Neidio i'r prif gynnwy

Gallai ardal Porth Teigr ym Mae Caerdydd fod yn lleoliad ar gyfer bwyd stryd, marchnad godi, digwyddiadau awyr agored byw, swyddfeydd a fflatiau gwestai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymeradwyaeth gychwynnol i brydlesu rhan 0.64 acr o safle Porth Teigr i Box City, y datblygwyr oedd y tu ôl i ddatblygiad y Tramshed yng Nghaerdydd.

Mae stiwdios Porth y Rhath BBC Cymru eisoes ar y safle, Gloworks a’r Dr Who Experience, ac mae’r ardal yn datblygu fel canolfan y Diwydiannau Creadigol. 

Fodd bynnag, gallai’r cynigion diweddaraf weld y safle yn dod yn gartref i’r datblygiad cynwysyddion llongau cyntaf erioed ym Mhrydain, a gallai godi ei broffil yn ogystal â nifer yr ymwelwyr i’r ardal.  

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

“Mae’r rhain yn gynigion cyffrous iawn sydd â’r posibilrwydd o drawsnewid yr hyn sydd ar hyn o bryd yn safle diffaith sydd ddim yn cael ei ddefnyddio yn ardal Porth Teigr o Fae Caerdydd.   

“Os caiff y cynlluniau hyn eu gwireddu, Cymru fydd y wlad gyntaf ym Mhrydain i ddatblygu cynwysyddion o’r math hwn – fydd  yn llwyddiant ynddo ei hun – a gallai ddod â llu o gyfleoedd cyffrous ym myd hamdden a busnes i’r ardal hon o Fae Caerdydd.  

“Rwyf hefyd yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i brydlesu’r safle hwn i Box City, ac yn edrych ymlaen at weld y cynllun hwn yn datblygu ymhellach.”   


Meddai Simon Baston , Cyfarwyddwr DS Properties, y cwmni y tu ôl i ddatblygiad arloesol Tramsheds:  

“Mae DS Properties yn falch iawn o fod  yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru unwaith eto i ddarparu’r safleoedd mwyaf arloesol ar gyfer y diwydiannau credigol, technegol a’r cyfryngau sydd bellach yn Ne Cymru.  

“ Rwy’n credu bod gan Gaerdydd yr holl elfennau cymdeithasol a masnachol iawn i gystadlu ag unrhyw ddinas ym Mhrydain o ran cymorth i Fentrau Bach a Chanolig.”


Byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael ei adeiladu o gynwysyddion llongau yn gyfan-gwbl, a byddai’n cynnwys unedau manwerthu, swyddfeydd a fflatiau gwestai.   

Mae cynlluniau hefyd ar gyfer bwyd stryd, marchnad godi, ardal i eistedd y tu allan a llwyfan a sgrîn yn yr awyr agored i gynnal digwyddiadau.  

Byddai Mentrau Bach a Chanolig yn cael eu targedu, gydag unedau yn cael eu gosod ar gytundebau tenantiaeth hyblyg hyd at uchafswm o 10 mlynedd.  

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cytuno ar delerau prydlesu dros dro gyda Box City a gallai’r datblygiad newydd fod yn barod o bosib yn ystod Gwanwyn y flwyddyn nesaf.