Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ace Orthotics - yn ehangu gyda chymorth Llywodraeth Cymru ac yn creu deg o swyddi newydd yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gyda £50,000 o Gronfa Twf a Ffyniant Llywodraeth Cymru, mae'r cwmni yn buddsoddi mewn offer newydd fydd yn treblu'r gallu i weithgynhyrchu ac yn cyflymu y broses gynhyrchu i fodloni'r galw ledled Prydain am ei wasanaethau.

Budd y buddsoddiad o £116,000 yn gweld nifer y staff yn codi o 20 i 30 a hefyd yn diogelu deuddeg o swyddi.  

Mae gan Ace Orthotics, sy'n masnachu o dan yr enw Ace Feet in Motion ganolfan yn Sanatorium Road, a chafodd ei sefydlu gan Bob Cooper yn 2001 i gynnig dadansoddiad biofecanyddol o gerddediad gan ddefnyddio platiau pwysau deinamig i helpu i asesu symudiadau yn gywir trwy'r droed a gwaelod y goes.

Mae'n darparu gwasanaethau podiatreg biofecanyddol arbenigol o gerddediad ar gyfer niweidiau chwaraeon i'r cyhoedd ac i gymdeithasau chwaraeon proffil uchel gan gynnwys y WRU, Chwaraeon Anabledd Cymru, Athletau Cymru, Pêl-rwyd Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, yn ogystal â'r GIG. Mae wedi cydweithio'n glos iawn hefyd gyda timau rygbi rhanbarthol Cymru a nifer o glybiau pêl-droed yr Uwch-gynghrair.  

Caiff gwasanaeth clinigol Ace ei gefnogi gan gangen weithgynhyrchu sy'n cynllunio ac yn creu pob math o wadnau modiwlar a phwrpasol er mwyn cywiro cerddediad afreolaidd.   

Mae'r labordy yn cynhyrchu oddeutu 10,000 pâr o fewnwadnau pwrpasol pob blwyddyn, nifer ohonynt wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg ddiweddaraf CAD CAM. Fodd bynnag, mae'n rhaid creu 20% ohonynt â llaw gan mai dim ond gwadnau hyd at ddyfnder o 30mm sy'n bosib i'r peiriannau wneud ar hyn o bryd. Bydd buddsoddi mewn peiriannau newydd yn golygu y bydd modd cynhyrchu mewnwadnau o hyd at 66mm o ddyfnder.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

"Mae Ace Orthotics yn darparu gwasanaeth pwrpasol ac arbenigol iawn a dyma'r unig fusnes o'i fath yng Nghymru, a dwi'n falch iawn y bydd  cymorth Llywodraeth Cymru yn helpu i ehangu, creu swyddi newydd a denu busnes newydd. Mae'r ehangu'n hanfodol ar gyfer twf cynaliadwy y cwmni yn yr hirdymor."

Meddai Thomas Cooper, Cyfarwyddwr Clinigol  Ace: 

"Rydym wedi gweld twf o flwyddyn i flwyddyn ac yn gweld y galw'n cynyddu drwy gydol y DU am ein cynnyrch ac mae angen inni fuddsoddi i fodloni'r galw hwnnw. Mae'r buddsoddiad hwn yn hollol hanfodol er mwyn manteisio ar y cyfleoedd hyn a bydd yn cyflymu'r broses gynhyrchu, yn lleihau costau ac yn ein galluogi i gynhyrchu mwy o gynnyrch o safon a denu busnes newydd."

Ychwanegodd y Gweinidog Sgiliau  a Gwyddoniaeth, Julie James: 

"Mae Ace Orthotics yn enghraifft wych o sut y mae sector gwyddorau bywyd Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth ac rwy'n falch bod modd inni gefnogi cynlluniau ehangu uchelgeisiol y cwmni mewn marchnad sy'n gystadleuol ac yn arloesol iawn."

Yn ogystal â darparu gwasanaethau podiatreg a biofecanyddol  arbenigol ar gyfer niwed o ganlyniad i chwaraeon, mae gan Ace hefyd ganolfan esgidiau arbenigol sydd ar agor i'r cyhoedd ac yn gwerthu esgidiau chwaraeon arbenigol ac esgidiau cyfforddus ar gyfer traed llydan. 

Mae wedi datblygu ei gyfres fodiwlar ei hun o wadnau Feet in Motion (FiMs) yn ogystal â FiMs Pediatregol, a dyma'r gwadnau y mae clinigwyr sy'n gweithio gyda plant yn eu defnyddio ledled y DU. Mae Ace yn bwriadu allforio'r mewnwadnau hyn ledled Ewrop ac roeddem yn rhan o Daith Fasnach  Gwyddorau Bywyd hynod llwyddiannus Llywodraeth Cymru i'r ffair fasnach Medica yn Dusseldorf fis Tachwedd diwethaf.