Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Ysgrifennydd dros yr Economi, Ken Skates, wedi cyhoeddi grantiau trafnidiaeth gwerth £31.4 miliwn i awdurdodau lleol ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r dyraniad hwn yn dod o bedair cronfa wahanol: £20 miliwn drwy'r Gronfa Trafnidiaeth Leol, bron £4 miliwn o'r Grant Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd, £5.5 miliwn drwy'r Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau a bron £2 filiwn ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant ar ddiogelwch ar y ffyrdd.
Dywedodd Ken Skates:
"Dw i wrth fy modd â'r amrywiaeth o gynlluniau dw i wedi gallu'u cyhoeddi heddiw a hoffwn ganmol ansawdd uchel y ceisiadau a ddaeth i law ar gyfer y grantiau hyn.
"Mae'n dda gweld hefyd fod nifer o'r prosiectau hyn yn cyfrannu'n uniongyrchol ar rai o'n blaenoriaethau allweddol ym maes trafnidiaeth, megis Metro'r Gogledd-ddwyrain a Metro'r De, gwell gwasanaethau bysiau a gwell dewisiadau ar gyfer cymunedau.  
“Cefais gyfle yn Llangefni yr wythnos diwethaf i weld â'm llygaid fy hun beth all buddsoddiad fel hwn ei olygu i'r gymuned ehangach – lleihau tagfeydd, cysylltu cymunedau â hyfforddiant, swyddi ac Ardaloedd Menter, cefnogi twf economaidd, a sicrhau bod mwy yn gallu manteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ar deithio llesol.
“O Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy – Mynediad at Gyflogaeth yn Sir y Fflint, i Welliannau o ran Mynediad i Ganol y Dref yn Abergwaun yn Sir Benfro, dw i'n ffyddiog y bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn helpu i gael effaith debyg ar ein cymunedau, a dw i'n edrych 'mlaen at weld cymunedau'n elwa arno cyn gynted ag y bo modd."
Drwy'r £20 miliwn dan y Gronfa Trafnidiaeth Leol, bydd cymunedau ym mhob cwr o Gymru yn elwa ar 46 o gynlluniau ar draws 20 o awdurdodau lleol, a bydd y Grant Cyfalaf Diogelwch ar y Ffyrdd yn golygu y bydd modd cyflwyno 31 o gynlluniau mewn 16 o awdurdodau lleol i leihau’r niferoedd sy'n cael eu hanafu ar y ffordd. Mae'r cynlluniau hyn yn targedu'r lleoliadau a'r llwybrau hynny ar draws Cymru sydd â'r ffigurau uchaf o ran y niferoedd sy'n cael eu hanafu a nifer y gwrthdrawiadau, ac maent yn cefnogi'n targedau ar gyfer lleihau'r niferoedd sy'n cael eu hanafu ar y ffyrdd.Mae'r Grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn buddsoddi dros £5.5 miliwn mewn 32 o gynlluniau a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i deithiau disgyblion i'r ysgol drwy wella llwybrau cerdded a beicio i ysgolion mewn 19 o awdurdodau lleol. Mae'r grant yn cefnogi'r gwaith sy'n cael ei wneud mewn ysgolion ym mhob cwr o Gymru i annog rhagor o blant i gerdded ac i feicio i'r ysgol.Hefyd, bydd bron £2 filiwn ar gael i'r holl awdurdodau lleol ar gyfer rhaglenni addysg a hyfforddiant diogelwch ar y ffyrdd, yn enwedig ymysg grwpiau risg uchel a grwpiau sy'n agored i niwed, fel plant, pobl ifanc, gyrwyr hŷn a gyrwyr beiciau modur.