Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar ei chynlluniau i ddod â chosbi plant yn gorfforol i ben yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, lansiodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies AC, ymgynghoriad 12 wythnos o hyd ar y cynnig gan Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r amddiffyniad cosb resymol - rhan o becyn ehangach o fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu gweithredu i geisio sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl i fywyd, ac i gefnogi eu rhieni i wneud y gorau y gallan nhw dros eu plant.  

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes profedig o weithio i sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl i fywyd, yn ogystal â hanes o hyrwyddo hawliau plant. Dyma pam y mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i'w gwneud hi'n eglur bod cosbi plentyn yn gorfforol bellach yn annerbyniol yng Nghymru.

Nid yw'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn golygu creu trosedd newydd. Yn hytrach, mae'n diddymu amddiffyniad mewn perthynas â throseddau sy'n bodoli eisoes, sef ymosod a churo. Byddai'n golygu na fyddai oedolyn sy'n gofalu am blentyn bellach yn gallu, o dan y gyfraith, ddefnyddio cosb gorfforol yn erbyn y plentyn hwnnw. 

Dywedodd y Gweinidog mai nod Llywodraeth Cymru yw cyflymu'r tueddiadau sydd i'w gweld o ran y ffordd y mae rhieni yng Nghymru'n disgyblu eu plant a'u cefnogi i fod yn ddigon hyderus i ddewis a defnyddio dulliau disgyblu mwy cadarnhaol. 

Wrth lansio'r ymgynghoriad, dywedodd Huw Irranca-Davies:

“Rydym oll am roi'r cychwyn gorau posib mewn bywyd i'n plant. Fel rhiant i dri o blant fy hun, dw i'n ymwybodol y gall magu plant fod yn anodd. ‘Dyw plant ddim yn dod gyda chyfarwyddiadau ac weithiau mae angen help a chefnogaeth ar rieni i'w helpu i fagu plant iach a bodlon. 

“Mae ein gwybodaeth am beth sydd ei angen ar blentyn i brifio a ffynnu wedi datblygu'n sylweddol dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Rydym yn gwybod bellach y gall cosb gorfforol gael effaith hirdymor negyddol ar gyfleoedd bywyd plant ac rydym hefyd yn gwybod nad yw'n effeithiol fel cosb. Roedd cosbi plant yn gorfforol yn cael ei dderbyn fel arfer normal gan genedlaethau'r gorffennol, ond gwyddwn ei fod yn cael ei ystyried fwyfwy'n rhywbeth llai derbyniol a bod rhieni'n teimlo'n llai cyffyrddus yn ei wneud. 

“Rydym am i rieni yng Nghymru fod yn hyderus wrth reoli ymddygiad eu plant, a hynny heb deimlo bod angen iddynt droi at gosb gorfforol. Os oes risg posib i blant, mae'n ddyletswydd arnom, fel Llywodraeth, i weithredu. Flynyddoedd maith yn ôl, cyflwynwyd deddfwriaeth i wahardd cosb gorfforol mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant – nawr yw'r amser i sicrhau nad yw cosb gorfforol bellach yn dderbyniol yn unrhyw le.

“Dyma pam rydyn ni, fel Llywodraeth, am gyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu'r amddiffyniad cosb resymol, i'w gwneud yn hollol glir nad yw cosbi plant yn gorfforol bellach yn dderbyniol yng Nghymru. 

“Dwi'n ymwybodol bod barn yn amrywio ar y ddeddfwriaeth hon; mae'r ymgynghoriad hwn, felly, yn gyfle i bawb ddweud eu dweud er mwyn inni geisio mynd i'r afael â'r pryderon wrth ddatblygu'r ddeddfwriaeth.” 

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 2ail Ebrill 2018.