Neidio i'r prif gynnwy

Mae ysgolion yn cael eu hannog i sefydlu cynlluniau newydd er mwyn cysylltu myfyrwyr â modelau rôl lleol yn eu hardal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y rhaglen, a fydd ar gael i holl ysgolion Cymru, cael ei threialu’n drylwyr mewn deg ysgol yn ardal Tasglu’r Cymoedd. Y syniad tu ôl i’r cynllun yw ysbrydoli myfyrwyr ysgolion uwchradd drwy’u cysylltu â chyn-ddisgyblion sydd wedi symud ymlaen i yrfaoedd amrywiol, diddorol a llwyddiannus; a’u helpu i gael cyngor a chymorth ymarferol.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a chadeirydd Tasglu’r Cymoedd, Lee Waters:

“Gan amlaf mae gan blant sy’n mynychu ysgolion preifat rwydwaith eang y tu allan i’r ysgol a’u teulu agos a all eu helpu i ddatblygu eu huchelgais gyrfaol.

“Nod y rhaglen yw rhoi’r un lefel o gefnogaeth i fyfyrwyr ysgolion uwchradd ar draws Cymoedd y De. Y gobaith yn y pen draw fydd cyflwyno fersiwn o’r cynllun  hwn i bob ysgol uwchradd.

“Yn ystod fy magwraeth yng Nghwmaman, byddwn i a’m cyd-ddisgyblion yn aml yn cael ein darbwyllo bod angen i ni adael ein hardal leol er mwyn cyflawni ein huchelgais gyrfaol.

“Nid dyma’r neges rwyf eisiau ei rhoi i ddisgyblion. Os ydym am ddatblygu cymunedau bywiog sydd yn ffynnu’n economaidd, mae’n rhaid i’n pobl ifanc talentog ddeall bod pob math o ddewisiadau ar gael iddynt ac y dylent ystyried adeiladu eu dyfodol yn y cymunedau hyn.

“Rwy’n gobeithio y bydd y cynllun yn helpu ein pobl ifanc i ddeall nad oes rhaid i chi adael eich cymuned leol a symud i ddinas er mwyn datblygu gyrfa a dyfodol llwyddiannus.

Bydd y modelau rôl yn siarad â’r disgyblion am eu llwybrau gyrfaol, unrhyw rwystrau maent wedi eu hwynebu ac am rai o’r gwersi maent wedi eu dysgu ar hyd y ffordd. Byddant hefyd yn helpu’r bobl ifanc drwy dynnu sylw at y gwahanol fathau o yrfaoedd a llwybrau gyrfaol sydd ar gael.

Gallant hefyd helpu’r disgyblion i drefnu cyfleoedd profiad gwaith neu eu rhoi mewn cyswllt â rhwydweithiau a chysylltiadau lleol a all eu helpu i gyflawni eu hamcanion gyrfaol, yn enwedig yn y gymuned leol.

Mae pecyn cymorth wedi cael ei ddatblygu gan Future First i helpu ysgolion i greu rhaglen newydd. Bydd y pecyn ar gael i bob ysgol uwchradd ar draws Cymru i’w galluogi i recriwtio cyn-ddisgyblion addas a phriodol a fydd yn esiampl dda i’w disgyblion.

Bydd yn ganllaw cam-wrth-gam sydd yn cynnwys gwir esiamplau ynghyd â thempledi y gall ysgolion eu defnyddio i recriwtio cyn-ddisgyblion.

Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ddiogelu a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, ac arweiniad ar sut i gael y gorau o gynllun o’r fath  drwy ryngweithio’n rhithiol ar adeg pan mae cyswllt wyneb yn wyneb wedi’i gyfyngu. Bydd y cydweithio trylwyr rhwng Gyrfa Cymru a’r 10 o ysgolion yng nghymoedd y de hefyd yn cyfoethogi’r pecyn cymorth.

Mae’r ysgolion canlynol yn cymryd rhan yn y cynllun: Ysgol Gyfun Risca, Cymuned Addysgu Abertyleri, Ysgol Gyfun y Coed Duon, Ysgol Garth Olwg, Ysgol Gatholig Cardinal Newman, Ysgol Gymunedol Tonyrefail, Ysgol Uwchradd Cyfarthfa, Ysgol Uwchradd Pen y Dre, Ysgol Gyfun Maesteg, Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth.

Hyd yma, mae Gyrfa Cymru a’r ysgolion sy’n cymryd rhan wedi derbyn datganiadau o ddiddordeb gan 207 o gyn-ddisgyblion.

Oherwydd y cyfyngiadau parhaus sy'n gysylltiedig â COVID-19, bydd y cyn-ddisgyblion sydd wedi’u recriwtio yn gweithio gyda Gyrfa Cymru i gynhyrchu fideo ar-lein i gyflwyno eu hunain a rhannu eu siwrnai yrfaol gyda staff a disgyblion eu hen ysgol.

Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru:

“Bydd y cynllun yn gyfle gwych i gyn-ddisgyblion rannu eu profiadau a’u llwybrau gyrfaol fel y gall y disgyblion presennol uniaethu â nhw.

“Mae’r cyn-ddisgyblion hyn wedi eistedd yn yr un dosbarthiadau ac wedi’u magu yn yr un cymunedau, yn ogystal â wynebu’r un heriau y mae’r disgyblion presennol  yn eu profi ar hyn o bryd.

“Rydym yn gobeithio y bydd y gefnogaeth gan ycyn-ddisgyblion yn ysbrydoli ac yn annog y myfyrwyr i feddwl yn fwy eang am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt a nodi eu huchelgeisiau eu hunain.

Dywedodd Lorraine Langham, Prif Weithredwr Future First:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi torri tir newydd drwy roi cydnabyddiaeth swyddogol i bwysigrwydd rhwydweithiau alumni ar gyfer hybu cyfleoedd gyrfa pobl ifanc. Nid oes unrhyw lywodraeth arall yn y Deyrnas Unedig wedi gwneud hyn erioed, ond rwy’n gobeithio o ddifri y byddant yn dilyn arweiniad Cymru nawr.

"Roedd yn bleser datblygu’r pecyn cymorth hwn i ysgolion Cymru. Gyda thystiolaeth wyddonol yn dod i’r amlwg ynghylch y ffordd y mae’n hymennydd ni yn ymateb i esiamplau ymddygiad y gallwn uniaethu â nhw, mae’r fenter hon yn mynd i gynnig manteision hirdymor i bobl ifanc ar draws y wlad.

Bydd dathliad digidol ar gyfer y prosiect yn cael ei gynnal yn ystod Wythnos Genedlaethol Gyrfaoedd ym mis Mawrth, gyda rhaglen o gynnwys yn cael ei rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol ac adnoddau i helpu ysgolion eraill i greu eu cymuned o gyn-ddisgyblion eu hunain.