Cyngor ar deithio ar fysiau a threnau am ddim ledled Cymru ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin.
Cynnwys
Cefndir
Bydd y cynllun teithio am ddim yn rhedeg o 26 Mawrth tan 30 Medi.
Mae’r cynllun yn caniatáu teithio diderfyn ar:
- bob gwasanaeth bysiau lleol
- gwasanaethau trenau Trafnidiaeth Cymru ledled Cymru
- gwasanaethau bysiau a threnau sy’n mynd i Loegr os yw’r daith yn dechrau neu orffen yng Nghymru
Mae’r cynllun ar gael i ffoaduriaid sy’n teithio i Gymru i chwilio am loches.
Cymhwysedd
I fod yn gymwys rhaid ichi fodloni un o’r meini prawf canlynol:
- meddu ar basbort dilys (ffoaduriaid o Wcráin yn unig) nes ichi gael eich prosesu gan y Swyddfa Gartref
- meddu ar lythyr gan y swyddfa gartref/Neges gan y Gwir Anrhydeddus Priti Patel AS Gweler GOV.UK: Gwladolion Wcráin yn y DU: cymorth fisa
- meddu ar Drwydded Breswylio Fiometrig ar gyfer Prydain sy’n nodi eich bod yn ffoadur
- tystiolaeth eich bod yn ffoadur sydd o dan Ddiogelwch Dyngarol
- meddu ar Drwydded Breswylio Fiometrig nad yw’n cynnwys yr ymadroddion hynny os ydych hefyd yn meddu ar lythyr neu e-bost sy’n dweud eich bod wedi derbyn statws ffoadur/diogelwch dyngarol.
Nid yw’r cynllun hwn ar gael i bobl nad ydyn nhw’n bodloni’r meini prawf hyn ac mae’n gwbl ar wahân i’r cynllun peilot presennol sydd ar gael i Geiswyr Lloches.
Eithriadau
Ni ellir teithio am ddim ar wasanaethau National Express na gwasanaethau megabus stagecoach.
Defnyddio’r cynllun
Nid oes angen gwneud cais i ddefnyddio’r cynllun hwn.
Os na allwch ddangos tystiolaeth ddilys ni fyddwch yn cael teithio am ddim a bydd prisiau safonol yn berthnasol.
Bydd defnydd twyllodrus yn arwain at yr hawl i deithio am ddim yn cael ei thynnu’n ôl, a bydd yr awdurdodau perthnasol yn cael eu hysbysu. Gall hyn arwain at erlyniad.
Mae amodau teithio gweithredwyr unigol yn berthnasol ar gyfer pob taith a wneir.
Talu ac archebu ymlaen llaw
Os ydych yn gymwys, ni fydd angen ichi dalu i deithio os ydych yn gallu dangos un o’r dogfennau ID gofynnol. Bydd y gyrrwr yn rhoi tocyn teithio dim gwerth ichi.
Cewch deithio am ddim ac ni fydd angen ichi dalu.
Rhagor o wybodaeth
Mae gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar gael drwy’r isod:
Gwefan: Traveline Cymru.
Ffôn: 0800 464 00 00