Neidio i'r prif gynnwy

Darllenwch y daflen hon cyn defnyddio’r bathodyn a chofiwch ei chadw rhag ofn y bydd angen i chi edrych arni yn y dyfodol.

Eich cyfrifoldebau fel deiliad Bathodyn Glas

Diben y cynllun yw gwneud gwasanaethau yn fwy hygyrch drwy ganiatáu i ddeiliaid bathodynnau barcio’n agos at y man y maent eisiau ei gyrraedd, naill ai fel teithiwr neu fel gyrrwr, ac nid galluogi pobl i barcio am ddim.

Rhaid i chi ddefnyddio’r Bathodyn Glas yn gywir. Mae’n drosedd i chi neu unrhyw un arall gamddefnyddio’r bathodyn, a gall gwneud hynny arwain at ddirwy o £1,000. Bydd sicrhau nad yw’r cynllun yn cael ei gamddefnyddio o fudd i ddeiliaid dilys y bathodyn, fel chi.

Os ydych chi’n deithiwr, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y gyrrwr yn ymwybodol o’r holl reolau a nodir yn y daflen hon.

Mae’r bathodyn wedi’i fwriadu ar gyfer parcio ar y stryd yn unig. Mae rheolau eraill yn berthnasol i feysydd parcio oddi ar y stryd, fel y rhai a ddarperir mewn ysbytai neu archfarchnadoedd neu feysydd parcio awdurdodau lleol.

Ni ddylech gopïo’r bathodyn na cheisio newid y manylion.

Pwy sy’n cael defnyddio’r bathodyn?

Bathodyn i’w ddefnyddio gennych chi yn unig yw hwn. Dim ond os ydych chi’n teithio yn y cerbyd fel gyrrwr neu deithiwr y dylid arddangos y bathodyn, neu os oes rhywun yn eich casglu neu eich gollwng a bod angen iddo barcio yn y man casglu neu ollwng.

Peidiwch â chaniatáu i bobl eraill ddefnyddio’r bathodyn hyd yn oed i siopa neu gasglu rhywbeth i chi, oni bai eich bod chi’n teithio gyda nhw.

  • Ni ddylech roi’r bathodyn i ffrindiau na theulu fel y gallan nhw barcio am ddim, hyd yn oed pan fyddan nhw’n ymweld â chi. Ni ddylai pobl nad ydynt yn anabl fanteisio ar fuddion eich bathodyn tra byddwch chi’n eistedd yn y car.

Sut i arddangos y bathodyn

  • Wrth ddefnyddio’r consesiynau parcio, mae’n rhaid i chi arddangos y bathodyn ar banel offer eich cerbyd neu ei glymu wrth eich beic lle y gellir ei weld yn glir.
  • Os nad oes panel offer yn nhu blaen eich cerbyd, mae’n rhaid i chi arddangos y bathodyn mewn lle y gellir ei ddarllen yn glir o’r tu allan i’r cerbyd.
  • Dylai tu blaen y bathodyn wynebu at i fyny, gan ddangos symbol y gadair olwyn.
  • Ni ddylai’r llun fod yn weladwy drwy’r ffenestr flaen.

Rhaid i chi sicrhau y gellir darllen y manylion ar du blaen y bathodyn yn glir. Gallai arddangos y bathodyn yn anghywir arwain at ddirwy parcio.

Image

Pryd i ddefnyddio cloc parcio

Pan fyddwch chi’n parcio ar linellau melyn neu mewn mannau eraill gyda chyfyngiadau amser, mae angen i chi arddangos y cloc parcio glas i ddangos eich amser cyrraedd.

Mae’n rhaid i chi ei arddangos ar banel offer y cerbyd, fel y gellir gweld yr amser yn glir drwy’r ffenestr flaen. Dylid gosod y cloc i ddangos y cyfnod chwarter awr y gwnaethoch chi gyrraedd. Os nad oes panel offer yn nhu blaen eich cerbyd, mae’n rhaid i chi arddangos y cloc mewn lle y gellir ei ddarllen yn glir o’r tu allan i’r cerbyd.

Image

Awdurdod i archwilio’r bathodyn

Mae gan swyddogion yr heddlu, wardeiniaid traffig, swyddogion parcio  a  swyddogion gorfodi sifil yr awdurdod i archwilio ac atafaelu’r bathodyn ac mae’n rhaid i chi ei ddangos iddynt os byddant yn gofyn i chi wneud hynny. Os na wnewch chi, byddwch chi’n torri’r gyfraith ac fe allech gael dirwy o hyd at £1,000.

Dylai’r bobl hyn ddangos cerdyn adnabod gyda’u llun arno i brofi mai’r bobl hynny ydyn nhw mewn gwirionedd.

Rhaid i chi sicrhau y gellir darllen y manylion ar du blaen y bathodyn yn glir. Gallai arddangos y bathodyn yn anghywir arwain at ddirwy parcio.

Pan ddaw eich bathodyn i ben

  • Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich bathodyn yn gyfredol.
  • Gallwch wneud cais am fathodyn newydd gan eich awdurdod lleol 8 wythnos cyn iddo ddod i ben.
  • Gallwch hefyd wneud cais am fathodyn newydd ar-lein yn GOV.UK.
  • Peidiwch â defnyddio’r bathodyn os bydd wedi dod i ben neu fe allech gael dirwy a’ch erlyn.

Os bydd eich bathodyn wedi cael ei gamddefnyddio, gallai eich awdurdod lleol wrthod rhoi un newydd i chi.

Dychwelyd y bathodyn

Mae’n rhaid i chi ddychwelyd y bathodyn i’ch awdurdod lleol am y rhesymau canlynol:

  • bydd eich nam yn gwella ac nad ydych yn gymwys bellach
  • rydych wedi cael bathodyn arall yn lle un sydd wedi’i golli neu ei ddwyn a bod yr un gwreiddiol yn dod i’r golwg (yna mae’n rhaid dychwelyd y bathodyn gwreiddiol)
  • mae’r bathodyn yn cael ei ddifrodi neu nid yw’n ddarllenadwy
  • nid oes angen y bathodyn bellach
  • bydd deiliad y bathodyn yn marw

Os byddwch chi neu rywun arall yn parhau i arddangos y bathodyn pan na fydd ei angen arnoch/arno bellach gallech/gallai gael dirwy o hyd at £1,000 a/neu gael eich/ei erlyn.

Gall yr awdurdod lleol ofyn i chi ddychwelyd y bathodyn os yw’n cael ei gamddefnyddio.

Os byddwch chi’n colli eich bathodyn

  • Dylech roi gwybod i’r heddlu ar unwaith os byddwch chi’n colli eich bathodyn neu os bydd wedi cael ei ddwyn.
  • Cysylltwch â’ch awdurdod lleol gan roi rhif cyfeirnod y drosedd iddo.
  • Bydd eich awdurdod lleol yn trefnu bathodyn newydd a gall godi ffi o hyd at £10.00 am y gwasanaeth hwn.

Gyrwyr sydd â Bathodyn Glas

Os ydych chi’n yrrwr a bod eich nam neu’ch salwch yn debygol o effeithio ar eich gallu i yrru (hyd yn oed os bydd eich car wedi’i addasu), mae’r gyfraith yn datgan bod yn rhaid i chi ddweud wrth yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

I gael mwy o wybodaeth gallwch gysylltu â’r DVLA ar 0300 790 6806, neu ysgrifennwch at y DVLA, Abertawe, SA99 1TU neu anfonwch neges e-bost i eftd@dvla.gsi.gov.uk

Crynodeb: Pryd i gysylltu â’ch awdurdod lleol

Dylech bob amser ddweud wrth eich awdurdod lleol os bydd eich amgylchiadau yn newid, megis:

  • os bydd y bathodyn wedi dod i ben;
  • os caiff y bathodyn ei golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi;
  • os bydd eich cyfeiriad yn newid;
  • os bydd eich cyfenw yn newid;
  • os bydd angen diweddaru eich llun os na ellir eich adnabod bellach.

Caiff cynllun y Bathodyn Glas ei weinyddu a’i orfodi gan eich awdurdod lleol a dylech gysylltu ag ef yn y lle cyntaf bob amser i gael mwy o wybodaeth.

Ble galla i barcio?

Os nad ydych chi’n gyrru eich hun, mae’n bwysig rhannu’r wybodaeth hon ag unrhyw un a fydd yn eich cludo fel teithiwr.

Ble gallwch chi barcio

Mae’r tabl canlynol yn rhestru’r consesiynau parcio sydd ar gael i chi fel deiliad Bathodyn Glas. Eto i gyd, mae’n rhaid i chi edrych ar yr arwyddion bob amser i weld beth yw’r rheolau wrth barcio.

Lleoliad

Amodau

Llinellau melyn

Gall deiliaid bathodynnau barcio ar linellau melyn sengl neu ddwbl am hyd at dair awr os bydd yn ddiogel gwneud hynny ac nad ydynt yn rhwystro neb arall, ond nid lle ceir cyfyngiadau llwytho a dadlwytho – fel y dangosir gan linellau melyn ar

ymyl y palmant a/neu arwyddion ar blatiau. (Dylech bob amser gadarnhau a yw awdurdod lleol penodol wedi dewis eithrio deiliaid Bathodynnau Glas rhag y cyfyngiad hwn.)

Nid oes gennych hawl i barcio ar linellau melyn mewn meysydd parcio oddi ar y stryd.

Mae’n rhaid i chi arddangos y Bathodyn Glas a’r cloc parcio glas sy’n dangos y cyfnod chwarter awr y gwnaethoch chi gyrraedd.

Mae’n rhaid i chi aros am o leiaf awr ar ôl cyfnod parcio blaenorol cyn y gallwch barcio’r un cerbyd ar yr un ffordd neu ar yr un rhan o’r ffordd ar yr un diwrnod.

Peiriannau talu am barcio ‘ar y stryd’ a pheiriannau talu ac arddangos .

Mae rhai awdurdodau lleol yn caniatáu i ddeiliaid bathodyn glas barcio am ddim am faint bynnag o amser sydd ei angen. Nid yw awdurdodau lleol eraill wedi mabwysiadu’r polisi hwn. Dylech gysylltu â’r awdurdod perthnasol bob amser cyn parcio er mwyn osgoi dirwy bosibl.

Mae’n rhaid i chi arddangos y Bathodyn Glas.

Lleoedd parcio i’r anabl ‘ar y stryd’ (arwyddion gyda symbol cadair olwyn).

Gallwch barcio am ddim a heb gyfyngiad amser oni bai bod arwyddion yn nodi’n wahanol (edrychwch ar arwyddion lleol am wybodaeth).

Mae’n rhaid i chi arddangos y Bathodyn Glas.

Ceisiwch ddefnyddio’r lleoedd hyn bob amser yn hytrach na pharcio ar linellau melyn.

Lleoedd i edrych arnynt cyn parcio

Mae nifer o gyfyngiadau a chynlluniau parcio lleol y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt. Dyma restr o’r lleoedd hynny a’r cyfyngiadau parcio sydd ar waith. Os nad ydych yn sicr, gofynnwch i’r awdurdod perthnasol cyn i chi deithio.

Lleoliad

Amodau

Meysydd parcio oddi ar

y stryd (fel meysydd parcio archfarchnadoedd, ysbytai neu awdurdodau lleol).

Dylai gweithredwyr meysydd parcio oddi ar y stryd ddarparu lleoedd parcio ar gyfer pobl anabl. Fodd bynnag, perchennog y maes parcio fydd yn penderfynu a gaiff deiliaid bathodynnau barcio am ddim.

Peidiwch â chymryd yn ganiataol y cewch chi barcio am ddim bob amser.

Canol trefi lle mae cynlluniau lleol ar waith.

Edrychwch ar arwyddion lleol am wybodaeth.

Ardaloedd parcio ar y stryd lle y gall pob gyrrwr barcio am ddim am gyfnod cyfyngedig yn unig

Gall deiliaid bathodynnau barcio am gyfnod amhenodol oni bai bod arwyddion yn nodi’n wahanol. Edrychwch ar yr arwyddion cyn parcio. Os oes cyfyngiad amser, cofiwch arddangos y

cloc parcio glas a’i osod i ddangos y cyfnod chwarter awr y gwnaethoch chi gyrraedd.

Systemau ffyrdd mewn meysydd awyr

Cysylltwch â’r maes awyr ymlaen llaw i holi am y trefniadau parcio.

Ffyrdd preifat Peidiwch â pharcio oni bai bod gennych ganiatâd y perchennog (perchnogion).

Lleoedd na allwch barcio ynddynt

Image

Nid yw’r cynllun yn weithredol ar ffyrdd preifat nac mewn meysydd parcio oddi ar y stryd. Eto i gyd, gallai rhai gweithredwyr ddarparu mannau ar gyfer pobl â namau. Dylech ddarllen yr arwyddion hyn er mwyn gweld pa gonsesiynau sydd ar gael, ac a oes yn rhaid i ddeiliaid bathodyn glas dalu.

Nid yw’r Bathodyn Glas yn drwydded i barcio unrhyw le.

Fel defnyddwyr ffyrdd eraill, mae’n rhaid i chi ufuddhau i reolau’r ffordd, fel y’u nodir yn Rheolau’r Ffordd Fawr.

Dyma restr o’r lleoedd na ddylech barcio ynddynt:

  • Lleoedd lle mae llwytho a dadlwytho wedi’u gwahardd, a nodir fel arfer gan farciau melyn ar ymyl y palmant. Mae arwyddion ar ochr y ffordd yn arddangos amseroedd gweithredu mannau llwytho.
  • Lleoedd parcio sydd wedi’u cadw ar gyfer defnyddwyr penodol, fel mannau parcio i breswylwyr, deiliaid hawlenni neu fannau llwytho. (Dylech bob amser gadarnhau a yw awdurdod lleol penodol wedi dewis eithrio deiliaid Bathodynnau Glas rhag y cyfyngiad hwn.
  • Parthau Cerddwyd oni fydd deiliaid Bathodynnau Glas wedi’u heithrio (darllenwch yr arwyddion).
  • Croesfannau i gerddwyr (croesfannau sebra, pelican, twcan a phâl), gan gynnwys mannau sydd wedi’u marcio â llinellau igam-ogam.
  • Clirffyrdd (dim stopio).
  • Clirffordd safle bws yn ystod ei oriau gweithredu.
  • Clirffordd drefol o fewn ei oriau gweithredu. Gallwch godi teithwyr yma neu eu gollwng. Ni chaniateir parcio.
  • Ar farciau ‘cadwch yn glir’ ger ysgol yn ystod yr oriau a ddangosir ar arwydd melyn dim stopio.
  • Marciau ‘cadwch yn glir’ lle na ddylech barcio ar unrhyw adeg e.e. lle mae angen i gerbydau brys gael mynediad, cerbydau fel cerbydau meddygon, tacsis a cherbydau brys eraill.
  • Lonydd bysiau, tramiau neu feicio neu lwybrau beicio. Nid oes gan ddeiliaid bathodynnau hawl i yrru mewn lonydd bysiau yn ystod eu horiau gweithredu.
  • Pan fo llinellau gwyn dwbl ar ganol y ffordd (hyd yn oed os yw un o’r llinellau’n doredig).
  • Mannau parcio lle mae’r peiriant talu wedi’i atal neu ar adegau pan waherddir defnyddio’r peiriant.
  • Pan fo cyfyngiadau parcio dros dro ar waith, er enghraifft mannau lle ceir conau dim aros.
  • Ar draws cyrbau isel p’un a ydynt yn cael eu nodi â marciau bar ‘H’ ai peidio.
Image

Parcio diogel a chyfrifol

Peidiwch â pharcio lle gallai hynny beryglu a rhwystro cerddwyr neu ddefnyddwyr neu beri anghyfleustra iddynt.

Peidiwch â pharcio ar droedffyrdd (palmentydd) mewn ffordd sy’n rhwystro cerddwyr.

Mae enghreifftiau o barcio peryglus neu rwystrol yn cynnwys y canlynol, er bod enghreifftiau eraill i’w cael hefyd:

  • mynedfeydd ysgol, safleoedd bws, ar gornel, neu ger ael bryn neu bont grom;
  • parcio gyferbyn â chyffordd neu o fewn 10 metr (32 troedfedd) iddi, ac eithrio mewn lle parcio awdurdodedig;
  • lle byddai hynny’n gwneud y ffordd yn gul, fel gerllaw ynys draffig neu waith ffordd;
  • lle byddai hynny’n arafu llif y traffig, fel mewn rhannau cul o’r ffordd neu greu rhwystr o flaen mynedfeydd cerbydau;
  • lle mae cerbydau’r gwasanaeth brys yn stopio neu fynedfeydd y gwasanaethau brys, fel mynedfeydd ysbytai;
  • lle mae’r palmant wedi’i ostwng neu’r ffordd wedi’i chodi;
  • ar balmant, oni bai bod arwyddion yn caniatáu hynny.
Image

Nid yw’r Bathodyn Glas yn drwydded i barcio unrhyw le. Os byddwch yn parcio mewn man lle y byddai’n achosi rhwystr neu berygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd gallech gael eich dirwyo neu gallai eich cerbyd gael ei symud.

Cofiwch

Os nad ydych chi’n gyrru eich hun, dylech chi rannu’r wybodaeth ar y daflen hon â’r unigolyn a fydd yn eich cludo fel teithiwr.

Nid yw’n gyfreithlon i glampio olwynion cerbyd ar briffordd gyhoeddus (‘ar y stryd’) am droseddau parcio os oes Bathodyn Glas dilys wedi’i arddangos yn briodol arno, yn unol â rheolau’r cynllun. Mae parcio mewn lleoedd gwaharddedig neu lle byddai hynny’n peryglu neu’n rhwystro defnyddwyr eraill y ffyrdd yn drosedd, a gallai arwain at ddirwy parcio. Mae’n bosibl y byddech yn cael eich erlyn, y byddai eich car yn cael ei dowio i ffwrdd, a’ch bathodyn yn cael ei gymryd oddi arnoch.

Bathodynnau ar gyfer sefydliadau

Gall sefydliadau sy’n cludo ac yn gofalu am bobl anabl a fyddai’n gymwys i gael Bathodyn Glas wneud cais am Fathodyn Glas sefydliadau drwy eu hawdurdod lleol. Ni chaniateir i’r bathodyn gael ei ddefnyddio ar adegau eraill.

Mae’r rheolau canlynol yn berthnasol i sefydliadau yn ychwanegol at y rhai sydd eisoes wedi’u nodi yn y llyfryn hwn i ddeiliaid Bathodynnau Glas.

Bydd gan fathodyn sefydliadau stamp neu logo’r sefydliad ar gefn y bathodyn, yn hytrach na llun. Dylid sicrhau nad yw’r ochr hon yn weladwy wrth arddangos y bathodyn.

Dim ond pan fo pobl a fyddai’n gymwys i gael Bathodyn Glas eu hunain yn cael eu cludo y caniateir defnyddio bathodynnau sefydliadau. Dim ond pan fo gweithwyr cyflogedig y sefydliad yn gollwng neu’n casglu pobl anabl cymwys o’r fan lle mae’r cerbyd wedi’i barcio y dylid arddangos y bathodyn.

Ni ddylech fyth gopïo’r bathodyn na cheisio newid y manylion. Mae’r bathodyn yn parhau’n eiddo i’r awdurdod lleol a all ofyn i bobl ddychwelyd y bathodyn os yw’n cael ei gamddefnyddio.

Mae angen sicrhau bod holl weithwyr cyflogedig y sefydliad sy’n gyfrifol am gludo pobl anabl yn ymwybodol o reolau’r cynllun.

Mae’n drosedd i unrhyw un gamddefnyddio’r bathodyn, a gallai gwneud hynny arwain at ddirwy o hyd at £1,000.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y bathodyn sefydliad yn Parcio, Bathodynnau Glas a troseddau ffyrdd.

Rheolau arbennig ar gyfer dychwelyd bathodyn sefydliad

Yn ogystal â’r cyngor sydd ar gael yn y daflen hon, mae’n rhaid dychwelyd bathodyn sefydliad i’r awdurdod a roddodd ef os:

  • nad yw’r sefydliad yn bodoli mwyach; neu
  • nad yw’r sefydliad bellach yn gofalu am bobl a fyddai’n gymwys i gael Bathodyn Glas eu hunain.

Gwybodaeth arall

Consesiynau Tollau

Consesiynau tollau, teithio yn Llundain, Cynllun Tâl Atal Tagfeydd Canol Llundain a theithio dramor.

Mae’n bosibl y gellir eithrio deiliaid Bathodynnau Glas rhag talu tollau ar rai croesfannau afonydd.

Mae manylion y consesiynau ar gael ar wefan gov.uk yn: Toll concessions if you have a disability.

Teithio yn Llundain

Nid yw’r cynllun Bathodyn Glas yn weithredol yn llawn mewn rhai rhannau o Ganol Llundain. Os ydych chi’n bwriadu ymweld â Chanol

Llundain, mae angen i chi gael mwy o wybodaeth am barcio cyn teithio. Cysylltwch â’r fwrdeistref berthnasol yn Llundain neu ewch i Find your local council am A i Z o gynghorau lleol.

Cynllun Tâl Atal Tagfeydd Canol Llundain

Fel deiliad bathodyn, nid oes raid i chi dalu’r Tâl Atal Tagfeydd. I fod yn gymwys i gael gostyngiad llawn, mae’n rhaid i chi gofrestru yn y lle cyntaf gyda Transport for London a thalu ffi cofrestru o £10. Mae angen i chi wneud cais o leiaf 10 diwrnod cyn eich taith.

Gallwch gael ffurflen gofrestru drwy ysgrifennu at Congestion Charging, PO Box 344, Darlington DL1 9QE, drwy fynd i wefan y Tâl Atal Tagfeydd yn Transport for London: Blue Badge Congestion Charge discount neu drwy ffonio ei linell gymorth ar 0343 222 2222 (testun/ffôn 020 7649 9123).

Teithio dramor

Rydym yn argymell bod deiliaid Bathodynnau Glas sy’n teithio y tu allan i’r DU yn argraffu ac yn arddangos dogfen wedi’i chyfieithu wrth ochr eu bathodyn. Gellir lawrlwytho’r rhain drwy ddilyn y dolenni canlynol:

Yn yr UE, Liechtenstein, Norwy a’r Swistir

O 1 Ionawr 2021 ymlaen, gallwch ddefnyddio Bathodyn Glas y DU pan fyddwch yn teithio mewn rhai gwledydd yn yr UE ac yn Liechtenstein, Norwy a’r Swistir. Dylech gadarnhau pa wledydd sy’n derbyn Bathodyn Glas y DU. Where your UK Blue Badge is recognised in Europe.

Ewch i GOV.UK i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Dylech bob amser geisio gwybodaeth leol cyn teithio i rywle newydd.

Gweddill y byd

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw drefniadau i chi ddefnyddio’r bathodyn y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, mewn gwledydd fel UDA, Canada, Awstralia neu Seland Newydd, er ei bod yn bosibl y byddant yn barod i gydnabod y Bathodyn Glas. Dylech gadarnhau pa gonsesiynau sydd ar gael cyn teithio i wledydd y tu allan i’r UE.