Cynllunwyr Coetir sy'n gallu cefnogi ymgeiswyr sy'n gwneud cais am ein grantiau coetir.
Cynnwys
Beth yw cynllunwyr coetir cofrestredig a beth maen nhw'n ei wneud
Mae cynllunwyr coetir cofrestredig yn goedwigwyr a rheolwyr tir profiadol. Maen nhw wedi gwneud cais i fod yn rhan o'r Gofrestr. Maen nhw'n rhoi cyngor proffesiynol am blannu a rheoli coetiroedd.
Maen nhw'n gweithio gydag ymgeiswyr i gynllunio, paratoi a chyflwyno cynllun coetir ar eu rhan. Os ydych am wneud gweithgareddau coetir ar eich tir a gwneud cais am grant coetir oddi wrth Lywodraeth Cymru, bydd angen ichi ddefnyddio cynllunydd coetir cofrestredig. Mae arian ar gael i dalu am gost paratoi cynllun.
Beth yw'r gofynion er mwyn bod yn gymwys i fod yn gynllunydd coetir cofrestredig?
I fod yn gymwys i fod ar y Gofrestr, mae angen i gynllunwyr coetir cofrestredig wneud y canlynol:
- naill ai fod yn aelod o Sefydliad Siartredig fel:
- Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig
- Y Sefydliad Siartredig Ecoleg a Rheoli Amgylcheddol
- Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig
- neu ddarparu tystiolaeth i ddangos eu bod wedi ysgrifennu cynlluniau coetir sy'n bodloni Safon Goedwigaeth y DU (UKFS) yn ystod y 5 mlynedd diwethaf
- cytuno â'r Telerau a'r Amodau
- darparu tystiolaeth i ddangos bod ganddynt Yswiriant Indemniad Proffesiynol cyfredol hyd at £500,000.
Sut i benodi Cynllunydd Coetir Cofrestredig
Mae'r wybodaeth ar y rhestr cynllunwyr coetir yn cynnwys:
- y rhanbarthau lle maen nhw'n gweithio
- eu manylion cyswllt
- bywgraffiad byr o'r gwaith maen nhw'n ei wneud
er mwyn ichi fedru cysylltu â chynllunydd sy'n briodol ar gyfer eich gofynion chi.
Unwaith y byddwch wedi:
- dewis cynllunydd, ac
- wedi penderfynu gwneud cais am grant coetir perthnasol,
bydd angen ichi ddewis busnes y cynllunydd hwnnw wrth ichi wneud cais drwy RPW (Taliadau Gwledig Cymru) Ar-lein. Gweler RPW Ar-lein: sut i gofrestru.
Sut i ddod yn Gynllunydd Cofrestredig
Os ydych chi'n:
- gynllunydd coetir, neu'n
- fusnes cynllunio coetiroedd
ac yr hoffech gael eich cynnwys ar y Gofrestr, gweler Ymuno â'r Gofrestr Cynllunwyr Coetir.