Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfarfod cyntaf Pwyllgor Cabinet Gogledd Cymru yn ystod tymor newydd y Senedd, sy'n dwyn ynghyd holl Weinidogion Llywodraeth Cymru ac arweinwyr Awdurdodau Lleol, wedi'i gynnal heddiw dan gadeiryddiaeth y Gweinidog sy'n gyfrifol am Ogledd Cymru, Lesley Griffiths.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r pwyllgor wedi ymrwymo i barhau i gydweithio ar adferiad y rhanbarth ac i gydweithio ar ddatblygiadau fel metro Gogledd Cymru ac ynni gwyrdd carbon isel.

Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd:

"Braint oedd cael cadeirio cyfarfod cyntaf Pwyllgor Cabinet Gogledd Cymru y tymor hwn.  Mae wedi bod yn gyfle amhrisiadwy i ddod ag arweinwyr yng Ngogledd Cymru at ei gilydd i drafod yr heriau a'r cyfleoedd rydym yn eu hwynebu.

"Rydym oll yn ymwybodol o’r posibiliadau aruthrol sy’n bodoli o fewn y rhanbarth ac mae llawer o ddatblygiadau cyffrous ar y gweill, fel Bargen Twf Gogledd Cymru a'n hymrwymiad parhaus i Fetro Gogledd Cymru.  Mae nifer o gyfleoedd yn y rhanbarth hefyd ar gyfer datblygiadau carbon isel ac ynni gwyrdd a chafodd y rhain eu trafod gan y pwyllgor.

"Er bod heriau wrth i ni ddelio ag effeithiau'r pandemig, rwy'n falch ein bod yn gallu cydweithio ar draws y rhanbarth ar y ffordd ymlaen.  Gall gweithio mewn partneriaeth a chydweithredu dalu ar eu canfed ac rwy'n ddiolchgar am gydweithrediad a chyfraniad ein holl bartneriaid"

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi,

“Rwy’n croesawu’r parhad hwn o ran cyfarfodydd. Mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gryfhau ac adeiladu ar waith y tymor diwethaf a sicrhau bod gan ogledd Cymru lais cryf."

Ychwanegodd

“Fel Grŵp, byddwn yn cydweithio ac yn ymrwymo i fynd ar ôl nifer o ddatblygiadau a fydd yn cefnogi’r ardal a’i thrigolion.”