Neidio i'r prif gynnwy

Mae dros £1.8 miliwn yn cael ei fuddsoddi i gyflymu cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nglannau Dyfrdwy fel rhan o ddarpariaeth Metro Gogledd-ddwyrain Cymru, meddai'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn gwella mynediad i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac oddi mewn iddo, drwy gefnogi'r broses o gaffael y gwasanaeth parcio a theithio arfaethedig, gwella gwasanaeth gwennol Glannau Dyfrdwy a gwella'r cysylltiad bws o Barth 2 i Barth 3.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn cydweithio'n agos â chymunedau i ddatblygu cynlluniau bws mini cymunedol arloesol a chynaliadwy.   Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £127,000 i alluogi'r awdurdod lleol i brynu dau fws mini safonol Euro 6 ar gyfer dau gynllun mewn cymunedau gwledig o fewn Sir y Fflint. Bydd hyn yn gwella cysylltiadau â chanolfannau trafnidiaeth lleol, cysylltiadau â'r prif wasanaethau trafnidiaeth a mynediad at gyflogaeth ac addysg.

Gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â safle'r orsaf reilffordd arfaethedig, Deeside Parkway, sy'n rhan mawr o'r datblygiadau metro yn yr ardal. Mae datblygiadau hefyd ar y cynlluniau ar gyfer cyfuno gorsafoedd Shotton Uchaf/Isaf. Mae Trafnidiaeth Cymru yn cydweithio gyda Cyngor Sir y Fflint a Network Rail i ddatblygu'r cynlluniau hyn.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yng Nglannau Dyfrdwy yn dangos yn glir ein hymrwymiad i ddarparu canolfan drafnidiaeth integredig fydd o fudd i gymudwyr a busnesau yn yr ardal a thu hwnt.

"Mae'r £1.8 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yr wyf yn ei gyhoeddi heddiw yn hwb i ddarparu cynlluniau pwysig fydd yn gwella mynediad i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac o fewn iddo, a'r Ardal Fenter yn ehangach, gan gysylltu cymunedau gyda swyddi a gwasanaethau. Maent hefyd yn cynnig opsiwn teithio carbon isel sy'n galluogi pobl i adael eu cerbydau gartref fydd o fudd i'r amgylchedd.

"Dwi'n falch iawn ein bod yn cydweithio'n agos â Chyngor Sir y Fflint, Network Rail a Trafnidiaeth Cymru wrth fynd ymlaen â'r gwaith pwysig hwn yng Nglannau Dyfrdwy, sy'n rhan allweddol o'r weledigaeth ar gyfer metro Gogledd-ddwyrain Cymru, ac sydd hefyd yn cefnogi Cynllun Glannau Dyfrdwy yr awdurdod lleol. Mae hyn yn cadarnhau ein hymrwymiad i wneud newidiadau mawr i'r system drafnidiaeth yn yr ardal trwy drafod a chydweithio gyda'n prif bartneriaid.

"Mae'r buddsoddiad hefyd yn enghraifft gwych o'r camau yr ydym yn eu cymryd fel llywodraeth sy'n edrych i'r dyfodol, i sbarduno ffyniant a chreu model datblygu economaidd sy'n canolbwyntio ar y rhanbarth, ac sy'n rhan bwysig o'n Cynllun Gweithredu Economaidd newydd."

Meddai'r Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:

"Mae cyhoeddiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet yn datblygu ein huchelgais cyffredinol ers amser i wella a chryfhau cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ac o fewn iddo.

"Dwi'n croesawu'n benodol yr ymrwymiad clir i hwyluso'r broses o greu gorsaf reilffordd newydd ar Lannau Dyfrdwy. Bydd sicrhau bod mynediad uniongyrchol i weithwyr yn lleol ac ar draws y rhanbarth yn newid y sefyllfa'n sylweddol o bosibl i Barc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, mae cysylltiad newydd i drafnidiaeth yn hollbwysig i lwyddiant parhaus Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, gan ei alluogi i barhau yn brif ganolfan cyflogaeth o fewn ein rhanbarth."

Meddai Alan Edwards, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Seilwaith Trafnidiaeth Cymru:

"Mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o  gydweithio gyda'n partneriaid yng Nghyngor Sir y Fflint a Network Rail i sicrhau gwelliannau ym Marc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy a Shotton Uchaf/Isaf.

"Mae'r prosiectau hyn yn elfennau pwysig ar gyfer Metro Gogledd-ddwyrain Cymru, gan wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system drafnidiaeth o safon uchel, fydd yn ei gwneud yn haws i bobl deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

"Bydd ein dull o gydweithio yn helpu inni sicrhau bod gwelliannau'n bodloni anghenion pobl leol mewn gwirionedd, gan wella'r cysylltiadau rhwng trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol fel y gall bobl gerdded neu feicio yn ôl ac ymlaen o orsafoedd, a sicrhau mynediad mwy cyfleus i orsafoedd trwy ddulliau eraill o deithio."

Meddai Bill Kelly, rheolwr-gyfarwyddwr llwybrau dros dro Network Rail Cymru a'r Gororau:

"Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru a phartneriaid eraill i gefnogi'r cynlluniau hynny sy'n darparu rhwydwaith rheilffyrdd diogel, dibynadwy sy'n datblygu. Mae cydweithio'n helpu i sicrhau fod pobl Cymru a'r Gororau yn gallu teithio'n rhwydd ac yn cefnogi twf economaidd."