Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Yn sgil pwysau cynyddol am adnoddau ychwanegol i ymateb i’r Pontio o’r UE, Covid-19 a gofynion ‘busnes fel arfer’ hanfodol, cynhaliwyd adolygiad adnoddau â blaenoriaeth gan bob Grŵp yn Llywodraeth Cymru. Adolygodd y Pwyllgor Gweithredol allbwn yr adolygiadau hyn a chytuno y gellid recriwtio i nifer penodol o swyddi blaenoriaeth hanfodol; yn gyntaf drwy adleoli mewnol, yna drwy gyfres o ymgyrchoedd recriwtio allanol wedi’u cydgysylltu’n ganolog.

Cyflwynwyd Polisi Adleoli Llywodraeth Cymru ar unwaith gyda’r Tîm Strategaeth AD yn ceisio llenwi tua thraean o’r swyddi mwyaf hanfodol ar gyfer Llywodraeth Cymru. Bydd angen llenwi gweddill y swyddi â blaenoriaeth, gyda nifer ohonynt yn dal i aros cymeradwyaeth derfynol, drwy recriwtio’n allanol.

Er mwyn sicrhau bod yr ymgyrchoedd recriwtio allanol yn darparu cadernid hirdymor, yn fforddiadwy, ac yn lleihau ein dibyniaeth ar Benodiadau Asiantaeth, Contractwyr neu Uniongyrchol, mae’r Pwyllgor Gweithredol wedi cytuno y byddant yn cyd-fynd â’r egwyddorion canlynol:

  • Bydd pob hysbyseb a phenodiad yn cael ei wneud yn unol â recriwtio ‘Teg, Agored ac ar sail Teilyngdod’ oni bai bod yna resymau eithriadol dros gael penodiad Uniongyrchol.
  • Bydd terfyn amser i bob penodiad ac ni fydd yn fwy na 2 flynedd.
  • Yn achos y swyddi sy’n cael eu recriwtio drwy’r broses ‘Teg, Agored ac ar sail Teilyngdod’, mae yna botensial y gellir eu newid i fod yn benodiadau parhaol yn ddiweddarach pe bai hynny’n hanfodol, yn fforddiadwy ac yn briodol i’r busnes. Y Pwyllgor Gweithredol fyddai’n gwneud unrhyw benderfyniad terfynol ar hyn.
  • Bydd rhestr wrth gefn yn cael ei chreu, lle bo’n bosibl, i ddarparu cyflenwad o ymgeiswyr ar gyfer swyddi tebyg pe bai angen.
  • Bydd pob swydd yn cael ei hariannu gan y Rhaglen a bydd hyn yn cynnwys yr argostau dilynol o’r Penodiad - bydd grwpiau’n gyfrifol am sicrhau bod cymeradwyaethau ar waith ar gyfer defnyddio arian y rhaglen i staffio.
  • Mae yna ychydig o swyddi a ariennir gan Gostau Rhedeg Adrannol y gall y Pwyllgor Gweithredol gytuno arnynt drwy eithriad pan fo cydweithiwr cyfredol yn gadael y sefydliad neu pan fydd yna angen hanfodol (ond byddai hyn yn gyfyngedig).

Mae mwyafrif sylweddol y swyddi â blaenoriaeth sy’n cael eu cymeradwyo ar gyfer recriwtio allanol yn debygol o fod yn ‘gyffredinol’ eu natur h.y. ym meysydd datblygu polisi, busnes y llywodraeth, rheoli rhaglenni a phrosiectau, darpariaeth weithredol ac ati. Fodd bynnag, bydd yna nifer o swyddi arbenigol iawn hefyd a allai fod angen llwybrau penodi ‘uniongyrchol’ a/neu ddulliau asesu arbenigol pwrpasol. I gydnabod hyn; y lefel o adnoddau sydd ar gael i gyflawni’r gofynion adnoddau blaenoriaeth; ac er mwyn llenwi’r swyddi hyn mewn modd cydgysylltiedig, effeithlon ac effeithiol, rydym yn mabwysiadu dull tair elfen.

1. Hysbysiad ar Draws y Gwasanaeth Sifil/Adran Arall y Llywodraeth ar gyfer Benthyciadau o’r tu allan:

Bydd hyn ar ffurf cyfres o hysbysiadau cyffredinol, fesul Gradd, ar gyfer Gweision Sifil parhaol sydd wedi’u penodi drwy recriwtio ‘Teg, Agored ac ar sail Teilyngdod’. Bydd y Graddau a hysbysebir yn rhai G7 i ddechrau, yna SEO, HEO, EO a TS. Bydd yr holl hysbysebion/prosesau recriwtio’n cael eu cynllunio, eu cydgysylltu a’u darparu’n ganolog. Bydd pob Benthyciad yn para am 6 mis o leiaf a 2 flynedd ar y mwyaf. Datblygwyd cynllun allgymorth i gefnogi’r ymgyrch hon gan ddefnyddio rhwydweithiau ar draws y gwasanaeth sifil i gyrraedd maes eang ac amrywiol o ymgeiswyr cymwys.

2. Cynllun Penodiadau Tymor Sefydlog Allanol (hefyd yn agored i Secondiadau):

Bydd hyn ar ffurf cyfres o hysbysiadau cyffredinol, fesul Gradd, sy’n agored i’r cyhoedd. Bydd y Graddau a hysbysebir yn rhai G7 i ddechrau, yna SEO, HEO ac EO. Efallai y bydd ymgyrch recriwtio TS yn cael ei chynnal fel rhan o’r ymgyrch hon, neu y bydd cynllun Prentisiaid ar wahân yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Nid oes penderfyniad ar hyn wedi’i wneud eto. Bydd yr holl hysbysebion/prosesau recriwtio’n cael eu cynllunio, eu cydgysylltu a’u darparu’n ganolog. Bydd pob penodiad yn cael ei wneud drwy’r llwybr hwn yn ymuno â Llywodraeth Cymru ar Secondiad neu Benodiad Cyfnod Penodol a fydd yn para am 6 mis o leiaf a 2 flynedd ar y mwyaf. Datblygwyd cynllun allgymorth i annog ceisiadau gan gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd. Mae cynnwys yr hysbyseb a’r negeseuon cyfathrebu wedi’u llunio mewn modd a ddylai wneud y cynlluniau mor ddeniadol, agored a hygyrch â phosibl.

3. Penodiadau Allanol Proffesiynau neu Arbenigwyr

Bydd nifer cyfyngedig o gynlluniau recriwtio Proffesiynau/Arbenigwyr unigol yn cael eu cynnal gan Grwpiau perthnasol mewn partneriaeth â’r Timau Partner Busnes AD lleol, Tîm Recriwtio’r Ganolfan Cydwasanaethau a’r Tîm Pontio AD. Bydd pob hysbyseb yn cael ei chyflwyno gan y rheolwr llinell perthnasol a/neu bydd prosesau recriwtio lleol yn cael eu cynnal. Gyda goruchwyliaeth gan y Tîm Pontio AD a chymorth darparu gan Dimau Partner Busnes AD a’r Ganolfan Cydwasanaethau gallwn sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cyflenwi’r adnoddau gofynnol ac yn cydymffurfio â pholisi/gweithdrefnau Comisiwn y Gwasanaeth Sifil a Llywodraeth Cymru. Ni fydd penodiadau a wneir drwy’r llwybr hwn yn para mwy na 2 flynedd.

Ystyried pum dull o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 o ran camau gweithredu arfaethedig, gydol y polisi a’r cylch cyflawni

Hirdymor

Nid oes tueddiadau/heriau a chyfleoedd hirdymor sy’n effeithio ar y cynnig bellach gan y bydd yn cael ei ddarparu dros gyfnod cymharol fyr. Fodd bynnag, mae gan y cynnig ei hun oblygiadau hirdymor oherwydd ei fwriad yw ehangu sgiliau ac amrywiaeth gweithwyr cyflogedig Llywodraeth Cymru yn ogystal â rhoi hwb i adnoddau. Bydd hyn o fudd i’r sefydliad cyfan a’r dinasyddion y mae’n eu gwasanaeth h.y. drwy recriwtio mwy o bobl a sicrhau bod gan y bobl hynny’r sgiliau sydd eu hangen ar y sefydliad, mae’r cynllun hwn yn gobeithio cyfrannu at ddatblygiad a darpariaeth polisi a deddfwriaethol o ansawdd gwell ledled Llywodraeth Cymru.

Er mwyn denu maes mwy amrywiol o ymgeiswyr (sy’n cynrychioli pobl Cymru’n well) talwyd sylw arbennig i iaith a chyrhaeddiad yr hysbysebion.

I gymharu â chynlluniau blaenorol mae’r dull hwn hefyd yn rhoi’r potensial i ni gadw’r unigolion hynny yn hirdymor yn y dyfodol o bosibl (yn amodol ar angen busnes) ac felly mae ganddo’r potensial i wella ein hamrywiaeth hirdymor a chyfrannu at ein hymrwymiadau fel sefydliad fel rhan o’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb.

Atal

Mae’r cynnig yn cefnogi torri cylchoedd negyddol (tlodi, iechyd gwael, amgylcheddol) drwy recriwtio staff medrus i arwain ar ddatrysiadau polisi.

Mae hefyd yn ceisio cynyddu amrywiaeth y rhai a gyflogir gan Lywodraeth Cymru drwy ddatgan yn glir bod Llywodraeth Cymru’n croesawu ac annog ceisiadau gan bobl â nodweddion gwarchodedig.

Gall cynyddu amrywiaeth gweithwyr, i lefelau sy’n adlewyrchiad gwell o’r boblogaeth yng Nghymru, helpu i gyflawni datblygiad polisi a darpariaeth sy’n fwy ystyriol, cynhwysol a chynrychioladol ar draws Llywodraeth Cymru.

Mae gan y cynllun teg, agored ac ar sail teilyngdod allanol y potensial i recriwtio llawer o unigolion (a chreu cronfa fawr bosibl o ymgeiswyr wrth gefn). Rydym yn disgwyl derbyn llawer o geisiadau gan unigolion sydd wedi bod o dan anfantais ariannol yn sgil Covid-19.

Mae lleihau effeithiau negyddol yn fychan (o ystyried natur y cynllun) ond bydd pob cyfweliad yn cael ei wneud o bell a rhithiol sy’n lleihau allyriadau posibl ac yn golygu na fydd rhaid i unigolion deithio gan ddefnyddio eu cerbyd eu hunain/trafnidiaeth gyhoeddus.

Integreiddio

Drwy lenwi llawer o swyddi â blaenoriaeth allweddol ledled Llywodraeth Cymru bydd y rhaglen recriwtio hon yn helpu i ddarparu’r adnodd sydd ei angen ar Weinidogion i gyflawni eu hymrwymiadau yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb a bydd o fudd i amrywiaeth o feysydd polisi gwahanol.

Drwy nodi’n glir y gall pobl o amrywiaeth o gefndiroedd neu’r trydydd sector ymgeisio am Benodiadau Cyfnod Penodol, Secondiad neu Fenthyciad, bydd y cynnig yn galluogi sefydliadau i rannu gwybodaeth a phrofiad. Mae hyn yn cysylltu â’r ymrwymiad yn Ffyniant i Bawb i alluogi gwasanaethau cyhoeddus a’r sector gwirfoddol i gydweithio er lles pobl Cymru.

Cydweithio

Mae’r Tîm Pontio AD wedi trafod ac ymgynghori ag amrywiaeth o bartneriaid a rhanddeiliaid wrth gynllunio a datblygu’r dull recriwtio hwn. Mae’r rhain yn cynnwys y Pwyllgor Gweithredol, Paneli Adnoddau Grwpiau, Penaethiaid Gweithredu, Timau Partner Busnes AD, Gwasanaethau Arbenigol AD, Canolfan Cydwasanaethau AD, Cyllid, Gwasanaethau Cyfreithiol, Ochr yr Undebau Llafur, y Tîm Allgymorth, Tîm y Gymraeg, Tîm Cydraddoldeb yn y Gweithle a Thimau Cyfathrebu Allanol a Mewnol. Mae’r rhanddeiliaid hyn wedi helpu i benderfynu maint yr ymgyrch, y flaenoriaeth, y cynllun, y costau, yr effaith, cydymffurfiaeth/llywodraethu a phroses.

Cynnwys

Bydd adleoli staff cyfredol yn fewnol a’r rhaglen recriwtio allanol yn galluogi timau ledled Llywodraeth Cymru i gael adnoddau ychwanegol a/neu wedi’u had-drefnu i’w helpu i gyflawni ymrwymiadau Gweinidogol. Mae pob Grŵp yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn cymryd rhan yn llawn er mwyn nodi beth yw eu meysydd/swyddi â blaenoriaeth allweddol ar gyfer darparu adnoddau. Dyma’r swyddi y mae’r Pwyllgor Gweithredol wedi’u blaenoriaethu ac wedi cytuno i recriwtio iddynt. Mae’r Pwyllgor Gweithredol a’r Grwpiau hefyd yn rhan o’r trafodaethau ar y dulliau a gynigir i ddarparu adnoddau yn y meysydd hyn.

Mae hefyd yn bwysig i weithwyr TS-G7 nad yw llwybrau recriwtio allanol i Lywodraeth Cymru drwy’r ymgyrch recriwtio hon yn haws na’r Pyrth Asesu datblygiad mewnol. Ymgynghorwyd ag Ochr yr Undebau Llafur i sicrhau bod y safbwyntiau hyn yn cael eu hystyried a bydd y rhaglen recriwtio’n sicrhau bod y dulliau asesu a ddefnyddir ar gyfer ymgeiswyr allanol yn gymharol â’r rhai a ddefnyddir mewn Pyrth Asesu (ar gyfer cynlluniau Penodiadau Cyfnod Penodol (FTA)/Secondiad). Bydd y cynllun FTA/Secondiad yn dilyn egwyddor recriwtio Teg, Agored ac ar sail Teilyngdod hefyd.

Mae’n hanfodol bod y cynllun hwn yn cael ei ddefnyddio hefyd i helpu’r sefydliad ar ei daith i gyflawni ei dargedau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth. Felly, mae’r Tîm Cydraddoldeb yn y Gweithle a’r Tîm Allgymorth yn cymryd rhan lawn yn y gwaith o ddatblygu deunyddiau’r ymgyrch recriwtio allanol er mwyn sicrhau bod y broses hysbysebu a recriwtio mor gynhwysol a deniadol â phosibl i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru.

Mae Tîm y Gymraeg hefyd ar gael i gynghori ar gydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg ac i helpu i dywys y tîm recriwtio drwy anawsterau fel diffyg darpariaeth asesiadau Cymraeg ar-lein.

Yn ogystal â’r pum ffordd o weithio uchod, rhoddwyd ystyriaeth i’r meysydd canlynol:

Effaith

Dyma’r prif ddadleuon o blaid y cynnig:

  • Mae’r gwaith o ymateb i effaith trefniadau Pontio’r UE a’r Coronafeirws wedi dangos bod Llywodraeth Cymru angen mwy o bobl gyda sgiliau craidd y Gwasanaeth Sifil. Mae yna fylchau hefyd mewn arbenigeddau, yn enwedig ym maes Iechyd, sydd angen eu datrys ar frys drwy recriwtio allanol gan nad yw’r sgiliau ar gael yn fewnol.
  • Bydd y cynllun hwn yn galluogi timau heb adnoddau digonol, sy’n cyflawni blaenoriaethau hanfodol, i gael adnoddau priodol. Gobeithio y bydd hyn yn galluogi aelodau timau cyfredol i sicrhau cydbwysedd gwell rhwng eu bywyd a’u gwaith ac y bydd yn dda i’w lles.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad statig o ganlyniad i gyfraddau boddhad uchel a moratoriwm ar y rhan fwyaf o recriwtio allanol anarbenigol. Mae recriwtio allanol yn cynnig cyfle i gynyddu amrywiaeth ymhlith gweithwyr Llywodraeth Cymru a dod â syniadau a safbwyntiau newydd i’r sefydliad.
  • Ar adeg pan fo diweithdra yn codi yng Nghymru, dyma gyfle delfrydol am gyflogaeth ac i ddatblygu sgiliau newydd i bobl yng Nghymru.
  • Drwy ariannu’r cynnydd hwn mewn adnoddau drwy gyllid rhaglen a chontractau dros dro – sydd â’r potensial i droi yn gontractau parhaol yn ddiweddarach os oes angen/os yw’n fforddiadwy – gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod y rhaglen recriwtio’n gadarn a chynaliadwy’n ariannol.

Dyma’r prif ddadleuon yn erbyn y cynnig:

  • Gall cynllunio a darparu trefn recriwtio ‘Teg, Agored ac ar sail Teilyngdod’ llawn sy’n gymharol â methodoleg asesu’r Pyrth Asesu gymryd llawer o amser. Mae hyn yn creu’r perygl na fydd y mwyafrif o weithwyr newydd yn eu swyddi, neu y byddant yn newydd iawn i’w swyddi, yn ystod adegau o bwysau mawr ar y busnes.
  • Bydd yna gostau yn gysylltiedig â phwrcasu profion a ddatblygwyd yn allanol ar gyfer yr ymarfer recriwtio FTA/Secondai allanol ac i ariannu ymgyrch hysbysebu wedi’i thargedu drwy Golley Slater.
  • Nid oes modd cynnwys opsiwn Cymraeg ar gyfer profion ar-lein ar hyn o bryd. Mae’n ymddangos nad oes rhai’n bodoli ar y safon ofynnol. Fodd bynnag, mae’r profion yn hanfodol er mwyn sicrhau bod yr ymgyrch yn gymharol â Phyrth Asesu mewnol ac yn gallu ymdopi â niferoedd uchel y ceisiadau a ddisgwylir. Mae angen cael y profion hefyd gan sefydliad sy’n sicrhau eu bod wedi cael eu hasesu am eu heffaith ar gydraddoldeb a’u bod yn hygyrch, sy’n cyfyngu ar yr opsiynau o ble i gael y profion. Wrth recriwtio cydweithwyr dwyieithog mae angen i ni brofi eu sgiliau Saesneg os yw’r cyfweliad yn cael ei gynnal yn Gymraeg - gall y prawf/profion ar-lein ddarparu sicrwydd o’u gallu Saesneg felly. Fodd bynnag, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r Tîm Cymraeg i benderfynu ar y ffordd orau o symud ymlaen ar y mater hwn yn unol â Safonau’r Gymraeg.
  • Bydd rhaglen allgymorth gynhwysfawr yn rhoi’r cyfle gorau i Lywodraeth Cymru recriwtio gweithlu mwy amrywiol. Fodd bynnag, bydd hefyd yn cynyddu nifer y ceisiadau a dderbynnir os yw’n llwyddiannus. Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu’r amser mae’n ei gymryd i recriwtio a llenwi swyddi â blaenoriaeth.

Costau ac arbedion

Costau adnoddau

Er mwyn darparu’r tair elfen o weithgarwch recriwtio allanol, mae adnoddau wedi’u nodi a’u hadleoli o bob cwr o AD i greu’r Tîm Pontio AD. Fodd bynnag, hyd yn oed gyda’r adleoli hwn ac ail-flaenoriaethu swyddogaethau AD, bydd angen i’r Tîm Pontio AD a’r Ganolfan Cydwasanaethau gyflogi staff dros dro yn y byrdymor (naill ar Fenthyciad neu drwy gontractau Asiantaeth) i ehangu’r tîm drwy’r  adegau prysur. Bydd hyn yn arwain at gost ychwanegol i’r sefydliad, ond cost byr dymor fydd hwn a bydd y cyllid yn cael ei gymryd o’r ‘argostau’ a godir ar benodiadau a ariennir gan y rhaglen allanol (gweler isod).

Costau recriwtio

Bydd yr ymgyrch recriwtio FTA/Secondai allanol yn arwain at gostau gan y bydd y rhaglen allgymorth/hysbysebu’n defnyddio Golley Slater yn ogystal â thimau Cyfathrebu mewnol/allanol Llywodraeth Cymru. Nid yw’r costau wedi’u cytuno/cadarnhau eto ond mae’r amcangyfrifon cyfredol tua £7000.

Fe fydd yna gost hefyd wrth brynu profion/asesiadau ar-lein ar gyfer ymgeiswyr FTA/Secondai. Rhagwelir y bydd y sefydliad yn defnyddio Civil Service Resourcing i ddarparu’r profion hyn. Nid yw’r costau wedi’u cytuno/cadarnhau eto a byddant yn dibynnu llawer ar nifer y ceisiadau gan y byddwn ni’n talu fesul ymgeisydd. Gallai amcangyfrifon o 500-1500 o ymgeiswyr ym mhob cynllun arwain at gostau o rhwng £17,000- £52,000 er enghraifft.

Cyllid

O ystyried y pwysau parhaus ar Gostau Rhedeg Adrannol, cytunwyd y byddai’r cyllid ar gyfer yr holl swyddi â blaenoriaeth a lenwir yn allanol yn dod o’r Rhaglen (oni bai bod eithriad). Mae’n rhaid i’r Gweinidog perthnasol gytuno ar ddyraniad cyllid y Rhaglen ar gyfer adnoddau a sicrhau bod y Prif Grŵp Gwariant cyffredinol yn gallu talu am gyflog llawn y penodiad a’r argostau cysylltiedig (e.e. caledwedd/meddalwedd TG, cyfleusterau, swyddogaethau cymorth AD). Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i ariannu’r ymgyrchoedd recriwtio pan fydd angen/wedi’i gymeradwyo.

Arbedion

Bydd defnyddio cyllidebau rhaglen i ariannu’r ymgyrchoedd recriwtio allanol yn arbed ar wariant Costau Rhedeg Adrannol. Gellir sicrhau arbedion hefyd drwy gynnal ychydig o gynlluniau recriwtio allanol mawr yn hytrach na thros 200+ o ymgyrchoedd allanol unigol.

Mecanwaith

Nid oes angen deddfwriaeth felly nid oes angen asesiad o’r effaith reoleiddiol.

Adran 7: Casgliad

Sut mae'r rheini y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi bod yn rhan o'r gwaith o'i ddatblygu?

Gan mai pwrpas yr ymgyrch recriwtio hon yw llenwi swyddi hanfodol yn Llywodraeth Cymru, mae’r prif waith ymgysylltu ac ymgynghori wedi bod gyda rhanddeiliaid mewnol.

Mae rhestr lawn o’r rhanddeiliaid mewnol yn adran un. Byddant yn darparu cyngor, arweiniad, cymeradwyaeth a chymorth i ddatblygu a darparu’r ymgyrchoedd recriwtio allanol o’r dechrau i’r diwedd.

Bydd y Tîm Cydraddoldeb yn y Gweithle yn adolygu’r holl waith cyfathrebu allanol, dogfennau cyfarwyddyd a chynlluniau allgymorth cyn lansio’r ymgyrch recriwtio allanol FTA/Secondiad i sicrhau ei bod mor agored a chynhwysol â phosibl.

Bydd y tîm allgymorth yn targedu rhwydweithiau – gyda chynrychiolwyr o grwpiau â nodweddion gwarchodedig – gyda ‘chyn-hysbysebion/negeseuon hysbysebion’ ar gyfer y Benthyciad OGD/O’r Tu Allan a’r ymgyrch FTA/Secondiad, i annog ceisiadau gan faes amrywiol o ymgeiswyr.

Byddwn yn defnyddio Golley Slater yn benodol ar gyfer yr ymgyrch FTA/Secondiad, i ddarparu cyngor ar ba gyfryngau i’w defnyddio i dargedu’r maes ehangaf posibl o ymgeiswyr.

Bydd Is-adran y Gymraeg yn ystyried a chynghori ar gydymffurfiaeth prosiectau â Safonau’r Gymraeg.

Bydd Civil Service Resourcing yn darparu’r profion ar-lein a’r platfform profi a fydd yn rhan allweddol o hysbysebion FTA/Secondiad allanol. Bydd y cyflenwr hwn yn bodloni gofynion hygyrchedd y Llywodraeth ac, wrth wneud hynny, yn bodloni rheoliadau hygyrchedd sy’n berthnasol i wefannau’r sector cyhoeddus.

7.1 Beth yw'r effeithiau mwyaf sylweddol, cadarnhaol a negyddol?

Bydd yr ymgyrch recriwtio hon yn cael effaith gadarnhaol ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni ar flaenoriaethau Gweinidogol drwy ddarparu adnoddau hanfodol, ar draws ystod o raddau a sgiliau, i feysydd blaenoriaeth allweddol yn y sefydliad. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth i ystod eang o bobl gyda sgiliau cyffredinol neu arbenigol, o fewn a thu allan i’r gwasanaeth sifil, yn gyflogedig neu heb eu cyflogi, ledled Cymru a thu hwnt.

7.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu
  • yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae Adran 1, a’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb a’r Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg yn Adran E yn cyfeirio (gellir darparu Asesiadau Effaith ar gais).

7.4 Sut caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth i'r broses symud yn ei blaen a phan gaiff ei chwblhau?  

Bydd adroddiadau/diweddariadau rheolaidd ac adroddiadau monitro Gwybodaeth Rheoli Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn cael eu darparu i’r Pwyllgor Gweithredol a’r Tîm Cydraddoldeb yn y Gweithle wrth i’r ymgyrch recriwtio fynd rhagddi.

Yn ogystal, bydd cynllun cyfathrebu yn darparu diweddariadau ar gerrig milltir arwyddocaol i randdeiliaid allweddol (Pwyllgor Gweithredol, Paneli Adnoddau Grwpiau, ac Ochr yr Undebau Llafur etc) ac i staff mewnol sy’n cael eu heffeithio gan yr ymgyrch recriwtio.

Bydd ymarfer gwersi a ddysgwyd llawn yn dilyn yr ymgyrch recriwtio i nodi unrhyw gyfleoedd a gollwyd ac i sicrhau bod cynllun ymgyrchoedd a gynhelir fel hyn yn y dyfodol yn darparu’r canlyniadau gorau posibl.