Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, yn rhoi adroddiad ar y cynnydd a wnaed gan Dasglu'r Cymoedd hyd yn hyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd y cynllun gweithredu Ein Cymoedd Ein Dyfodol flwyddyn yn ôl ac ynddo nodwyd y tair blaenoriaeth sydd wedi eu seilio ar adborth a gafwyd gan bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd. Roedd y cynllun gweithredu yn amlinellu cynllun uchelgeisiol ar gyfer sicrhau newid hirdymor ar draws Cymoedd De Cymru.

Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddwyd cynllun cyflawni manwl, gan dynnu sylw at dros 60 o gamau gweithredu gwahanol mewn perthynas â’r tair blaenoriaeth.

Wrth wraidd y cynllun gweithredu a'r cynllun cyflawni, y mae swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w cyflawni, gwell gwasanaethau cyhoeddus, a fy nghymuned leol.

Heddiw mae'r tasglu yn cyhoeddi ei adroddiad cynnydd ar gyfer y flwyddyn gyntaf, gan roi manylion am gwmpas y gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Alun Davies: 

"Flwyddyn yn ôl, pennodd y tasglu darged heriol i gau'r bwlch cyflogaeth rhwng Cymoedd y De a gweddill Cymru. Mae hyn yn golygu helpu 7,000 o bobl ychwanegol i gael swyddi teg a chreu miloedd o swyddi newydd teg, diogel a chynaliadwy yn y Cymoedd.

"Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae mwy na 1,000 o bobl economaidd anweithgar sy'n byw yn ardaloedd tasglu'r Cymoedd wedi dechrau gweithio gyda chymorth rhaglenni cyflogaeth o dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae dros 1,000 o bobl a busnesau bach wedi cael cyngor a chymorth busnes ac mae 100 o fentrau newydd ychwanegol wedi cael eu creu yn ardal tasglu'r Cymoedd.

“Mae awdurdodau lleol ym mhob un o ardaloedd y saith hyb strategol wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd o ran datblygu cynlluniau sy’n unigryw i’w hardaloedd lleol, cynlluniau sy’n cynnig y cyfleoedd gorau ar gyfer denu buddsoddiad gan y sector preifat a chreu swyddi. Mae’r gwaith a wnaed ar y dechrau gyda’r hybiau yn dangos yn glir y manteision o ganlyniad i gydweithio yn y fath fodd. Rydym eisoes wedi gweld hyn ar waith gyda phrosiect Bro Taf, a fydd yn darparu pencadlys newydd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru ac yn helpu i adfywio stryd fawr Pontypridd.

“Mae cynllun strategol y Cymoedd Technoleg wedi ei gyhoeddi, gan roi cyfeiriad strategol i fuddsoddiadau a gweithgarwch sy’n ymwneud â’r rhaglen ar gyfer Glynebwy, ar y cyd ag ymrwymiad gwerth £25 miliwn rhwng 2018 a 2021.

“Yn dilyn cyhoeddiad diweddar am Fetro De Cymru, bydd depo trenau newydd yn Ffynnon Taf yn gartref i 36 o’r cerbydau newydd a byddant yn cael eu gwasanaethu yno hefyd. Yn y pen draw, bydd 400 o weithwyr trenau a 35 o staff cynnal a chadw cerbydau'r Metro yn gweithio yno. Bydd y depo yn Ffynnon Taf hefyd yn gartref i ganolfan reoli integredig Metro De Cymru sy’n cyflogi 52 aelod o staff.

"Yn ogystal, rydym yn bwrw ymlaen â thri chynllun peilot digidol ar gyfer y Cymoedd er mwyn gwella'r ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yn y rhanbarth. Rydym yn mynd ati i ehangu rhwydweithiau band eang y sector cyhoeddus er mwyn creu cyfres o ardaloedd Wi-fi di-dâl sydd yn agored i bob un ar draws cymunedau'r Cymoedd. Ein nod hefyd yw creu ap tebyg i Uber, i dynnu ynghyd holl ddarparwyr trafnidiaeth gymunedol, er mwyn ei gwneud hi'n haws i bobl drefnu cludiant i ddigwyddiadau cymdeithasol ac apwyntiadau meddygol. Yn olaf, rydym eisiau mwy o ddefnydd ar 'Lle', sef yr offer mapio data ar-lein, fel ffordd o hyrwyddo'r Cymoedd.

"Mae’r syniad o gael Parc Tirweddau'r Cymoedd yn allweddol i drydedd flaenoriaeth Ein Cymoedd, Ein Dyfodol. Mae'n ganolog i'n huchelgais o helpu cymunedau'r Cymoedd i ddathlu eu treftadaeth a'u hadnoddau naturiol ac i fanteisio arnynt i'r eithaf.

"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi treulio llawer o amser yn datblygu'r weledigaeth ddeinamig a chyffrous hon, a allai gysylltu'r mannau i'w darganfod ledled y Cymoedd drwy lwybrau cerdded a beicio. Fy mwriad yw datblygu’r Parc o fewn ffiniau pendant gan roi statws tir dynodedig i'r Cymoedd."

Ddoe, mewn digwyddiad yng Nghastell nedd, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet a'i dasglu gân newydd ar gyfer y Cymoedd. Cafodd Cana dros y Cymoedd ei hysgrifennu a'i pherfformio gan blant ysgol lleol mewn partneriaeth â'r Kizzy Crawford, sy’n canu ac yn cyfansoddi yn Gymraeg. Mae'r gân bellach ar gael ar Spotify.

Dywedodd:

"Mae pob un ohonom yn gwybod beth y gall y Cymoedd ei gynnig - ond rwy eisiau sicrhau bod gweddill Cymru a'r DU a'r byd i gyd yn dod i wybod am hanes, diwylliant a golygfeydd heb eu hail yr ardal.

"Gwrandewch ar y gân Cana dros y Cymoedd a'i lawrlwytho - mae'n tystio i'r modd y mae'r bobl ifanc hyn yn ymfalchïo yn y Cymoedd."