Neidio i'r prif gynnwy

Wedi iddo ymweld â’r Ganolfan Rheoli Traffig yng Nghonwy, dywedodd Ken Skates fod cynlluniau yn eu lle i sicrhau bod modd i bobl deithio o le i le dros fisoedd y gaeaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r ganolfan ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos gydol y flwyddyn a hynny er mwyn sicrhau bod traffig yn symud ar yr A55 ac ar  gefnffyrdd y Gogledd a’r Canolbarth. Mae canolfan debyg yn Coryton ac mae honno’n gwasanaethu’r De. Mae’r canolfannau hefyd yn cydlynu gwaith y Swyddogion Traffig sy’n cynorthwyo gyda’r gwaith o sicrhau bod traffig yn parhau i symud ar yr A55 ac ar yr M4.  

Dyma’r mesurau sydd wedi’u rhoi ar waith ar gyfer y gaeaf:

  • Ailstocio halen yn ystod misoedd yr haf i sicrhau bod o leiaf 250,000 o dunelli o halen ar gael
  • Cydweithredu ag awdurdodau lleol a CLlLC i asesu lefelau’r halen cyn tymor y gaeaf a’u monitro’n barhaus
  • Cadw llygaid ar y cefnffyrdd cyn ac ar ôl cyfnod o dywydd garw i sicrhau bod y systemau draenio yn gweithio
  • Mae’r gorsafoedd tywydd wedi’u cynnal a’u cadw a bydd gorsafoedd tywydd ychwanegol yn cael eu gosod mewn lleoliadau a fydd yn cael budd ohonynt a hynny er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth fwyaf cywir ar gael o ran y tywydd a chyflwr y ffyrdd 
  • Cytundeb gyda’r cwmnïau bysiau i roi gwybod i Traveline Cymru yn syth am unrhyw anawsterau y gellir eu rhannu drwy’r cyfryngau cymdeithasol ac am rybuddion teithio y gellir eu cyhoeddi ar y cyfryngau
  • Buddsoddi mewn systemau negeseuon electronig newydd ar gyfer Pont Britannia gan ganiatáu i draffig gael ei reoli o bell pan fo gwyntoedd uchel hyd at 70mya. Bydd cerbydau heblaw am geir yn cael eu dargyfeirio at Bont Menai mewn achosion o’r fath

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi: 

“Mae Canolfan Rheoli Traffig y Gogledd yn rhoi sylw o ddydd i ddydd i’r gwaith sy’n mynd rhagddo 24/7, a hynny er mwyn sicrhau bod yr A55 a’r cefnffyrdd eraill yn parhau ar agor.

“Mae staff dynodedig yn monitro’r llwybrau ac yn cymryd camau i sicrhau bod cymorth ar gael yn syth er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw broblemau posibl. Bydd hynny’n sicrhau bod traffig yn parhau i symud.  

“Yn aml, misoedd y gaeaf yw’r rhai mwyaf heriol ac mae mesurau ar droed i gael trosolwg clir o’r sefyllfa ledled Cymru er mwn gallu gweithredu pan fo angen a rhoi gwybod yn gyflym i’r cyhoedd sy’n teithio am unrhyw  broblemau posibl.”