Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau gweithredu y mae llywodraeth cymru yn eu hystyried a pham?

Ar ffurf naratif, disgrifiwch y mater a'r camau gweithredu a gynigir gan Lywodraeth Cymru. Sut ydych chi wedi / y byddwch yn cymhwyso'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i'r camau gweithredu a gynigir yn y polisi a'r cylch cyflenwi drwyddo draw?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ledled Cymru a enwir yn y ddeddf weithio tuag at gyflawni saith nod llesiant, gan gynnwys 'Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu'. Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg ac i weithio tuag at gyflawni'r nodau llesiant.

Cymraeg 2050

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw creu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Gweledigaeth hirdymor yw hon, ac mae gan y system addysg gyfraniad allweddol i’w wneud. Yn benodol:

  • cynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg neu addysg ddwyieithog
  • sicrhau bod pob dysgwr yng Nghymru yn cael cyfle i feithrin ei sgiliau Cymraeg ddigon i allu defnyddio'r iaith yn gymdeithasol ac yn y gwaith
  • cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu Cymraeg fel pwnc a phynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn gwireddu'r ddau amcan uchod.

Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon mae angen i ni sicrhau gweithlu addysg cyfrwng Cymraeg digonol er mwyn tyfu addysg cyfrwng Cymraeg i ddysgwyr ac mae angen i ni ddatblygu sgiliau Cymraeg pob ymarferydd i gefnogi'r gwaith o weithredu'r cwricwlwm newydd i Gymru.Mae Cymraeg 2050 yn gosod y targedau canlynol ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon yng Nghymru sy'n gallu addysgu Cymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nifer yr athrawon cynradd sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

llinell sylfaen 2015 i 2016

2,900

targed 2021

3,100

targed 2031

3,900

targed 2050

5,200

Nifer yr athrawon uwchradd sy'n addysgu'r Gymraeg fel pwnc

llinell sylfaen 2015 i 2016

500

targed 2021

600

targed 2031

900

targed 2050

1,200

Nifer yr athrawon uwchradd sy'n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

llinell sylfaen 2015 i 2016

1,800

targed 2021

2,200

targed 2031

3,200

targed 2050

4,200

Mae'n hanfodol ein bod yn meithrin sgiliau Cymraeg ein hymarferwyr a‘u gallu i addysgu'r Gymraeg, a thrwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn bodloni amcanion Cymraeg 2050.

Hirdymor

Ymrwymodd cynllun gwaith Cymraeg 2050 ar gyfer 2021-26 ni i ddatblygu a gweithredu cynllun 10 mlynedd ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg a gwella sgiliau ieithyddol y gweithlu addysg fel y gellir diwallu anghenion lleol pob sir yn unol â'u Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru fireinio a gwreiddio rhai o'n polisïau allweddol a sicrhau bod yr holl randdeiliaid yn cydweithio i gyflawni ein nodau.

Un o ystyriaethau hirdymor y Cynllun hwn yw deall y daith gyfan tuag at ddod, ac aros, yn athro, yn hytrach na chanolbwyntio ar addysg gychwynnol athrawon (AGA) yn unig. Mae'r Cynllun yn ystyried ymyriadau yn llawer cynharach ar daith disgybl tuag at ddewis addysgu’n yrfa, gan gynnwys strategaethau i gynyddu nifer y disgyblion sy'n dewis y Gymraeg fel pwnc Safon Uwch.

Mae'r Cynllun hefyd yn ystyried Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg hirdymor awdurdodau lleol. Mae'r rhain yn gynlluniau statudol sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gynllunio i gynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog dros 10 mlynedd. Mae'r Cynllun hwn felly'n cyd-fynd â'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a fydd yn ein galluogi i gael barn gynharach a thymor hwy ar ba ddarpariaeth addysg a gynllunnir gan awdurdodau lleol a'r galw am athrawon yn sgil hynny.

Atal

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi uchelgais Llywodraeth Cymru i'r Gymraeg gael ei defnyddio'n ehangach ac i'r nifer sy'n ei siarad dyfu. Mae hefyd yn nodi'r ymrwymiad i weithio tuag at filiwn o bobl yn siarad Cymraeg erbyn 2050 ac i barhau i fuddsoddi mewn annog mwy o bobl i ddefnyddio a siarad Cymraeg yn eu bywydau bob dydd. Bydd y Cynllun hwn yn helpu i gyflawni'r uchelgais drwy gefnogi mwy o bobl ifanc i ddatblygu'r iaith.

Integreiddio

Golyga'r cynllun hwn y bydd y gwaith o gynllunio'r gweithlu cyfrwng Cymraeg yn cyd-fynd â gwaith datblygu ac amserlenni'r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Mae awdurdodau lleol wedi nodi’u cynlluniau ar gyfer cynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg, ac mae'r cynllun hwn yn gweithio ochr yn ochr â'r rheini i sicrhau bod y gweithlu angenrheidiol ar gael hefyd. 

Mae'r Cynllun hefyd yn rhan annatod o gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru. Yn ogystal â staff addysgu a staff cymorth ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae'r Cynllun hefyd yn ystyried sut y byddwn yn sicrhau bod digon o athrawon a staff cymorth ym mhob ysgol i allu addysgu'r cwricwlwm newydd.

Mae camau gweithredu yn y cynllun hefyd yn integreiddio â pholisïau i gynyddu nifer yr arweinwyr â sgiliau iaith Gymraeg i lefel ddigonol a chynyddu darpariaeth AGA megis cymhellion a'r llwybrau at fod yn athro cymwysedig. Mae hefyd yn ystyried cysylltiadau â'r sector gofal plant.

Cydweithredu

Mae cydweithredu wedi bod yn rhan hanfodol o ddatblygu’r cynllun hwn. Mae’n partneriaid allweddol yn cynnwys undebau athrawon, awdurdodau addysg lleol, darparwyr AGA, CYDAG, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eraill. Maent wedi cymryd rhan lawn yn y gwaith o’i ddatblygu ac mae rolau a chyfrifoldebau'r rhai sy'n rhan annatod o'i gyflwynoi wedi'u diffinio'n glir yn y cynllun

Cyfrannu

Mae'r cynllun wedi'i gyd-greu gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol drwy grŵp gorchwyl a gorffen. Mae'r aelodau wedi cyfrannu’n helaeth at ddiffinio'r problemau, datblygu syniadau ac atebion a byddant yn rhan annatod o'r gwaith o'i gyflwyno. Rydym hefyd wedi cwrdd â nifer o randdeiliaid ehangach yn ystod y broses ddatblygu i sicrhau ein bod yn deall y problemau’n llwyr a bod y cynllun yn cynnwys camau gweithredu cyraeddadwy. 

Yn ogystal â'r pum ffordd o weithio uchod, ystyriwch y meysydd canlynol:

Effaith

Mae angen clir inni ddatblygu ein gweithlu cyfrwng Cymraeg. Mae ysgolion yn ei chael hi'n her nawr i recriwtio athrawon mewn rhai pynciau. Os ydym am gynnal twf yn y sector cyfrwng Cymraeg, rhaid inni gynyddu'r gweithlu sydd ar gael.

Mae'r cynllun yn cynnwys dadansoddiad data cynhwysfawr sy'n darparu'r dystiolaeth ar gyfer y datblygiadau. Rydym hefyd wedi defnyddio sawl adroddiad ymchwil a gwerthuso. Byddwn yn diweddaru'r dadansoddiad data bob dwy flynedd i sicrhau bod y camau gweithredu yn y cynllun yn cael eu datblygu ar sail y data diweddaraf.

Mae camau arloesol a newydd ar gyfer datrys problem y gweithlu wedi'u cynnwys yn y Cynllun. Bydd angen gwaith datblygu ac ymgynghori pellach i fireinio rhai o'r rhain. Mae'r holl gamau gweithredu wedi'u trafod a'u rhannu'n eang a byddwn yn sefydlu grŵp gweithredu i barhau i ddatblygu a monitro'r camau hyn wrth i'r cynllun fynd rhagddo.

Costau ac arbedion

Mae'r cynllun yn eang ei gwmpas ac mae'n cynnwys nifer o gamau gweithredu sy'n torri ar draws nifer o gyllidebau. Bydd arian ychwanegol yn cael ei fuddsoddi o Linell Wariant yn y Gyllideb 4880, Addysgu a Chymorth dros y tair blynedd nesaf i weithredu'r cynllun. Fel y nodwyd yn y gyllideb ddrafft, mae £1 miliwn arall yn cael ei dyrannu yn 2022 i 2023 gyda chodiadau dangosol pellach o £0.5 miliwn yn 2023-24 a £2 miliwn yn 2024-25.

Mae'r cyllid newydd hwn yn ychwanegol at y cyllid presennol, sy'n cynnwys:

  • £0.785 miliwn ar gyfer Iaith Athrawon Yfory
  • £6.350 miliwn ar gyfer y Cynllun Sabothol a chymorth rhanbarthol neu leol ar gyfer dysgu proffesiynol yn y Gymraeg
  • £0.700 miliwn ar gyfer y rhaglen drosi
  • £0.145 miliwn i gefnogi gweithgareddau i gynyddu nifer y dysgwyr sy’n astudio’r Gymraeg fel pwnc.

Daw hyn â chyfanswm y cyllid i bron £9 miliwn yn 2022-23. Mae ffrydiau cyllid eraill hefyd o fewn y Mhrif Grŵp Gwariant Addysg a fydd yn ariannu elfennau o'r cynllun, gan gynnwys:

  • cyllid ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
  • cyllid ar gyfer y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • cyllid ar gyfer rhoi’r Ddeddf ADY ar waith.

Mae cyflawni'r Cynllun yn dibynnu ar gydweithio agos rhwng nifer o randdeiliaid. Lle mae'r cyfrifoldeb dros gyflawni gweithred wedi'i osod ar randdeiliad, disgwylir y bydd y camau'n cael eu cymryd o fewn y cyllidebau presennol, lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, gan fod rhai o'r camau gweithredu yn newydd ac efallai y bydd angen buddsoddiad ychwanegol i alluogi rhanddeiliaid i’w cyflawni, caiff y rhain eu blaenoriaethu o'r gyllideb ychwanegol sydd wedi'i dyrannu.

Mae'n annhebygol y bydd arbedion yn y tymor byr, fodd bynnag, efallai y bydd cyfleoedd i wneud arbedion yn y tymor hwy wrth inni ymgorffori modelau darparu mwy cynaliadwy.

Mecanwaith

Ni fydd angen unrhyw ddeddfwriaeth ychwanegol i gyflawni'r cynllun hwn.

Mae'r Cytundeb Cydweithredu yn cynnwys ymrwymiad i Gyflwyno Bil Addysg y Gymraeg, a fydd, ynghyd â gwaith anneddfwriaethol mwy uniongyrchol, yn cryfhau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg; yn pennu uchelgeisiau a chymhellion newydd i ehangu cyfran y gweithlu addysg sy'n gallu addysgu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg; yn sefydlu un continwwm dysgu Cymraeg a’i weithredu; yn galluogi ysgolion presennol i symud i gategori Cymraeg uwch ac yn ysgogi cynnydd yn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym mhob lleoliad addysg. Bydd ystyried deddfwriaeth yn y dyfodol i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cynllun hwn yn cael ei chynnwys wrth i'r ymrwymiad hwn gael ei ddatblygu.

Adran 8: Casgliad

8.1 Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o fod wedi effeithio arnynt wedi bod yn rhan o'i ddatblygu?

Cafodd y Cynllun ei lunio ar y cyd â holl gynrychiolwyr y rhanddeiliaid allweddol sy'n debygol o fod yn rhan o'r gwaith o'i gyflwyno, drwy grŵp gorchwyl a gorffen. Cynrychiolwyd pawb y mae'r cynllun yn debygol o effeithio arnynt ar y grŵp. Ymgynghorwyd â rhanddeiliaid eraill hefyd ar adegau allweddol ac roeddent yn gallu dylanwadu'n uniongyrchol ar gynnwys y cynllun.

Wrth ddatblygu'r Cynllun, tynnwyd ar ymchwil a thystiolaeth berthnasol hefyd, o amrywiaeth o ffynonellau, ac wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith gweithredu, byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r rhai yr effeithir arnynt.

8.2 Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn gadarnhaol ac yn negyddol?

Prif effaith y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y dysgwyr sy'n gallu cael mynediad i addysg yn Gymraeg.

Nod y cynllun hefyd yw cynyddu nifer yr ymarferwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg sydd â sgiliau iaith Gymraeg lefel uwch a fydd yn eu galluogi i ddefnyddio'r Gymraeg yn ehangach ar draws y cwricwlwm yn unol â Chwricwlwm Cymru, gyda'r nod terfynol o ddysgwyr yn gallu defnyddio'r iaith yn fwy hyderus pan fyddant yn gadael yr ysgol.

Byddai hyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar yr iaith Gymraeg a’r nod llesiant o Gymru â diwylliant bywiog a'r iaith Gymraeg yn ffynnu.

Mae cydweithio wedi bod yn rhan annatod o’r broses o ddatblygu’r Cynllun hwn. Mae’r partneriaid allweddol yn cynnwys undebau athrawon, awdurdodau addysg lleol, darparwyr AGA, CYDAG, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eraill. Bydd ganddynt hefyd ran bwysig i'w chwarae wrth gyflwyno'r Cynllun, a fydd yn cyfrannu at yr amcan llesiant o barhau â'n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a safonau'n codi.

Amlinellir yn glir yn y cynllun nad yw gwneud dim yn opsiwn. Mae'r data'n dangos nad yw nifer yr athrawon newydd sy'n ymuno â'r gweithlu yn agos at fod yn ddigon i gyrraedd targedau Cymraeg 2050, nac anghenion nifer cynyddol o ddysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae elfennau dysgu ac arwain proffesiynol y cynllun hefyd yn hanfodol os ydym am wireddu'r weledigaeth ar gyfer y Gymraeg yn ffynnu drwy sicrhau bod ein gweithlu yn meddu ar yr wybodaeth a sgiliau angenrheidiol.

8.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:

  • yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl i'n hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant?

  • yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae'r Cynllun yn cyfrannu'n uniongyrchol at ' Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu’ drwy sicrhau bod gennym y gweithlu sy’n angenrheidiol i ddarparu'r twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg sydd ei angen i gyflawni nod Cymraeg 2050.

Mae hefyd yn cyfrannu at gyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru sydd â'r nodau llesiant wrth ei wraidd.

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw risgiau sy'n datblygu wrth i ni symud ymlaen i gyflawni'r Cynllun.

8.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben? 

Mae'r Cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn monitro'r ddarpariaeth. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys:

  • sefydlu grŵp llywio o arbenigwyr o'r sector i roi cyngor ar ei weithredu
  • ymgynghori â'n rhanddeiliaid allweddol ar ddatblygiadau penodol drwy grwpiau gorchwyl a gorffen
  • monitro a gwerthuso'n barhaus y camau a gymerwyd ac adolygu'r cynllun yn ffurfiol ar ôl 5 mlynedd
  • ystyried yr arfer gorau rhyngwladol wrth i ni symud ymlaen â’r broses o’i roi ar waith.

Mae'r Cynllun hefyd yn cynnwys dwy ddogfen ategol sy'n darparu dadansoddiad data manwl a chrynodeb o'r rhagamcan o ran y gweithlu y bydd ei angen i gyflawni'r hyn y mae Awdurdodau Lleol wedi'i nodi yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Bydd y dogfennau hyn yn cael eu diweddaru bob dwy flynedd i fonitro cynnydd. Bydd cynnydd hefyd yn cael ei fonitro drwy adroddiad blynyddol Cymraeg 2050.

A. Asesiad o'r effaith ar hawliau plant

1. Amcanion polisi

Bydd y cynllun yn cefnogi'r gwaith o gyflwyno Cymraeg 2050 a'r nod yw sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn gallu siarad a defnyddio'r iaith pan fyddant yn gadael addysg, ac i gynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

Ein nodau, wrth roi'r cynllun hwn ar waith yw:

  • cynyddu nifer yr athrawon sy'n gymwys i addysgu'r Gymraeg fel pwnc ac i addysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg
  • cynyddu nifer yr ymarferwyr sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg sy'n cefnogi dysgwyr
  • datblygu sgiliau ac arbenigedd pob ymarferydd yn y Gymraeg ar gyfer addysgu'r Gymraeg a thrwy gyfrwng y Gymraeg
  • meithrin gallu arweinwyr ysgolion cyfrwng Cymraeg a sicrhau bod gan bob arweinydd y sgiliau sydd eu hangen i gynllunio datblygiad y Gymraeg yn strategol o fewn diwylliant o ysgolion fel sefydliadau sy'n dysgu.

2. Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Mae'r Cynllun yn canolbwyntio ar ddatblygu ymarferwyr addysg ac nid yw'n cynnwys camau gweithredu sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phlant. Felly, ni ymgynghorwyd â hwy wrth ddatblygu'r cynllun.

Bydd y Cynllun yn arwain at weithlu mwy medrus i gyflwyno Cwricwlwm i Gymru, sydd wedi bod yn destun ymgysylltu â phlant a phobl ifanc.

3. Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu effaith

  • Gan ddefnyddio'r dystiolaeth a gasglwyd gennych, pa effaith y mae eich polisi yn debygol o'i chael ar blant a phobl ifanc? Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol?
  • Sut mae eich cynnig yn gwella neu'n herio hawliau plant, fel y nodir yn erthyglau CCUHP a'i Brotocolau Dewisol? Cyfeiriwch at yr erthyglau i weld pa rai sy'n berthnasol i'ch polisi eich hun.

Erthyglau CCUHP neu Brotocol Dewisol

Yn gwella (X)

Yn herio (X)

Esboniad

 

Erthygl 30

 

X

 

Mae'r Cynllun yn nodi camau gweithredu i gynyddu'r gweithlu cyfrwng Cymraeg a fydd yn ei dro yn cefnogi hawliau plant i ddewis dysgu yn Gymraeg. Mae'r Cynllun hefyd yn nodi camau gweithredu i wella sgiliau iaith ymarferwyr mewn ysgolion cyfrwng Saesneg i wella addysgu'r Gymraeg yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd hyn yn ei dro yn galluogi mwy o ddysgwyr i ddatblygu eu gallu yn y Gymraeg i siarad a'i defnyddio mewn cyd-destunau bob dydd.

4. Cyngor Gweinidogol a Phenderfyniad y Gweinidog

  • Sut y bydd eich dadansoddiad o'r effeithiau hyn yn llywio eich cyngor gweinidogol?

Bydd y dadansoddiad o'r effeithiau yn cael ei gynnwys yn y cyngor i'r Gweinidog, sef y dylai gweithredu'r cynllun gael effaith ar addysg plant a phobl ifanc. Mae'r weledigaeth hon hefyd yn cael ei gwneud yn glir o fewn y cynllun ei hun.

5. Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Nid yw'r cynllun ei hun yn effeithio'n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc. Fodd bynnag, mae rhai camau gweithredu a fydd yn gofyn am ymgysylltu â dysgwyr i gasglu eu barn a bydd y rhain yn cael eu casglu a'u cyfleu wrth i ni symud ymlaen i'r broses weithredu.

6. Monitro ac adolygu

Amlinellwch pa fecanwaith monitro ac adolygu y byddwch yn ei roi ar waith i adolygu'r Asesiad hwn o'r Effaith ar Hawliau Plant.

Mae'r Cynllun yn amlinellu sut y byddwn yn monitro ei gyflwyno. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau, er enghraifft:

  • sefydlu grŵp llywio o arbenigwyr o'r sector i gynghori ar weithredu
  • ymgynghori â'n rhanddeiliaid allweddol ar ddatblygiadau penodol drwy grwpiau gorchwyl a gorffen
  • monitro a gwerthuso'n barhaus y camau a gymerwyd ac adolygu'r cynllun yn ffurfiol ar ôl 5 mlynedd
  • ystyried yr arfer gorau rhyngwladol wrth i ni symud ymlaen gyda'r gweithredu.

Mae'r Cynllun hefyd yn cynnwys dwy ddogfen ategol sy'n darparu dadansoddiad data manwl a chrynodeb o'r rhagamcan o ran y gweithlu y bydd ei angen i gyflawni'r hyn y mae Awdurdodau Lleol wedi'i nodi yn eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Bydd y dogfennau hyn yn cael eu diweddaru bob dwy flynedd i fonitro cynnydd. Bydd cynnydd hefyd yn cael ei fonitro drwy adroddiad blynyddol Cymraeg 2050.

Bydd yr Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant yn cael ei adolygu bob dwy flynedd yn unol â'r trefniadau a roddwyd ar waith i fonitro gweithrediad y cynllun.