Mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cynlluniau i wella mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol drwy ffyrdd newydd o weithio.
O dan y cynlluniau newydd hyn, bydd pobl yn gallu cael mynediad uniongyrchol at weithwyr iechyd proffesiynol fel ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, podiatryddion, deietegwyr a gweithwyr eraill mewn canolfannau gofal iechyd sylfaenol. Hefyd, bydd rhagor o bwyslais ar wasanaethau ataliol er mwyn lleihau'r ddibyniaeth ar feddyginiaethau a gwella ansawdd bywyd.
Dywedodd Mr Gething:
Mae ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, Cymru Iachach, yn nodi sut y mae angen inni sicrhau newid sylfaenol i’r ffordd rydyn ni'n darparu gwasanaethau er mwyn diwallu'r galw yn y dyfodol. Rhaid inni hefyd symud oddi wrth ofal iechyd sy'n canolbwyntio ar drin pobl pan fyddan nhw'n colli eu hiechyd i un sy'n cefnogi pobl i aros yn iach, byw bywyd iachach a byw'n annibynnol am gymaint o amser â phosibl.
Drwy allu cael mynediad at weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd fel ffisiotherapyddion a deietegwyr yn eu canolfan iechyd leol, gall pobl gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt yn gyflymach.
Mae enghreifftiau da o hyn eisoes i’w gweld ledled Cymru. Rwyf am weld arferion da yn dod yn arferion safonol, a dyma fydd y cynlluniau yma yn ein helpu i gyflawni.
Ymysg enghreifftiau o arferion da mae gwasanaeth ffisiotherapi cyswllt cyntaf yng Nghaerffili, gwasanaeth podiatreg galw i mewn ym Mhort Talbot, Canolfan Iechyd Prestatyn Iach a mynediad uniongyrchol at therapyddion galwedigaethol yn ne Sir Benfro sy'n helpu pobl i fynd yn ôl i'r gwaith.
Ychwanegodd Mr Gething:
Wrth inni symud tuag at system o ganolfannau gofal sylfaenol integredig ledled Cymru, nod y fframwaith yr wyf yn ei lansio heddiw yw ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i bobl gael gafael ar wasanaethau.
Lansiodd y Gweinidog y Fframwaith Proffesiynau Perthynol i Iechyd yn swyddogol yn y Gynhadledd Gofal Sylfaenol Genedlaethol heddiw , yng Nghanolfan Gynadleddau Ryngwladol y Celtic Manor, Casnewydd.
Bydd arweinydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd newydd yn cael ei benodi i arwain y gwaith o drawsnewid gwasanaethau mewn gofal sylfaenol.
Bydd y fframwaith hefyd yn gwella mynediad at broffesiynau perthynol i iechyd mewn gofal eilaidd ac yn gwella mynediad at wasanaethau adsefydlu er mwyn helpu pobl i wella yn gyflymach ar ôl bod yn yr ysbyty a bod mor annibynnol â phosibl pan fyddant yn dychwelyd adref. Yn ddiweddar, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu £1.4m i'r byrddau iechyd i gynyddu'r mynediad at wasanaethau adsefydlu.