Neidio i'r prif gynnwy

Mae adrannau'r Llywodraeth ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn profi cynlluniau wrth gefn ar gyfer clefyd Affricanaidd y Moch gydag Ymarfer Holly.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd ymarfer ledled y DU sy'n efelychu achosion o glwy Affricanaidd y Moch (ASF) yn cael ei gynnal yr wythnos hon i brofi cynlluniau wrth gefn y llywodraeth i gynnwys a dileu'r clefyd pe bai'n cyrraedd y DU.

Mae ASF yn glefyd sy'n effeithio ar foch a baedd gwyllt, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi bod yn cylchredeg mewn rhannau o Asia ac Affrica, gan arwain at farwolaeth miliynau o foch ledled y byd a tharfu yn sylweddol ar y fasnach gig. Mae'r clefyd hefyd wedi lledu i rannau o Ddwyrain Ewrop drwy symud baedd gwyllt. Er na fu erioed achosion o ASF yn y DU, mae'r ymarfer ffug yn rhan bwysig o brofi cynlluniau'r DU i atal ac ymateb i achosion posibl yn y dyfodol.

Nid yw ASF yn peri unrhyw risg i iechyd pobl gan mai dim ond moch ac anifeiliaid cysylltiedig y mae'n effeithio arnynt. Mae ASF yn ymledu rhwng anifeiliaid, ond gellir trosglwyddo'r feirws hefyd drwy fwydo cig heintiedig i anifeiliaid eraill. Ar hyn o bryd, mae'r llywodraeth yn credu bod y risg y bydd y feirws yn dod i mewn i'r DU mewn cynhyrchion anifeiliaid o wledydd yr effeithir arnynt, gan gynnwys mewnforion anghyfreithlon, yn risg 'canolig'.

Bydd yr ymarfer, a enwir yn 'Ymarfer Holly', yn gweld Llywodraeth Cymru, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Defra, Llywodraeth yr Alban a'r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon (DAERA-NI) yn cydweithio i brofi cynlluniau wrth gefn y llywodraeth i ymateb i achosion o ASF o fewn y gwledydd, gan alluogi timau o bob rhan o'r DU i gydweithio i asesu parodrwydd y DU i reoli achosion o'r fath.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd pedwar Prif Swyddog Milfeddygol y DU:

"Mae'r risg y bydd clwy Affricanaidd y moch yn cyrraedd y DU yn rhywbeth y dylem ei ystyried a byddai'n cael effaith ddinistriol ar ein moch a'n ceidwaid moch pe bai'n cyrraedd yma.  Rydym yn profi ein cynlluniau wrth gefn yn rheolaidd fel hyn er mwyn sicrhau ein bod yn barod i ymateb i achosion posibl o glefydau yn y dyfodol.

"Gall pawb wneud eu rhan i helpu i atal clefydau anifeiliaid rhag lledaenu i'r wlad hon drwy weithredoedd syml fel peidio â dod ag unrhyw gynnyrch porc yn ôl i'r DU a gwaredu bwyd dros ben a gwastraff bwyd mewn biniau diogel na all bywyd gwyllt eu cyrraedd."

Bydd yr ymarfer yn helpu i wella gallu'r DU i ymateb i glefydau anifeiliaid drwy brofi cynlluniau, cyfarwyddiadau a'r strwythurau a ddefnyddir i reoli achosion.

Nid yw ASF yn peri unrhyw risg i iechyd pobl gan mai dim ond moch ac anifeiliaid cysylltiedig y mae'n effeithio arnynt. Gall pawb helpu i atal lledaeniad ASF i'r DU drwy wneud y canlynol:

  • os ydych wedi ymweld ag ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan ASF yn Ewrop, neu rywle arall yn y byd, rhaid i chi beidio â dod ag unrhyw gynnyrch porc neu borc yn ôl i'r DU.
  • gwaredu bwyd dros ben neu wastraff bwyd mewn biniau diogel na all moch neu fywyd gwyllt eu cyrraedd.
  • dylai ffermwyr, y cyhoedd ac aelodau o'r diwydiant bwyd ymarfer safonau bioddiogelwch uchel, gan gynnwys peidio byth â bwydo gwastraff arlwyo, gweddillion o’r gegin na chynhyrchion cig i foch, sy'n anghyfreithlon, ac sy'n gallu lledaenu'r clefyd.

Mae'r Llywodraeth yn monitro achosion o glefydau ledled y byd yn barhaus er mwyn asesu a allai fod risgiau i'r DU ac mae'n cymryd camau i gyfyngu ar y risg y bydd y clefyd yn cyrraedd ein gwledydd.

Mae'r Llywodraeth yn monitro achosion o glefydau ledled y byd yn barhaus er mwyn asesu a allai fod risgiau i'r DU ac mae'n cymryd camau i gyfyngu ar y risg y bydd y clefyd yn cyrraedd ein gwledydd.

Bydd adroddiad gwersi a ddysgwyd yn cael ei gyhoeddi ar ôl yr ymarfer, gydag unrhyw welliannau'n cael eu rhoi ar waith i gryfhau ein cynlluniau wrth gefn.