Mae moroedd Cymru yn darparu nifer o gyfleoedd cyffrous ar gyfer ‘twf glas’, ond er mwyn gwneud y mwyaf ohonynt mae’n hanfodol gallu sicrhau bod adnoddau naturiol pwysig yn cael eu diogelu.
Yn ystod dadl yn y cyfarfod llawn ar ôl lansio ymgynghoriad ffurfiol ar ddrafft o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru fis diwethaf, disgrifiodd, Lesley Griffiths sut y bydd y cynllun yn nodi’r cyfle i feithrin twf mewn amryw o feysydd. Meysydd fel ynni adnewyddadwy ar y môr, dyframaethu, gweithgarwch morgludiant, ac yn bwysicach na hynny, twristiaeth a gweithgareddau hamdden.
Wrth gydnabod y cyfle sy’n cael ei gynnig gan foroedd Cymru, rhybuddiodd Ysgrifennydd y Cabinet bod rhaid eu rheoli yn ofalus er mwyn caniatáu i’r gweithgareddau amrywiol hyn barhau, a thyfu, pan fo hynny’n briodol, ochr yn ochr â’i gilydd, yn un â’n hamgylchedd naturiol.
Mae’r cynllun morol drafft hwn, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn cynnwys polisïau ar ystod eang o bynciau a gweithgareddau, sydd i gyd i’w canfod, a hynny am y tro cyntaf, mewn un ddogfen. Mae hyn yn cynnwys cynigion sy’n anelu at ddiogelu adnoddau naturiol pwysig.
Bydd rhaid i ddatblygwyr ystyried y polisïau hyn wrth iddynt roi cynigion newydd gerbron, a chan awdurdodau cyhoeddus wrth iddynt roi trwyddedau i ganiatáu gweithgareddau penodol, fel enghraifft.
Dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae hanes morol Cymru yn hanes hir ac yn hanes y dylid bod yn falch iawn ohono. Mae ein moroedd yn bwysig iawn i ni. Maent yn arbennig, yn llawn adnoddau naturiol, yn eiconig ac yn ysbrydoli. Maent yn llawn bywyd gwyllt rhyfeddol ac mae dyletswydd arnom i’w gwarchod. Bydd hyn o fudd i ni yn y dyfodol. Yn anffodus, o dro i dro, mae eu pwysigrwydd yn cael ei anghofio.
“Wrth i’n moroedd brysuro, mae’n agor y drws i wrthdaro. Perygl hynny, yw bod ein gwytnwch morol yn cael ei danseilio. Oherwydd hynny, mae cynllunio morol strategol yn gwbl hanfodol. Gyda chynllunio effeithiol mae posib i’n diwydiannau morol dyfu a ffynnu, wrth ddiogelu’n treftadaeth werthfawr naturiol.
“Mae’r cynigion sy’n cael eu hamlinellu gennym yn y Cynllun Morol drafft yn cydnabod rhinweddau arbennig ein moroedd a’n bywyd gwyllt a’r manteision sylweddol a ddaw yn eu sgil.
“Mae cyflwyno’r cynllun yn gam pwysig yn y broses o ddod â nifer o bolisïau a sefydliadau ynghyd, a hynny er mwyn canolbwyntio ar yr hyn sy’n cyfri, sef gofalu am ein moroedd yn y tymor hir. Mae hefyd yn ein cynorthwyo i weld problemau a mynd i’r afael â’r problemau hynny yn fuan, a chydweithio i gyflawni canlyniadau go iawn.
"Mae’r posibiliadau o ran mantais “twf glas” i Gymru yn gyffrous ac yn sylweddol. Drwy sicrhau bod pawb sy’n defnyddio’r môr yn ystyried gweithgareddau’r naill a’r llall a’r amgylchedd, heb sôn am y posibiliadau yn y dyfodol, gall y cenedlaethau sydd i ddod barhau i fwynhau ein moroedd a gwneud y mwyaf ohonynt”.