Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau terfynol ar bwy sy’n gymwys i dderbyn y taliad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Diben y cynllun

Mae’r cynllun wedi’i gyflwyno i gydnabod a gwobrwyo gwaith caled ac ymrwymiad staff gofal cymdeithasol sydd wedi darparu gofal hanfodol i’n dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ystod cyfnod mwyaf heriol pandemig COVID-19.

Mae’r cynllun yn benodol ar gyfer staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal cofrestredig a gwasanaethau gofal yn y cartref ac mae’n cynnwys Cynorthwywyr Personol (PA). Mae’r gweithwyr gofal cymdeithasol hyn yn rhoi gofal i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Ni all staff gadw at fesurau cadw pellter cymdeithasol ac maent mewn mwy o berygl oherwydd y nifer o bobl y maent yn eu cynorthwyo.

Rheoli’r cynllun a’r broses hawlio

Awdurdodau lleol sy’n bennaf gyfrifol am reoli’r cynllun. Maent yn gyfrifol am gysylltu â’r darparwyr gofal yn eu hardal i gasglu gwybodaeth am weithwyr gofal cymwys (gan gynnwys staff asiantaeth) a byddant yn rhoi ffurflenni hawlio i ddarparwyr gofal a fydd wedyn yn eu rhoi i’w staff. Ni fydd ffurflenni hawlio ar gael mewn unrhyw ffordd arall. Dylai unigolion godi unrhyw bryderon sydd ganddynt am unrhyw ran o’r broses gyda’u cyflogwr/cyn gyflogwr a dylai’r cyflogwr hwnnw dynnu sylw’r awdurdod lleol at y pryderon.  

Y taliad

Un taliad unigol o £500 ydyw. Gall unigolyn cymwys dderbyn un taliad yn unig, hyd yn oed os yw wedi gweithio mewn mwy nag un gwasanaeth gofal yn ystod y cyfnod perthnasol (fel staff asiantaeth neu staff cyflogedig).

Cyfnod amser perthnasol

Cyfnod amser y cynllun yw 15 Mawrth i 31 Mai 2020. Mae hyn yn cynnwys cyfnod arbennig o heriol y pandemig COVID-19.

Rhan 1: swyddi cymwys

I fod yn gymwys am y taliad hwn, mae’n rhaid i staff fod:

  • yn weithiwr cyflogedig mewn cartref gofal cofrestredig neu wasanaeth gofal yn y cartref
  • yn weithiwr gofal asiantaeth
  • yn nyrs asiantaeth sydd wedi gweithio yn yr un lleoliad ers 12 wythnos neu fwy
  • yn gynorthwyydd personol sy’n cael ei dalu drwy daliadau uniongyrchol

ac wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi’r ddarpariaeth ofal.

Nid yw staff sy’n gweithio fel contractwr/i gontractwr mewn cartref gofal wedi’u cynnwys yn y cynllun hwn.

Natur y gyflogaeth

Mae’n rhaid i staff fod yn rhan o’r gweithlu cyflogedig. Gallant fod yn:

  • amser llawn neu’n rhan amser;
  • ar gontract cyflogaeth dim oriau;
  • ar gontract parhaol neu dros dro;
  • o asiantaeth ofal.

Nid yw aelod o staff sy’n cael ei ddiswyddo yn ddiannod (camymddwyn difrifol)  o’i swydd yn gymwys i gael y taliad. Os apelir yn llwyddiannus yn erbyn y diswyddo bydd y gweithiwr gofal yn dod yn gymwys i gael taliad.

Y gofyniad i fod mewn gwaith

Diben y cynllun yw gwobrwyo staff sydd wedi eu cyflogi mewn swyddi gofal cymdeithasol cymwys yn ystod y cyfnod amser perthnasol rhwng 15 Mawrth a 31 Mai 2020. Mae’n rhaid i weithiwr cymwys fod wedi ei gyflogi neu weithio fel gweithiwr gofal asiantaeth mewn gwasanaeth gofal perthnasol am y cyfan neu am ran o’r amser hwn. Does dim isafswm cyfnod wedi’i nodi. Amlinellir y meini prawf penodol ar gyfer nyrsys asiantaeth isod.

Bydd staff a oedd wedi’u cyflogi mewn swyddi cymwys yn ystod y cyfnod perthnasol ond a oedd yn absennol o’u gwaith am y cyfnod cyfan oherwydd salwch, cyfnod mamolaeth, oherwydd eu bod nhw neu aelod arall o’u cartref yn gwarchod eu hunain, ar ffyrlo ac ati, yn gymwys i gael taliad.

Bydd staff mewn swyddi cymwys sydd wedi gweithio o gartref yn ystod y cyfnod hwn yn cael y taliad, er enghraifft Cynorthwywyr Personol sy’n rhoi cymorth o bell.

Adleoli

Bydd staff sydd wedi’u hadleoli o swydd gymwys i swydd sydd heb ei chynnwys yn y cynllun yn cael y taliad os yw eu swydd wreiddiol yn gymwys.

Bydd staff sydd wedi’u hadleoli i swydd gymwys ac sydd wedi gweithio am ran neu am y cyfan o’r cyfnod amser perthnasol yn cael y taliad.

Mae’r term ‘adleoli’ yn berthnasol dim ots a yw’r trefniant yn un ffurfiol neu’n un anffurfiol.

Manylion pellach am swyddogaethau staff cymwys

Cymwys am daliad
Gweithwyr gofal yn y cartref Mae gweithwyr gofal sy’n cael eu cyflogi gan wasanaeth cymorth cartref cofrestredig yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr gofal sy’n rhoi gofal i bobl mewn cartrefi preifat neu i bobl mewn llety byw â chymorth.    
Gweithwyr gofal mewn cartrefi gofal    

Mae gweithwyr gofal sy’n cael eu cyflogi i ofalu am bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal cofrestredig yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn, oedolion ifanc a phlant. Mae’n cynnwys gwasanaethau llety diogel ar gyfer plant ac ysgolion neu golegau preswyl arbennig sydd wedi’u cofrestru fel cartrefi gofal gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Nyrsys sy’n cael eu cyflogi gan gartrefi gofal   Mae nyrsys sy’n cael eu cyflogi gan gartrefi gofal cofrestredig yn gymwys i gael y taliad. 
Staff ategol mewn cartrefi gofal Mae cogyddion, staff domestig, gweinyddwyr, cydlynwyr gweithgareddau, staff cynnal a chadw a staff ategol eraill yn gymwys i gael y taliad os nad ydynt wedi gallu cadw pellter cymdeithasol a’u bod wedi chwarae rhan bwysig wrth gefnogi’r ddarpariaeth ofal. Mae cymhwysedd yn adnabod y staff ategol sydd wedi ymestyn eu dyletswyddau yn ystod COVID-19 ac wedi treulio mwy o amser yn agos at breswylwyr ac yn ymgymryd â thasgau gofal. 
Rheolwyr a dirprwy reolwyr cartrefi gofal a gwasanaethau gofal cartref

Mae rheolwyr / dirprwy reolwyr cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref yn gymwys i gael y taliad os ydynt wedi darparu gofal personol yn ystod y cyfnod amser perthnasol oherwydd prinder staff a/neu ddim wedi gallu cadw pellter cymdeithasol ac wedi chwarae rhan bwysig o ran cefnogi’r ddarpariaeth ofal

Cynorthwywyr personol (PA) Mae Cynorthwywyr Personol yn darparu gofal a chymorth personol i unigolion yn eu cartrefi eu hunain i alluogi gwell annibyniaeth a hyblygrwydd trefniadau gofal. Mae Cynorthwywyr Personol yn cael eu talu drwy daliadau uniongyrchol a wnaed i’r unigolion sy’n cael gofal. Mae cynorthwywyr personol yn gymwys i gael y taliad, ond dim ond os ydynt yn cael eu talu drwy daliadau uniongyrchol.
Gweithwyr gofal asiantaeth Mae gweithwyr gofal asiantaeth sydd wedi gwneud gwaith i gartref gofal cofrestredig neu wasanaeth cymorth cartref, yn ystod y cyfnod perthnasol, yn gymwys i gael y taliad. Bydd y gweithiwr asiantaeth yn gymwys am un taliad yn unig, hyd yn oed os yw wedi gweithio mewn sawl gwasanaeth gofal.   
Nyrsys asiantaeth – wedi gweithio yn yr un cartref gofal am 12 wythnos neu fwy 

Mae nyrsys asiantaeth yn gymwys i gael y taliad pan maent wedi gweithio yn yr un cartref gofal am 12 wythnos neu fwy yn olynol, a phan fo’r 12fed wythnos wedi’i chwblhau ar neu cyn 31 Mai 2020 (dyddiad terfyn y cyfnod perthnasol).

Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd

Mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy’n cael eu cyflogi gan gartref gofal cofrestredig neu wasanaeth gofal cartref, ac yn gweithio yno, yn gymwys i gael y taliad os ydynt yn rhoi gofal a chymorth uniongyrchol i bobl ac nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol.

Anghymwys
Nyrsys asiantaeth – wedi gweithio llai na 12 wythnos yn yr un cartref gofal Nid yw nyrsys asiantaeth sydd wedi gweithio am lai na 12 wythnos yn yr un cartref gofal yn gymwys i gael y taliad.
Nyrsys y GIG sydd wedi’u hadleoli dros dro i gartrefi gofal  Mae nyrsys yn yr amgylchiadau hyn yn dal i gael eu cyflogi gan y GIG ac nid ydynt yn gymwys i gael y taliad hwn.
Gweithwyr cymdeithasol Nid yw gweithwyr cymdeithasol yn darparu gofal personol yng nghartrefi pobl ac maent yn gallu cadw pellter cymdeithasol. Nid ydynt yn gymwys i gael y taliad.
 
Rheolwyr rhanbarthol / unigolion cyfrifol  Nid yw rheolwyr rhanbarthol fel arfer yn gweithio yn y gwasanaethau gofal ac nid ydynt yn darparu gofal personol. Nid ydynt yn gymwys i gael y taliad.
Gofalwyr maeth     Mae gofalwyr maeth yn cael lwfans ac nid ydynt fel arfer yn weithwyr cyflogedig. Maent yn darparu gwasanaeth o’u cartrefi eu hunain yn hytrach nag o gartrefi pobl eraill. Mae hyn yn debygol o leihau’r risg o ddal COVID-19. Nid ydynt yn gymwys i gael y taliad. 
Gofalwyr cysylltu bywydau Mae gofalwyr cysylltu bywydau yn cael lwfans ac nid ydynt fel arfer yn weithwyr cyflogedig. Maent yn darparu gwasanaeth o’u cartrefi eu hunain yn hytrach nag o gartrefi pobl eraill. Mae hyn yn debygol o leihau’r risg o ddal COVID-19. Nid ydynt yn gymwys i gael y taliad. 
 
Gweithwyr mewn canolfannau preswyl i deuluoedd Nid yw’r gweithwyr hyn yn rhoi llawer iawn o ofal personol ac nid ydynt yn gymwys i gael y taliad.
Staff eraill mewn cartrefi gofal i blant Nid yw staff dysgu, staff therapiwtig a staff swyddfa mewn cartrefi gofal i blant, gan gynnwys gwasanaethau llety diogel ac ysgolion neu golegau preswyl arbennig sydd wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru yn gymwys i gael y taliad. Mae staff o’r fath yn debygol o allu cadw pellter cymdeithasol ac/neu nid ydynt yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol gan y cartref gofal. Ni fyddai eu swyddi yn cynnwys gofal uniongyrchol.
Gweithwyr cymorth mewn prosiectau tai â chymorth, cymorth fel bo’r angen, hostelau ac ati  Mae’r gweithwyr hyn yn rhoi cymorth yn hytrach na gofal personol. Os nad yw gweithwyr cymorth yn gweithio i wasanaeth cymorth cartref cofrestredig neu i gartref gofal, nid ydynt yn gymwys i gael y taliad. Os yw gweithwyr yn cael eu cyflogi gan asiantaeth gofal cartref cofrestredig i roi gofal a chymorth, maent yn gymwys i gael y taliad.
Gwasanaethau cymunedol ac ymyrraeth gynnar Nid yw gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n cael eu cyflogi i weithio mewn gwasanaethau cymunedol yn gymwys i gael y taliad, oni bai eu bod wedi’u hadleoli i swyddogaeth staff cymwys. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar staff sy’n rhoi gofal yng nghartrefi pobl. 
Gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl   Nid yw gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl yn cael eu cynnwys yn y cynllun hwn, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr cyflogedig gwasanaethau gofal cofrestredig. Nid ydynt yn gymwys i gael y taliad.
Gofal plant a gwasanaethau chwarae Nid yw gofal dydd sesiynol neu lawn ar gyfer plant ifanc yr un fath â chartref gofal neu wasanaethau gofal cartref cofrestredig. Nid yw gweithwyr gofal sy’n cael eu cyflogi gan y gwasanaethau hyn yn rhoi gofal personol yng nghartrefi pobl ac nid ydynt yn gymwys i gael y taliad.

Cymhwysedd: cwestiynau cyffredin

Pam fydd cogyddion, staff domestig a staff eraill mewn cartrefi gofal yn cael y taliad hwn?

Mae cartrefi gofal yn gweithredu fel cartrefi mawr lle bydd llawer o’r staff yn rhyngweithio â’r preswylwyr ac yn ffurfio perthnasau â nhw. Yn ystod COVID-19, cyfyngwyd ar yr ymwelwyr i gartrefi gofal a bu prinder staff. Mae staff ategol mewn cartrefi gofal wedi gwneud llawer mwy na’u dyletswyddau arferol gan gynorthwyo gyda gofal pobl ac nid ydynt wedi gallu cadw pellter cymdeithasol. 

Rwyf wedi cael fy adleoli o’m swydd yn rhywle arall i weithio mewn cartref gofal neu i wasanaeth gofal cartref. A fydda i’n cael y taliad?

Byddwch yn cael y taliad os gwnaethoch weithio mewn cartref gofal neu fel gweithiwr gofal cartref am y cyfan, neu am ran o’r cyfnod rhwng 15 Mawrth a 31 Mai 2020.

Pam bod nyrsys mewn cartrefi gofal yn cael y taliad ond nyrsys eraill ddim yn ei gael? 

Ateb: Mae’r nyrsys sy’n cael eu cyflogi gan gartrefi gofal yn rhan hanfodol o’r tîm staff. Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar gartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref ac nid yw’n cynnwys staff y GIG na lleoliadau’r GIG. 

Rwy’n ofalwr i aelod o’r teulu ac yn cael Lwfans Gofalwyr. A fydda i’n cael y taliad?

Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar y gweithlu cyflogedig ac nid yw’n cynnwys gofalwyr di-dâl. Mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cytuno i roi £50,000 o gyllid i Gofalwyr Cymru i ymestyn y ddarpariaeth cymorth seicolegol i ofalwyr. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Cronfa Ymateb COVID-19 y Trydydd Sector, gwerth £24 miliwn, a bydd gofalwyr yn manteisio o’r gwasanaethau y mae’r cyllid hwn yn ceisio eu cefnogi. Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar ba gymorth ychwanegol y gellir ei ddarparu i ofalwyr.  

Rwyf wedi gadael fy swydd mewn cartref gofal, a fydda i’n cael y taliad?

Os gwnaethoch weithio mewn swydd gymwys am y cyfan neu am ran o’r cyfnod rhwng 15 Mawrth a 31 Mai 2020 rydych yn gymwys i gael taliad. Yr eithriad i hyn yw os ydych wedi eich diswyddo’n ddiannod, h.y. eich diswyddo’n syth am gamymddwyn difrifol. Rydych yn gymwys am un taliad yn unig.

Rwy’n cael fy nghyflogi i ddarparu gofal ac yn fy ystyried fy hun yn Gynorthwyydd Personol. Mae fy nghyflogwr yn fy nhalu o’i arian ei hun neu o’i fudd-daliadau. A ydw i’n gymwys i gael y taliad? 

Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar y Cynorthwywyr Personol sy’n rhoi gofal a nodwyd fel gofal angenrheidiol gan yr awdurdod lleol ac yng nghynllun gofal yr unigolyn sy’n cael gofal. Yna gwneir taliadau uniongyrchol gan yr awdurdod lleol i alluogi’r unigolyn i drefnu ei ofal ei hun. Nid yw’r cynllun yn cynnwys gofalwyr sy’n cael eu cyflogi y tu hwnt i’r trefniadau penodol hyn.

Rhan 2: cyflawni

Treth incwm, yswiriant gwladol a budd-daliadau lles

Cadarnhaodd CThEM fod y taliadau hyn yn cael eu hystyried fel enillion ac y byddant yn ddarostyngedig i dreth, cyfraniadau yswiriant gwladol ac ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr.  Byddant hefyd yn cael eu cynnwys mewn cyfrifiadau budd-daliadau lles. 

Bydd pob aelod o staff cymwys yn cael taliad trethadwy o £500 ar yr amod eu bod yn llenwi ffurflen gais ac yn ei dychwelyd i'w cyflogwr.

Dylid gwneud y taliadau drwy'r gyflogres i sicrhau bod treth incwm ac yswiriant gwladol yn cael eu trin yn briodol, ac i hwyluso'r hysbysiadau priodol i’r Adran Gwaith a Phensiynau.

Trosolwg o'r broses gyflawni

  • Llywodraeth Cymru sy'n darparu’r canllawiau a’r ffurflenni hawlio
  • mae darparwyr gofal/cyflogwyr yn nodi staff cymwys ac yn rhoi ffurflenni hawlio iddynt
  • mae darparwyr gofal/cyflogwyr yn nodi staff asiantaeth cymwys ac yn rhoi ffurflenni cais iddynt
  • mae pob aelod o staff cymwys yn llenwi ac yn dychwelyd y ffurflen hawlio i'w cyflogwr
  • mae cyflogwyr yn cadw’r ffurflenni hawlio ac yn cyflwyno ceisiadau am gyllid i awdurdodau lleol
  • mae ALlau yn rhoi £500 ar gyfer pob aelod o staff cymwys i gyflogwyr/darparwyr neu asiantaeth gofal
  • mae cyflogwyr/darparwyr neu asiantaeth gofal yn talu staff drwy’r gyflogres
  • mae cyflogwyr yn hawlio unrhyw gostau cyflogwr ychwanegol (YG a phensiwn) gan yr awdurdod lleol
  • mae’r ALl yn adhawlio cyllid gan Lywodraeth Cymru

Gall y broses amrywio yn dibynnu ar natur y gyflogaeth.

Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol (ALlau)

  • mae ALlau yn nodi staff cymwys y maen nhw'n eu cyflogi yn uniongyrchol
  • mae'r staff yn llenwi ac yn cyflwyno ffurflen gais
  • mae ALlau yn ychwanegu £500 at gyflog gros cyn didyniadau ar gyfer staff cymwys fel rhan o'r gyflogres nesaf sydd ar gael
  • mae ALlau yn adrodd am y taliadau hyn drwy gyflwyno taliad llawn i CThEM ar y dyddiad talu neu cyn hynny
  • mae ALlau yn cyflwyno hawliad i Lywodraeth Cymru i dalu costau'r taliad gan gynnwys unrhyw gostau yswiriant gwladol neu bensiwn gwirioneddol y cyflogwr

Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan ddarparwyr gofal annibynnol

  • mae ALlau yn cysylltu â darparwyr gofal gan roi ffurflenni hawlio iddynt ac yn gofyn am restr o’r staff cymwys sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol
  • mae'r staff yn llenwi ac yn cyflwyno ffurflenni cais i'r darparwr gofal
  • mae darparwyr gofal yn rhoi rhestr i’r ALl o staff cymwys sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol (ac sydd wedi cyflwyno ffurflenni hawlio)
  • mae ALlau yn rhoi £500 i ddarparwyr gofal ar gyfer pob aelod o staff cymwys ar y rhestr
  • darparwyr gofal i ychwanegu £500 at y cyflog gros cyn didyniadau ar gyfer staff cymwys ar y rhestr fel rhan o'r gyflogres nesaf sydd ar gael
  • dylai darparwyr gofal roi gwybod am y taliadau hyn drwy gyflwyno taliad llawn i CThEM ar y dyddiad talu neu cyn hynny
  • darparwyr gofal i anfon cadarnhad at ALlau o daliadau'r gyflogres gan gynnwys unrhyw gostau yswiriant gwladol neu bensiwn gwirioneddol y cyflogwr
  •  ALlau i ddarparu unrhyw gyllid atodol i ddarparwyr gofal ar gyfer unrhyw gostau yswiriant gwladol cyflogwr a/neu gostau pensiwn y byddant yn talu amdanynt

Staff asiantaeth 

  • mae ALlau yn cysylltu â darparwyr gofal i ofyn iddynt am restr o staff asiantaeth a gyflogwyd ganddynt rhwng 15 Mawrth 2020 a 31 Mai 2020 a'r asiantaethau a'u darparodd
  • mae asiantaethau cyswllt ALlau yn anfon ffurflenni hawlio ac yn gofyn i'r asiantaethau gadarnhau bod staff yr asiantaeth yn gweithio i'r darparwyr gofal rhwng 15 Mawrth 2020 a 31 Mai 2020
  • mae staff yn llenwi ac yn cyflwyno ffurflenni cais i asiantaethau
  • mae asiantaethau'n darparu rhestr o staff asiantaeth cymwys i ALlau (sydd wedi cyflwyno ffurflenni hawlio). Dylai'r rhestr hon gynnwys rhif yswiriant gwladol pob aelod o staff cymwys
  • mae ALlau yn rhoi £500 i asiantaethau ar gyfer staff asiantaeth cymwys
  • bydd asiantaethau’n ychwanegu £500 at y cyflog gros cyn didyniadau ar gyfer staff asiantaeth cymwys ar y rhestr fel rhan o'r gyflogres nesaf sydd ar gael
  • dylai asiantaethau roi gwybod am y taliadau hyn drwy gyflwyno taliad llawn i CThEM ar y dyddiad talu neu cyn hynny
  • asiantaethau i anfon cadarnhad at ALlau o daliad y gyflogres gan gynnwys unrhyw gostau yswiriant gwladol neu bensiwn cyflogwr gwirioneddol y maent yn talu amdanynt
  • ALlau i ddarparu unrhyw gyllid atodol i asiantaethau ar gyfer unrhyw daliadau yswiriant gwladol cyflogwr a/neu gostau pensiwn y maent yn talu amdanynt. 

Gwasanaethau cefnogi gofal cartref

  • bydd yr ALl yn cysylltu â phob asiantaeth gofal cartref y mae'n eu comisiynu ac yn darparu ffurflenni hawlio a chais am restr o staff cymwys
  • dylai’r asiantaethau gofal cartref anfon y ffurflen gais at eu staff cymwys
  • mae'r staff yn llenwi ac yn cyflwyno ffurflenni cais i'r asiantaeth
  • mae asiantaethau yn darparu rhestr i'r ALl o’r holl staff cymwys (sydd wedi cyflwyno ffurflenni hawlio)
  • mae'r ALl yn rhoi £500 i’r asiantaethau ar gyfer pob aelod o staff cymwys ar y rhestr
  • mae’r asiantaethau yn ychwanegu £500 at y cyflog gros cyn didyniadau ar gyfer staff cymwys ar y rhestr fel rhan o'r gyflogres nesaf sydd ar gael
  • dylai asiantaethau roi gwybod am y taliadau hyn drwy gyflwyno taliad llawn i CThEM ar y dyddiad talu neu cyn hynny
  • mae asiantaethau yn anfon cadarnhad o'r taliad cyflogres at yr ALl gan gynnwys unrhyw gostau yswiriant gwladol neu bensiwn gwirioneddol y cyflogwr mae wedi talu amdanynt
  • ALlau i ddarparu unrhyw gyllid atodol i ddarparwyr gofal ar gyfer unrhyw gostau yswiriant gwladol a/neu gostau pensiwn cyflogwyr y mae wedi talu amdanynt

Cynorthwywyr personol (PA)

Naill ai

  • mae ALlau yn nodi Cynorthwywyr Personol cymwys sy'n cael eu hariannu gan wasanaethau cymorth y gyflogres
  • mae ALlau yn dosbarthu ffurflenni hawlio i Gynorthwywyr Personol
  • mae Cynorthwywyr Personol yn llenwi ac yn cyflwyno ffurflenni hawlio i'w cyflogwr (y sawl sy'n derbyn gofal) a fydd yn eu hanfon ymlaen ar yr ALl (comisiynu) perthnasol
  • mae ALlau yn rhoi cyfarwyddyd i wasanaethau cymorth cyflogres ychwanegu £500 at y cyflog gros cyn didyniadau ar gyfer Cynorthwywyr Personol cymwys fel rhan o'r gyflogres nesaf sydd ar gael ac yn darparu'r lefel briodol o gyllid i wasanaethau cymorth y gyflogres
  • dylai gwasanaethau cymorth y gyflogres adrodd am y taliadau hyn drwy gyflwyno taliad llawn i CThEM ar y dyddiad talu neu cyn hynny
  • ALlau i gyflwyno hawliad i Lywodraeth Cymru i dalu £500 ac unrhyw gostau yswiriant gwladol neu gostau pensiwn gwirioneddol y mae’r cyflogwr wedi talu amdanynt

Neu

  • mae ALlau yn nodi Cynorthwywyr Personol y mae eu cyflogwr yn eu talu'n uniongyrchol (y sawl sy'n derbyn gofal)
  • mae'r ALlau yn cyflwyno ffurflenni cais i'r cyflogwr yn gofyn iddo eu hanfon ymlaen at eu Cynorthwywyr Personol (ar yr amod eu bod yn gymwys)
  • mae'n rhaid i'r Cynorthwyydd Personol lenwi a chyflwyno ffurflenni hawlio i'w gyflogwr (y sawl sy'n derbyn gofal) a fydd yn eu hanfon ymlaen at yr ALl (comisiynu) perthnasol
  • bydd ALlau yn rhoi £500 i'r cyflogwr ar gyfer pob cynorthwyydd personol cymwys
  • dylai'r cyflogwr ychwanegu £500 at y cyflog gros cyn didyniadau ar gyfer Cynorthwywyr Personol cymwys fel rhan o'r gyflogres nesaf sydd ar gael
  • dylai cyflogwyr roi gwybod am y taliadau hyn drwy gyflwyno taliad llawn i CThEM ar y dyddiad talu neu cyn hynny
  • dylai cyflogwyr gadarnhau i’r ALl eu bod wedi cael taliad a'r hawliad ac unrhyw gostau yswiriant gwladol cyflogwr neu gostau pensiwn y maent wedi talu amdanynt

Rôl Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru fydd yn ariannu’r cynllun. Mae hyn yn cynnwys:

  • costau’r taliad £500
  • unrhyw gostau cyflogwr yng nghyswllt cyfraniadau yswiriant gwladol a phensiynau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â’r taliad £500
  • ad-daliad o’r costau ychwanegol y mae’r ALl wedi talu amdanynt o ganlyniad i gyflawni'r cynllun
  • ad-daliad o gostau cyflogwyr yn seiliedig ar gyfradd safonol o £1 fesul hawliad, ar yr amod bod y cyflogwr yn cyflwyno mwy na phedwar hawliad

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu:

  • costau staff presennol awdurdodau lleol
  • treth incwm a/neu ddidyniadau yswiriant gwladol yn deillio o’r taliad £500

Bydd Llywodraeth Cymru yn casglu data cryno gan ALlau sy'n dangos costau'r cynllun fesul cyflogwr ac yn darparu cyllid.

Rôl awdurdodau lleol (ALlau)

Byddant yn sicrhau’r canlynol:

  • rheoli'r gwaith o gyflawni'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru
  • rheoli'r cynllun ar sail ddaearyddol
  • cysylltu â darparwyr gofal i ofyn am y canlynol:
    • hestr o staff cymwys a gyflogir gan y darparwr (h.y. maent ar gyflogres y darparwr)
    • rhestr o staff asiantaeth cymwys ynghyd â'r asiantaeth a'u darparodd
  • casglu a choladu rhestrau staff gan ddarparwyr ac asiantaethau
  • gwirio'r rhestrau, gan gynnwys chwilio am geisiadau dyblyg
  • cytuno gyda darparwyr ac asiantaethau gofal ar sut y byddant yn cadw ac yn rheoli data personol yn unol â rheoliadau GDPR
  • nodi pob Cynorthwyydd Personol a sicrhau ei fod yn cael y taliad
  • cadw cofnodion digonol i fodloni'r archwiliad
  • sicrhau bod mesurau ar waith i leihau'r risg o dwyll neu golledion

Rôl darparwyr gofal

Maent yn gyfrifol am y canlynol:

  • nodi'r holl staff cymwys a oedd yn gyflogedig ganddynt rhwng 15 Mawrth 2020 a 31 Mai 2020
  • anfon ffurflenni hawlio
  • casglu ffurflenni hawlio a'u cadw at ddibenion archwilio/gwirio
  • anfon rhestr o'r holl staff cymwys at yr ALl yn cadarnhau eu bod wedi cael ffurflen gais gan yr holl staff ar y rhestr (dylai'r rhestr hon nodi'r staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y darparwr ac unrhyw staff asiantaeth)
  • i ddarparu rhestr o enwau staff asiantaeth ynghyd â manylion cyswllt yr asiantaeth
  • yn amodol ar gytundeb yr ALl, bydd yr ALl yn darparu cyllid o £500 ar gyfer pob aelod o staff cymwys sy'n cael ei gyflogi'n uniongyrchol
  • dylai darparwyr ychwanegu £500 at gyflog yr holl staff sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol fel rhan o'u cyflogres nesaf
  • ar ôl y gyflogres, dylai'r darparwr gyflwyno hawliad atodol i'r ALl i dalu costau yswiriant gwladol neu gostau pensiwn y cyflogwr
  • ar yr amod bod yr hawliad atodol hwn yn cael ei gyflwyno'n brydlon, yn cyd-fynd â'r rhestr o enwau a roddwyd a thystiolaeth ategol, yr ALl sy'n darparu cyllid ar gyfer unrhyw gostau yswiriant gwladol neu gostau pensiwn y mae'r cyflogwr wedi amdanynt

Rôl asiantaethau

Maent yn gyfrifol am y canlynol:

  • gwirio'r rhestrau o staff asiantaeth i sicrhau bod yr holl staff yn gyflogedig rhwng 15 Mawrth 2020 a 31 Mai 2020
  • rhoi ffurflenni hawlio i staff asiantaeth
  • casglu ffurflenni hawlio a'u cadw at ddibenion archwilio/gwirio
  • anfon rhestr o'r holl staff cymwys at eu ALlau yn cadarnhau eu bod wedi cael ffurflen gais gan yr holl staff
  • bydd yr ALl yn rhoi £500 i'r asiantaeth ar gyfer staff asiantaeth cymwys
  • dylai asiantaethau ychwanegu £500 at gyflog yr holl staff asiantaeth cymwys fel rhan o'r gyflogres nesaf sydd ar gael
  • ar ôl y gyflogres, dylai'r asiantaeth gyflwyno hawliad atodol i'r ALl i dalu costau unrhyw gyflogwr
  • ar yr amod bod yr hawliad atodol hwn yn cael ei gyflwyno'n brydlon, yn gyson â’r rhestr o enwau a roddwyd ac yn cynnwys tystiolaeth ategol, bydd yr ALl yn darparu cyllid ar gyfer unrhyw gostau y mae’r cyflogwr wedi talu amdanynt

Amseriad y taliadau a’r hawliadau

Dylai cyflogwyr dalu eu staff drwy'r gyflogres cyn gynted â phosibl ond yn ddelfrydol cyn diwedd Hydref 2020. 

Dylai cyflogwyr gyflwyno hawliadau cyflawn ar gyfer lleoliad gofal i'w ALl. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y derbynnir hawliadau rhannol. 

Dylai ALlau adhawlio'r arian y maent wedi'i ddarparu i gyflogwyr gan Lywodraeth Cymru cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Tystiolaeth a dilysu hawliadau

Rhaid i ALlau a Llywodraeth Cymru wneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr holl staff cymwys yn cael y taliad cyn gynted â phosibl.

Dylai ALlau wneud yn siŵr bod nifer y staff sydd wedi hawlio yn cyd-fynd â maint y lleoliad gofal a dilyn unrhyw fesurau rhesymol pellach i wirio'r wybodaeth a gawsant.

Dylai'r ALl gadw cofnod meistr o'r holl staff cymwys y mae wedi rhoi arian iddynt.  Dylai hyn gynnwys Rhifau YG yr holl staff sydd wedi cael y taliad. Bydd hyn yn helpu ALlau rhag gwneud taliadau dwbl yn eu hardaloedd.  

Bydd un ALl yn gyfrifol am gynnal cofrestr Cymru gyfan o daliadau a wneir i chwilio am daliadau dyblyg ar draws ffiniau ALlau. 

Bydd ALlau a chyflogwyr yn derbyn cyfrifon agored fel sydd wedi'i fabwysiadu'n llwyddiannus ar gyfer cynlluniau eraill.  

Rhaid i gyflogwyr gadw'r ffurflenni cais a gellir gofyn iddynt eu defnyddio fel tystiolaeth.

Grant Llywodraeth Cymru i ALlau

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu grant newydd i ariannu'r taliad hwn.  Gall ALlau hawlio cyllid gan Lywodraeth Cymru.  

Y ffurflenni i'w defnyddio 

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu'r ffurflenni hawlio canlynol.  

  • ffurflen hawlio'r cyflogai
  • ffurflen gais yr ALl i Lywodraeth Cymru ar gyfer staff sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan yr ALl
  • ffurflen hysbysu’r darparwr gofal sy'n rhestru'r holl staff sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol ac unrhyw staff asiantaeth cymwys
  • ffurflen hawlio'r darparwr gofal.  Mae hyn yn cynnwys costau cyflog gwirioneddol bob aelod o staff sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol
  • ffurflen hawlio'r asiantaeth. Mae hyn yn cynnwys costau cyflog gwirioneddol bob aelod o staff asiantaeth
  • ffurflen hawlio’r ALl.  Mater i'r ALl yw adennill costau'r taliadau y mae wedi'u cael gan Lywodraeth Cymru

Canllawiau i unigolion

Bydd canllawiau'n cael eu cynnwys ar y ffurflen hawlio ar gyfer cyflogeion. Bydd hwn yn nodi lle y gall cyflogeion gael rhagor o gyngor ac arweiniad ar oblygiadau'r taliad hwn o ran ad-dalu benthyciadau myfyrwyr, budd-daliadau lles, treth ac yswiriant gwladol.   

Bydd y ffurflen hefyd yn gofyn i'r cyflogai ddatgan: ei fod yn gymwys; dim ond unwaith y bydd yn hawlio; ac y bydd yn rhoi gwybod am unrhyw daliadau dyblyg.  Mae'r ffurflen hefyd yn gofyn i gyflogeion a ydynt yn dymuno cael un taliad o £500 neu daliadau o £100 am bum mis ac mae’n rhoi gwybod iddynt am yr wybodaeth bersonol a fydd yn cael ei rhannu â’r ALl i sicrhau cydymffurfiaeth â'r GDPR.

Staff sydd wedi gadael cyflogaeth

Os bydd cyflogwr yn nodi unrhyw un sy'n gymwys i gael y taliad ond sydd wedi gadael ei gyflogaeth wedi hynny, dylai anfon ffurflen hawlio ato a'i phrosesu ochr yn ochr â'i weithlu presennol.  

Ar ôl i'r cyflogwr gael y ffurflen hawlio, dylai ddilyn gweithdrefn y gyflogres ar gyfer adrodd a gwneud 'taliad ar ôl gadael' i CThEM. Os rhoddwyd P45 i'r cyflogai ar ôl gadael, yna'r cod treth i'w ddefnyddio yw 0T Week1.

Os nad oes P45 wedi'i roi, dylai'r cyflogwr ddefnyddio'r cod treth hysbys diwethaf.

At ddibenion yswiriant gwladol, dylid asesu taliad ar ôl gadael gan ddefnyddio cyfnod enillion wythnosol.  
Os nad yw cyflogwyr yn gallu cysylltu â staff cymwys sydd wedi gadael eu cyflogaeth, dylai'r cyflogwr ddweud wrth ei ALl, ond ni ddarperir arian i'r staff hyn nes y byddant wedi cyflwyno ffurflen gais.

Taliadau fesul cam

Efallai y byddai'n well gan rai gweithwyr wasgaru'r taliad dros amser i gyd-fynd yn well â’u hamgylchiadau personol. Mae opsiwn i dderbyn y taliad mewn pum rhandaliad o £100 cyfartal dros 5 mis yn olynol. Rhaid talu pob rhandaliad cyn diwedd Mawrth 2021. Rhaid i'r cyflogwr roi tystiolaeth i'r ALl unwaith y bydd pob un o'r pum rhandaliad wedi'u talu.

Dim ond y cyflogai sy'n cael penderfynu a yw'n dymuno cael ei dalu fesul cam. Ni ddylai cyflogwyr benderfynu a ydynt am wneud taliadau fesul cam ai peidio. 

Os bydd cyflogai sy'n cael taliad fesul cam yn gadael cyflogaeth cyn i'r holl daliadau gael eu gwneud, caiff y cyflogai ei holl daliadau sy'n weddill fel rhan o'i gyflogres derfynol.

Nid yw taliadau fesul cam ar gael i bobl nad ydynt bellach yn gweithio i'r cyflogwr sy'n gwneud y taliad.

Dim ond i staff sy'n cael eu talu bob mis y mae'r opsiwn talu hwn ar gael.

Rheoli data

Mae pob sefydliad yn gyfrifol am sicrhau bod y data y maent yn ei gasglu a'i gadw yn cydymffurfio â'r rheoliadau GDPR perthnasol.  

Dylai ALlau gasglu a chadw rhestrau o'r holl staff cymwys sy'n cael y taliad £500.  Bydd y data hwn yn cynnwys enw, rhif yswiriant gwladol a chostau pob unigolyn.

Bydd cyflogwyr yn casglu ac yn cadw'r holl ffurflenni hawlio a gyflwynir gan y staff.

Gofynnir i staff gadarnhau ar eu ffurflen gais eu bod yn fodlon i wybodaeth bersonol gael ei rhannu rhwng eu cyflogwr a'r ALl at ddibenion gwneud y taliad hwn yn unig.

Rhagor o wybodaeth

Mae CThEM wedi cadarnhau y caiff y taliadau hyn eu hystyried yn enillion ac y bydd  treth incwm, cyfraniadau yswiriant gwladol ac ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr yn berthnasol iddynt, lle bo'n briodol.

Byddant hefyd yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo budd-daliadau.

Mae rhagor o wybodaeth am yr effeithiau ar gael yn:

Treth Incwm https://www.gov.uk/income-tax-rates

Yswiriant Gwladol https://www.gov.uk/national-insurance-rates-letters

Budd-daliadau https://www.gov.uk/browse/benefits/entitlement

Ad-dalu Benthyciadau Myfyrwyr https://www.gov.uk/repaying-your-student-loan

Gweithredu: cwestiynau cyffredin

Pam mae angen ffurflenni hawlio a beth fydd yn digwydd iddynt?

Mae angen ffurflenni hawlio i roi tystiolaeth i gadarnhau bod y cyflogai a'r cyflogwr wedi cadarnhau bod y cyflogai'n gymwys i gael y taliad. I gyflymu'r broses ac i osgoi costau argraffu a phostio gellir anfon ffurflenni hawlio at gyflogeion a'u dychwelyd yn electronig.  

Pa wiriadau y mae disgwyl i awdurdodau lleol eu gwneud i ddilysu ceisiadau?

Bydd disgwyl i awdurdodau lleol wirio hawliadau cyflogwyr i weld a yw'r hawliad yn gymesur â maint y lleoliad gofal.  

Beth ddylai'r trefniadau talu fod rhwng awdurdodau lleol a darparwyr neu asiantaethau gofal?

Mater i'r awdurdodau lleol yw penderfynu hyn.  Dylent geisio defnyddio'r dulliau talu presennol os oes modd.

Sut mae cyflogwyr yn profi bod y taliadau wedi cael eu gwneud?

Gofynnir i gyflogwyr gyflwyno ffurflen wedi'i llenwi i'r awdurdod lleol. I gyd-fynd â hyn dylai’r cyflogwyr gyflwyno adroddiad ariannol sy'n dangos bod y taliadau wedi'u gwneud. 

Sut mae cyflogwr yn nodi'r incwm i ariannu'r taliadau hyn yn eu cyfrifon?

Dylai'r taliadau gael eu cydnabod yng nghyfrifon pob cyflogwr fel incwm trethadwy. Bydd cyflogwyr yn gallu hawlio didyniad cyfatebol ar gyfer costau cyflogeion, felly nid oes unrhyw effaith net ar elw trethadwy cyffredinol y cyflogwr.  

Beth sy'n digwydd os oes gan ddarparwr gofal nifer o leoliadau gofal mewn ardaloedd ALl gwahanol?

Gall yr awdurdodau lleol perthnasol a'r darparwr gofal gytuno, drwy gydsyniad ar y cyd, y dylai un awdurdod lleol arwain y broses dalu ar gyfer pob lleoliad ar ran y darparwr gofal hwnnw i leihau cymhlethdod a'r baich gweinyddol 

Beth os caiff gwasanaeth cefnogi gofal cartref ei chomisiynu gan sawl awdurdod lleol?

Bydd angen i'r gwasanaeth cefnogi gofal cartref gasglu ffurflenni hawlio wedi'u llofnodi gan ei staff a'u cyflwyno i'r awdurdod lleol perthnasol. Os yw staff gofal cartref yn darparu gwasanaeth gofal i fwy nag un awdurdod lleol, dylai'r asiantaeth gofal cartref sicrhau mai dim ond un ffurflen hawlio a gyflwynir fesul cyflogai a dylai hyn fod ar gyfer yr awdurdod lleol lle y darperir y rhan fwyaf o'r gofal. Gall awdurdodau lleol a gwasanaethau cefnogi gofal cartref gytuno, drwy gydsyniad ar y cyd, y dylai un awdurdod lleol arwain y taliadau ar gyfer cyflogeion o wasanaeth cefnogi gofal cartref er mwyn lleihau cymhlethdod a'r baich gweinyddol.

A yw'r taliadau hyn yn bensiynadwy?

Ateb: Mae'r taliadau hyn yn bensiynadwy fel arfer oni bai bod amod yn nhelerau ac amodau gwaith y cyflogai yn dweud nad ydynt.  Gofynnir i gyflogwyr wneud yn siŵr bod y taliadau'n cael eu trin yn gywir.

Sut mae cyflogwyr yn pennu ac yn dangos tystiolaeth o gostau Yswiriant Gwladol a phensiwn cyflogwyr?

Yswiriant gwladol (YG)

Os yw cyflogres y cyflogai yn creu cost YG o fwy na £69.00, dylai'r cyflogwr gynnwys £69.00 fel ei gost YG ychwanegol ar ei ffurflen hawlio.

Os yw cyflogres y cyflogai wedi creu cost YG o lai na £69.00, dylai'r cyflogwr gynnwys cost lawn YG y cyflogai ar ei ffurflen hawlio.

Os nad yw cyflogres y cyflogai wedi creu cost YG, ni ddylid cynnwys unrhyw gost YG ar ei ffurflen gais.

Pensiynau

Os yw'r taliad yn bensiynadwy o dan delerau ac amodau'r cyflogai, dylai cyflogwyr gyfrifo cyfanswm cost pensiwn y cyflogwr fel canran o gyfanswm y cyflog cyn unrhyw ddidyniadau.  Yna defnyddiwch y ganran hon gyda £500 a chynnwys y ffigur hwn yn eu ffurflen hawlio. 

Beth sy'n digwydd os yw gweithiwr gofal cymwys wedi'i ddiswyddo?

Os yw gweithiwr gofal cymwys wedi'i ddiswyddo’n ddiannod, nid yw’n gymwys i gael y taliad.  Mae hyn yn wir p’un ai a oedd y diswyddiad yn ystod y cyfnod cymwys neu ar ei ôl.  

Os caiff y diswyddiad hwn ei wrthdroi neu os gwelir ei fod yn annheg, bydd yn gymwys i gael y taliad. Bydd gweithwyr mewn rôl gymwys sy’n cael eu diswyddo yn dilyn proses ddisgyblu ac eithrio ar gyfer diswyddiad diannod yn dal i fod yn gymwys i gael y taliad.

Beth sy'n digwydd os yw gweithiwr gofal cymwys wedi marw? 

Bydd y taliad yn cael ei wneud i ystâd y gweithiwr gofal.  Ni fydd y taliad hwn yn dylanwadu nac yn cael ei ddylanwadu gan unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru a sefydlwyd i helpu teuluoedd gweithwyr gofal sydd wedi marw o ganlyniad i bandemig Covid-19.

Rhan 3: y broses apelio

Mae awdurdodau lleol yn gweinyddu taliadau ar gyfer y cynllun ar ran Gweinidogion Cymru. 

Mae'r broses hon yn berthnasol pan fo cais am daliad wedi cael ei wrthod gan awdurdod lleol. 

Cam 1 - Ailystyried

Bydd y gweithiwr gofal yn gofyn am ailystyried penderfyniad yr awdurdod lleol drwy gwblhau ffurflen Cais Ailystyried. Bydd rheolwr o'r awdurdod lleol yn ymgymryd â’r  broses ailystyried a gall: 

  • nodi bod yr ymgeisydd yn gymwys i gael y taliad a gwneud y trefniadau angenrheidiol
  • nodi nad yw'r ymgeisydd yn gymwys i gael y taliad ac anfon llythyr ato yn amlinellu’r rhesymau dros y penderfyniad
  • cyfeirio'r mater at Banel Apeliadau Llywodraeth Cymru oherwydd natur gymhleth neu unigryw yr amgylchiadau

Bydd y broses ailystyried yn cael ei chwblhau o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os yw'r gweithiwr gofal yn parhau i fod yn anfodlon yn dilyn cam 1, mae ganddo’r hawl i uwchgyfeirio ei apêl i gam 2. 

Cam 2 - Panel apeliadau Llywodraeth Cymru

Bydd yr ymgeisydd yn cwblhau'r ffurflen gais ac yn ei hanfon at Apeliadau.TaliadGofalCymdeithasol@llyw.cymru. Byddwn yn cydnabod ceisiadau sydd wedi dod i law.
Mae'r Panel yn cynnwys swyddogion Llywodraeth Cymru, cynrychiolydd o'r awdurdod lleol, cynrychiolydd o'r undebau llafur, cynrychiolydd ar ran y cyflogwyr a chadeirydd. Unigolyn allanol yw'r cadeirydd, nad yw'n cael ei gyflogi gan unrhyw sefydliad sy’n rhan o’r broses. 

Mae gan y Panel awdurdod dirprwyedig gan Weinidogion Cymru i wneud penderfyniadau am apeliadau a gall:

  • ganfod bod yr ymgeisydd yn gymwys i gael y taliad a rhoi'r cyfarwyddyd angenrheidiol ar gyfer talu
  • canfod nad yw'r ymgeisydd yn gymwys i gael y taliad ac anfon llythyr ato yn amlinellu’r rhesymau dros y penderfyniad
  • cyfeirio'r mater at Weinidogion Cymru os na all y Panel wneud penderfyniad hyderus

Ni all y Panel newid meini prawf cymhwysedd y cynllun. 

Bydd cam 2 o'r broses apelio yn cael ei gwblhau o fewn 10 diwrnod gwaith.

Rhannu’r dudalen hon