Mae cynllun trwyddedu newydd ar gyfer Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid yng Nghymru i gael ei ddatblygu, meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.
Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod gyda rhanddeiliaid ac asiantaethau gorfodi i ddatblygu'r cynllun trwyddedu.
Yn gynharach eleni, bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gyflwyno cynllun trwyddedu neu gofrestru ar gyfer Arddangosfeydd Teithiol i Anifeiliaid yng Nghymru. Roedd y mwyafrif a ymatebodd o blaidd trwyddedu yn hytrach na chofrestru.
Gofynnodd yr ymgynghoriad am farn hefyd ynghylch gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Dim ond ateb y cwestiwn hwn wnaeth mwyafrif y bron 1,000 o ymatebion. Roedd cefnogaeth gref dros wahardd hyn, ac er y byddai'r cynllun trwyddedu yn cynnwys syrcasau, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i swyddogion ystyried hyn fel gwaith ar wahân i ddatblygu opsiynau i fynd i'r afael â'r mater hwn.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
"Yn gynharach eleni, roedd fy marn yn glir am ein teimladau tuag at hyn. Dylai anifeiliaid gael eu gwarchod rhag poen, anaf, ofn a gofid, a hynny gydol eu bywydau. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn sgil yr ymatebion a ddaeth i law, mae’n amlwg ei fod yn flaenoriaeth i bobl Cymru hefyd.
“Mae pryderon wedi’u mynegi nad yw anghenion lles rhai anifeiliaid sy’n cael eu harddangos, gan gynnwys anifeiliaid mewn syrcasau, yn gallu cael eu diwallu mewn arddangosfa deithiol. Ceir amrywiaeth o wahanol fathau o Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid ac nid oes trefn drwyddedu safonol na gofyn i gynnal archwiliad rheolaidd.
"Cawsom ymateb gwych i'n ymgynghoriad, gyda'r rhan fwyaf o blaid trefn drwyddedu yn hytrach na chofrestru. Rwyf bellach wdi gofyn i'm swyddogion ddechrau gweithio ar ddatblygu cynllun trwyddedu ar gyfer Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid yng Nghymru.
"Nid hyn yn unig fydd yn cael ei wneud. Bydd angen inni drafod gyda rhanddeiliaid ac asiantaethau gorfodi wrth ei ddatblygu, yn enwedig ynghylch sut yr ydym yn diffinio Arddangosfeydd Teithiol o Anifeiliaid, yn ogystal â gweithio ar y cyd â'n swyddogion yn y gweinyddiaethau Datganoledig eraill i sicrhau nad oes unrhyw broblemau ar draws ffiniau.
“Bydd y dull hwn o weithio yn arwain at lunio cynllun a fydd yn cael effaith barhaol ar safonau lles yn unol â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella iechyd anifeiliaid a safonau lles yng Nghymru.
“Roedd yn glir o'r ymatebion i'r ymgynghoriad bod cefnogaeth ar gyfer gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Bydd fy swyddogion bellach yn ystyried sut yr ydym i fynd i'r afael â'r mater hwn."