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda busnesau i greu'r amodau a'r cyfleoedd cywir ar gyfer twf, buddsoddiad a chreu swyddi yma yng Nghymru.

Bydd y Ganolfan Ddylunio'n amrywio'r hyn y gall y sector ei gynnig yma, gan ategu'r gallu i weithgynhyrchu, a manteisio ar y galw cynyddol am ficrosglodion ar gyfer lled-ddargludyddion.

Wrth wraidd y fenter hon ar y cyd mae'r ymdrech i recriwtio a hyfforddi talentau lleol, darparu gyrfaoedd â chyflog da i raddedigion a chreu cronfa gadarn o weithwyr proffesiynol medrus mewn diwydiannau uwch-dechnoleg sy'n cefnogi ein Cynllun Gweithredu Sero Net yn uniongyrchol.

Dywedodd Martin McHugh, Prif Swyddog Gweithredol CSA Catapult:

Mae creu'r ganolfan ddylunio lled-ddargludyddion newydd yn garreg filltir bwysig i'r diwydiant lled-ddargludyddion yn y DU. Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Cadence Design Systems a Llywodraeth Cymru i greu cyfleuster o’r radd flaenaf, gan greu dros gant o swyddi newydd yng Nghymru.

Drwy'r fenter hon ar y cyd gallwn fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau lled-ddargludyddion a chryfhau safle arweinyddiaeth y DU yn y maes dylunio sglodion. Mae'n adeiladu ar lwyddiant y clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru a bydd yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer ecosystem lled-ddargludyddion y DU gyfan. Bydd llwybrau gyrfa newydd ar gyfer graddedigion peirianneg drydanol, cyfrifiadureg a ffiseg. Gyda chefnogaeth Cadence a Llywodraeth Cymru, bydd y ganolfan newydd yn creu partneriaethau rhyngwladol a buddsoddiad pellach i'r DU.