Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwasanaethau Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys bellach ar gael rhwng 6am a 8pm ddydd Llun i ddydd Sadwrn ledled Cymru, yn sgil moderneiddio'r gwasanaeth yn llwyddiannus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw [12 Mai 2017], cyhoeddodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, fod gwelliannau wedi cael eu gwneud i Wasanaethau Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys ym mhob cwr o Gymru. Cafodd y gwaith hwn ei wneud fel ymateb i adolygiad strategol McClelland o Wasanaethau Ambiwlansys Cymru.   

Mae'r newidiadau wedi gwella'r mynediad y mae cleifion, gofalwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol yn ei gael at y gwasanaeth yn sylweddol.  Mae cyfraddau'r achosion o unigolion sy’n archebu gwasanaeth ond yn peidio â'i ddefnyddio wedi syrthio o 11% i 5% ac mae'r amser aros am ateb i alwad hefyd wedi syrthio.  

Gall cleifion gadw cludiant ar gyfer cael triniaeth feddygol drwy ddefnyddio un rhif cenedlaethol (0300 1232303) a gallant ganslo neu wneud ymholiadau am gael cludiant drwy ddefnyddio gwasanaethau ar-lein ychwanegol sydd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.  

Dywedodd Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd: 

“Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddais gynlluniau i foderneiddio’r ddarpariaeth Gwasanaethau Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys ledled Cymru yn dilyn yr adolygiad strategol. 
“Dw i'n falch o weld bod y newidiadau sylweddol sydd wedi cael eu gwneud hyd yma i'r Gwasanaethau hyn wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i gleifion. Mae gan bobl fynediad llawer gwell at y Gwasanaethau, ac maent yn haws eu defnyddio. O ganlyniad, mae cleifion yn cael gwasanaeth o safon lawer uwch ac mae'r Gwasanaethau yn gweithredu mewn modd llawer mwy effeithlon.
 “Dw i'n awyddus i weld byrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cydweithio i adeiladu ymhellach ar y llwyddiant hwn.”