Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, roedd Julie James, Arweinydd y Tŷ, wedi croesawu Adolygiad Reid o'r maes ymchwil ac arloesi a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pwysleisiodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi'r cynigion ar waith, gan ddefnyddio cymorth ariannol a sicrhawyd ochr yn ochr â Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) fel rhan o'r setliad ar ôl Brexit. 

Y llynedd, roeddem wedi gofyn i'r Athro Graeme Reid, o Goleg Prifysgol Llundain, arwain yr adolygiad i edrych ar y cryfderau, y bylchau a'r potensial yn y dyfodol i gynnal a datblygu gweithgarwch ymchwil ac arloesi cryf yng Nghymru.

Nod yr adolygiad oedd edrych ar yr holl fuddsoddiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ym maes ymchwil ac arloesi, ac ystyried sut y maent yn gwneud gwahaniaeth, a beth y gallwn ni ei wneud i wella pethau ar gyfer y dyfodol.

Mae'r adolygiad hwn yn datblygu gwaith dau adolygiad blaenorol sydd wedi mynd yn sail iddo (Diamond a Hazelkorn). Mae hefyd yn darparu dadansoddiad clir o'r heriau a'r cyfleoedd presennol a rhai'r dyfodol yng Nghymru ac ym mhob rhan o'r DU. Mae'r adroddiad yn gwneud tri argymhelliad, sy'n cynnwys sefydlu:

  • swyddfa newydd ar gyfer Maes Ymchwil ac Arloesi Cymru i'w lleoli yn Llundain – a hynny er mwyn codi ymwybyddiaeth o faes ymchwil Cymru fel ei fod yn cael mwy o ddylanwad;
  • cyllid ychwanegol o £30m y flwyddyn fel cymhelliant i ymchwilwyr gael mwy o gyllid o fusnesau ac o'r tu allan i Gymru; ac
  • un brand cyffredinol ar gyfer y cyllid i'r maes ymchwil ac arloesi a ariennir gan Lywodraeth Cymru, fel ei fod yn fwy amlwg, yn fwy cyson ac yn cael mwy o effaith. 

Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn argymhellion yr adroddiad mewn egwyddor, ac y byddant yn ystyried sut y gallant gael eu rhoi ar waith ochr yn ochr ag ymatebion i'r ymgynghoriad technegol presennol ar y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd i Gymru sydd yn yr arfaeth, ynghyd â'r setliad cyllid ar ôl Brexit ar gyfer cenhedloedd a rhanbarthau'r DU, a chynlluniau Llywodraeth y DU i gydbwyso'r gwariant ar wyddoniaeth ar draws y wlad er mwyn cynyddu twf a chynhyrchiant rhanbarthol.
Dywedodd Julie James,

“Hoffwn ddiolch i'r Athro Reid am ei waith caled yn cwblhau'r gwaith helaeth hwn. Hoffwn hefyd dalu teyrnged i'r panel o ymgynghorwyr nodedig a'i gynorthwyodd e.

“Roeddwn yn falch o ddarllen i'r Athro Reid ganfu fod y maes ymchwil ac arloesi yng Nghymru yn gryf, ac yn cynnwys nifer o enghreifftiau bod y maes yn cael effaith a llwyddiant ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Mae'n hanfodol ein bod ni'n gwella'r llwyddiant hwnnw a bod y sector yn ffynnu, wrth inni ymateb i dirlun ymchwil y DU sy'n newid yn gyson ac i ganlyniadau posibl Brexit.

“Ond, rydyn ni'n cydnabod, drwy weithio ar draws sectorau, y gallwn ni wneud mwy i gynyddu amlygrwydd a dylanwad ymchwil yng Nghymru. Felly, byddwn ni'n bwrw ymlaen â'r argymhelliad i gael presenoldeb penodedig yn Llundain, er mwyn hybu maes ymchwil ac arloesi Cymru ar unwaith.”

Dywedodd yr Athro Reid,

“O ystyried y pwysau parhaol ar gyllid cyhoeddus, diwygiadau sylweddol i addysg bellach ac uwch, a'r newidiadau o ran cymorth ariannol y DU a'r UE sydd ar y gweill, dyma'r adeg iawn i adolygu'r maes ymchwil ac arloesi a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac roeddwn i'n hynod falch o gael y cyfle i arwain y gwaith hwnnw.

“Ar hyn o bryd, mae cyllideb gynyddol yr UKRI yn cyflwyno cyfleoedd gwych i fusnesau a phrifysgolion Cymru ennill symiau sylweddol o gyllid ychwanegol, sy'n gallu helpu i sicrhau bod Cymru'n chwarae rhan fwy cystadleuol yn y sector ymchwil ac arloesi.”