Heddiw, bydd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn amlinellu sut y mae awdurdodau lleol yn anelu at gynyddu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd.
Mae awdurdodau lleol ledled Cymru wrthi'n cwblhau eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, sy'n nodi sut y maent yn bwriadu ehangu addysg cyfrwng Cymraeg yn eu hardaloedd dros y 10 mlynedd nesaf.
Mae'r cynlluniau'n cynnwys 23 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd ledled Cymru. Mae cynlluniau hefyd i gynyddu capasiti 25 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg sydd eisoes yn bodoli.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau i 26% o ddysgwyr Blwyddyn 1 fod yn derbyn addysg yn Gymraeg erbyn 2026, gan godi i 30% erbyn 2031. Ers 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £76 miliwn mewn prosiectau seilwaith i greu 4,000 o leoedd cyfrwng Cymraeg ychwanegol mewn gofal plant, ysgolion neu gynlluniau 'trochi hwyr'.
Bydd angen i bob awdurdod lleol gytuno ar ei Gynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg terfynol a’i gyhoeddi erbyn 1 Medi 2022, yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019.
Dywedodd y Gweinidog:
Rwy'n falch o weld mor uchelgeisiol yw llawer o'r cynlluniau sydd wedi dod i law, yn enwedig y ffordd mae rhai awdurdodau lleol wedi gosod targedau sy'n rhagori ar ein disgwyliadau. Gyda'r cynlluniau hyn ar waith, mae gen i bob hyder y byddwn yn cyrraedd ein targedau ar gyfer 2026 a 2031, gyda'r nod yn y pen draw o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae fy neges yn glir, rwy’ am i addysg Gymraeg fod yn opsiwn i bawb ac rwy’ am i bawb gael y cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog yng Nghymru.