Cynllun yn gosod gweledigaeth i’r Gymraeg fod ar gael yn hawdd ym myd technoleg
Ymhlith nodau’r Cynllun mae datblygu technoleg lleferydd Cymraeg a fydd yn caniatáu creu fersiynau Cymraeg o gynorthwywyr personol digidol yn y dyfodol; datblygu deallusrwydd artiffisial fel bo peiriannau’n deall Cymraeg; a gwella cyfieithu â chymorth cyfrifiadur er mwyn sicrhau bod mwy o Gymraeg ar gael i’w darllen a’i chlywed.
Mae’r cynllun yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i blant, pobl ifanc ac oedolion gael mwy o gyfleoedd i ddefnyddio technoleg yn Gymraeg—a hynny’n hawdd—mewn ysgolion, yn y gweithle ac yn y cartref.
Wrth gyhoeddi’r cynllun, dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:
“Mae cynifer o bobl yn defnyddio technoleg ar gyfer cynifer o wahanol bethau yn eu bywydau. Ry’n ni am iddi fod mor hawdd ag sy’n bosibl iddyn nhw wneud hynny yn Gymraeg.
“Dyma pam ry’n ni am i’r Gymraeg fod ar gael yn hawdd ar dechnoleg, heb i chi orfod gofyn amdani, boed hynny ar y cyfrifiadur, wrth ddefnyddio’ch ffôn neu’ch tabled. Ry’n ni eisiau i bobl fedru defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn hawdd yn eu bywydau cyfrifiadurol—yn y tŷ, yn yr ysgol, yn y gwaith neu wrth symud o le i le.
“Mae technoleg hefyd yn rhoi llawer o gyfleoedd i ni gynyddu ein defnydd o’r Gymraeg neu i’w dysgu, ond er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni sicrhau bod yr isadeiledd cywir yn ei lle. Mae technoleg yn symud yn gyflym. Mae angen i’r Gymraeg symud gyda’r dechnoleg. Dyna nod ein cynllun.”