Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cymru mewn sefyllfa gryfach o lawer i ddarparu cyfarpar diogelu personol hanfodol oherwydd y cysylltiadau sydd gennym dramor ac oherwydd ein bod yn gallu gwneud pethau yma yng Nghymru, yn ôl Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i gwmni gweithgynhyrchu Hardshell ddod â pheiriannau gwneud masgiau llawfeddygol i mewn i Gymru er mwyn creu ffatri newydd yng Nghaerdydd a fydd yn cynhyrchu hyd at filiwn o fasgiau wyneb atal hylif y dydd ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a gweithwyr allweddol eraill yng Nghymru ac yng ngweddill y DU.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n agos â Hardshell ac wedi cynorthwyo’r cwmni gyda’r trefniadau i gludo’r peiriannau o dramor i Gaerdydd.

Daw’r newyddion hyn ar ôl i’r llwyth diweddaraf o gyfarpar gael ei hedfan i mewn i Faes Awyr Caerdydd o Tsieina ddoe. Cafodd rhyw 600,000 o ynau atal hylif ac 1.2 miliwn o fasgiau llawfeddygol eu hedfan i mewn i’r Rhws a’u cludo’n syth i storfeydd y byrddau iechyd a’r awdurdodau lleol er mwyn cael eu dosbarthu i’r rheng flaen.

Mae’r cyfarpar hwn yn ychwanegol i’r hanner miliwn o ynau atal hylif a gludwyd ar awyren siartredig i faes awyr y brifddinas ddechrau Mai ar gais uniongyrchol GIG Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda mwy na 300 o fusnesau ym mhob cwr o Gymru i gynhyrchu cyflenwadau mewn ymateb i’r coronafeirws, gan gynnwys cyfarpar diogelu personol.

Mae Hardshell bellach yn rhan o restr sylweddol o gwmnïau sydd wedi ymateb mewn ffordd gadarnhaol i alwad Prif Weinidog Cymru i weithgynhyrchwyr ymuno yn yr ymdrech genedlaethol i gefnogi gweithwyr gofal iechyd ac i drechu’r coronafeirws.
Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters:

“Mae busnesau’n gwneud ymdrech aruthrol i’n helpu i drechu’r coronafeirws ac i sicrhau bod gennym gyflenwad hirdymor o eitemau diogelu personol hanfodol er mwyn gwarchod staff gofal iechyd y rheng flaen yng Nghymru, ac er mwyn gwarchod gweithwyr allweddol a llawer mwy o bobl ar draws y DU.

“Mae’r cyfraniad sylweddol sy’n cael ei wneud gan gwmnïau o Gymru a’r egni sydd ganddyn nhw i fodloni’r galw wedi bod yn gwbl wych, a dw i am ddiolch i bob un o’r cwmnïau am bopeth maen nhw’n ei wneud.

“Hardshell yw’r cwmni diweddaraf i ymuno yn yr ymdrech genedlaethol, ac mae’r ffaith ei fod yn bwriadu gwneud miliwn o fasgiau wyneb bob dydd yn wirioneddol ryfeddol. Bydd y gwaith y bydd yn ei wneud i gynhyrchu masgiau wyneb atal hylif yn hollbwysig er mwyn cefnogi pobl a helpu i achub bywydau. Mae dirfawr eu hangen a gwyddwn fod galw aruthrol a chyson amdanyn nhw oherwydd bod angen eu newid yn aml.

“Rydyn ni hefyd wedi gweld cannoedd o filoedd o gyflenwadau’n cael eu hedfan i mewn i Faes Awyr Caerdydd y mis hwn, a bydd y cyflenwadau hynny’n hanfodol er mwyn cefnogi’r bobl hynny sydd yn y rheng flaen.

“Drwy gydweithio, a thrwy wneud hynny ar fyrder, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i gludo nwyddau a chyfarpar angenrheidiol o dramor a dod â nhw’n ddiogel i Gymru. Oherwydd y llwyddiant hwnnw, rydyn ni hefyd yn gallu cynnig cymorth i rannau eraill o’r DU lle mae prinder adnoddau o’r fath.”

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Hardshell, Anil Kant:

“Mae achub bywydau’n bwysig iawn, iawn inni. Rydyn ni’n hoelio’n prif sylw ar ddatblygu technolegau creu araenau diogelu i’w defnyddio ym maes diwydiant ac er mwyn achub bywydau.

“Roedd yn benderfyniad pwysig inni ddefnyddio’n harbenigedd a mynd ati mewn ffordd ddeheuig i greu mwy o gapasiti i gynhyrchu masgiau yn y DU er mwyn helpu i warchod bywydau cleifion, staff gofal iechyd a gweithwyr allweddol.

“Rydyn ni’n cydweithio gyda Phrifysgol Caerdydd a mentrau rhanbarthol eraill ar y cynhyrchion sydd gennym i’w cynnig ar hyn o bryd ac ar gynhyrchion y genhedlaeth nesaf, a byddwn ni’n gweithio’n ddiflino dros yr wythnosau nesaf er mwyn inni fedru dechrau cynhyrchu rhwng 250,000 a miliwn o fasgiau’r dydd.