Neidio i'r prif gynnwy

Fel rhan o Fetro’r Gogledd, bydd dros £11 miliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer cynlluniau ledled y rhanbarth i gefnogi ffyrdd cynaliadwy o deithio, i wneud y ffyrdd yn fwy diogel ac i leihau allyriadau carbon, cyhoeddodd y Gweinidog Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates, heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd dros £7 miliwn o’r arian yn mynd i brosiectau lleol o dan ofal awdurdodau lleol, gan gynnwys bysiau trydan a gwelliannau i ganol trefi.
          
Bydd hyn yn cynnwys £3.6 miliwn ar gyfer bysiau trydan a phwyntiau gwefru ar gyfer y gwasanaeth T22 TrawsCymru rhwng Caernarfon – Porthmadog – Blaenau Ffestiniog a gwasanaeth Cyswllt TrawsCymru T19 rhwng Blaenau Ffestiniog a Llandudno. 

Mae’r gwasanaethau a’r arian newydd yn ffrwyth gwaith cynllunio manwl gyda Chyngor Gwynedd i wella ansawdd gwasanaethau bws allweddol yn yr ardal a’u gwneud yn fwy deniadol.
          
Bydd £2 miliwn o’r arian yn cael ei wario ar gynllun gwella cyffordd yr A4086/A4244 a fydd yn gwella’r cyswllt â Llanberis, cyrchfan bwysig i dwristiaid, ac â gwasanaeth bws Sherpa’r Wyddfa.  Bydd yn cynnwys gwelliannau teithio llesol a diogelwch.

Buddsoddir hefyd mewn gwaith datblygu cychwynnol ar gyfer hybiau hydrogen yng Nghaergybi a Glannau Dyfrdwy.

Bydd arian yn cael ei neilltuo hefyd ar gyfer Morglawdd Caergybi a gwelliannau yng nghanol trefi’r Wyddgrug, Bwcle a Chaernarfon.  Cynigir arian hefyd ar gyfer datblygu llwybr teithio llesol rhwng Sandycroft a Brychdyn yng 

Nglannau Dyfrdwy. Pan fyddant wedi’u cwblhau, byddant yn cysylltu â llwybrau sy’n bod eisoes rhwng Queensferry a Sandycroft a safleoedd gwaith pwysig ym Mrychdyn gan gynnwys Airbus.

Caiff £4 miliwn ei neilltuo hefyd i Trafnidiaeth Cymru ar gyfer eu gwaith ar Fetro’r Gogledd. Bydd hyn yn cynnwys gwaith datblygu ar gyfer gwella gwasanaethau rheilffyrdd a gorsafoedd.  Caiff cysylltiadau Teithio Llesol â gorsafoedd eu datblygu ar y cyd ag awdurdodau lleol a chaiff arolwg o’r rhwydwaith bysiau yn y rhanbarth ei gynnal gydag opsiynau ar gyfer ei wella.

Bydd yr arian yn caniatáu i Trafnidiaeth Cymru gefnogi Partneriaeth yr Wyddfa sy’n datblygu atebion cynaliadwy i broblemau trafnidiaeth yn y Parc Cenedlaethol er mwyn diogelu’r amgylchedd, cymunedau a’r economi twristiaeth.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth a’r Gogledd Ken Skates:

Bydd Metro’r Gogledd yn allweddol ar gyfer darparu system drafnidiaeth integredig, gwell ac effeithiol i’r rhanbarth.  Mae’n bleser gen i gael cyhoeddi arian heddiw ar gyfer nifer o gynlluniau gwahanol, gan gynnwys bysiau trydan a chyfleusterau gwefru, llwybrau teithio llesol a gwelliannau i ganol trefi.

Mae’r buddsoddiadau hyn yn bwysicach nawr nag erioed.  Wrth inni wynebu heriau’r cyfnod anodd hwn, rhaid inni gynllunio ar gyfer y dyfodol y carem ei weld - dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy i bob un ohonom.