Caiff cynlluniau ar gyfer corff newydd i hyrwyddo addysg gyfreithiol ac ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru eu cyhoeddi heddiw.
Caiff cynlluniau ar gyfer corff newydd i hyrwyddo addysg gyfreithiol ac ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru eu cyhoeddi heddiw.
Mae'r cynnig ar gyfer Cyngor Cyfraith Cymru yn cael ei gyhoeddi gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, a benodwyd yn 2017 gan Lywodraeth Cymru i adolygu'r system gyfiawnder yng Nghymru a llunio gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol. Mae disgwyl i'r Comisiwn, dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, gyhoeddi ei adroddiad yn cynnwys ei ganfyddiadau a'i argymhellion ar 24 Hydref.
Mae cynnig y Comisiwn ar gyfer Cyngor o'r fath yn dilyn yr awgrym a wnaed gan yr Arglwydd Lloyd-Jones i sefydlu corff i hyrwyddo astudiaeth o gyfraith Cymru. Mewn araith yng Nghynhadledd Cymru'r Gyfraith yn Abertawe yn 2017, dywedodd yr Arglwydd Lloyd-Jones fod angen corff o'r fath er mwyn helpu i gydlynu gwaith y sefydliadau academaidd a sefydliadau eraill wrth i gyfraith Cymru barhau i ddatblygu a rhannu arbenigedd er mwyn helpu i osgoi 'ailddyfeisio'r olwyn' pan gyflwynir cyfraith newydd. Tynnodd sylw hefyd at yr angen i gorff cynyddol cyfraith Cymru fod ar gael i'r cyhoedd.
Cyflwynodd y comisiwn ei gynnig yng Nghynhadledd Cymru'r Gyfraith yn Aberystwyth ym mis Hydref 2018 ac mae wedi ystyried y cyflwyniadau a'r sylwadau niferus a wnaed arno.
Dywedodd yr Arglwydd Thomas:
"Disgwylir i'n hadroddiad gael ei gyhoeddi ar 24 Hydref. Credem y gallai fod yn ddefnyddiol pe bai ein cynnig ar Gyngor Cyfraith Cymru yn cael ei gyhoeddi cyn Cynhadledd Cymru'r Gyfraith ym Mhrifysgol De Cymru ar 11 Hydref, gan fod angen sefydlu Cyngor o'r fath ac am nad yw'r cynnig yn dibynnu ar y materion eraill a ystyriwyd gennym."
Mae'r comisiwn wedi manteisio ar brofiad gwerthfawr yn yr Alban. Dywedodd yr Arglwydd Thomas:
"Mae'r angen i'r proffesiynau cyfreithiol ac ysgolion y gyfraith gydweithio wedi'i gydnabod ers amser hir yn yr Alban. Yno mae ganddynt y Cyd-bwyllgor Sefydlog ar gyfer Addysg Gyfreithiol i hyrwyddo buddiannau addysg gyfreithiol yn y byd academaidd ac yn y proffesiynau. Mae'n dwyn pobl â rolau allweddol ynghyd sy'n ymwneud ag addysg a hyfforddiant cyfreithiol yn yr Alban, y farnwriaeth, y Bar, Cymdeithas y Cyfreithwyr, ysgolion y gyfraith ac aelodau lleyg, ac mae'n hynod effeithiol."