Ein cynllun ar gyfer gwireddu’r wyth amcan ar gyfer pysgodfeydd a ddisgrifir yn Neddf Pysgodfeydd 2020.
Cynnwys
Cefndir
Gwnaethon ni gyhoeddi’r Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd (JFS) ym mis Tachwedd 2022. Roedd hyn yn ofynnol o dan Adran 2 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020.
Mae'r JFS yn elfen allweddol o Fframwaith Pysgodfeydd y DU. Mae’n pennu’r cyfeiriad strategol lefel uchel ar gyfer rheoli pysgodfeydd.
Mae’n pennu’r polisïau ar gyfer gwireddu, neu helpu i wireddu, yr wyth amcan ar gyfer pysgodfeydd a ddisgrifir yn y Ddeddf. Bydd angen i ni ystyried y polisïau hyn a’r amcanion wrth i ni ddatblygu polisïau yn y dyfodol.
Mae hefyd yn cynnwys rhestr o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd (FMPau). Byddwn yn cynnal y cynlluniau hyn yn ystod cyfnod y datganiad cyntaf. Bydd yr FMPau yn arfau allweddol ar gyfer cynnal pysgodfeydd cynaliadwy a’u rheoli’n dda. Bydd hynny’n ein helpu i gwrdd ag ymrwymiadau polisïau'r JFS.
Mae rhai FMPau yn gynlluniau ar y cyd â gweinyddiaethau eraill. Maen nhw’n adlewyrchu gwasgariad daearyddol stoc benodol o bysgod. Mae cynlluniau eraill yn gynlluniau i Gymru yn unig ac yn adlewyrchu ac yn cefnogi’n polisïau a’n hamcanion ni. Mae’r FMP Crancod a Chimychiaid yn un o’r cynlluniau Cymreig hyn. Y gobaith yw ei lunio a’i gyhoeddi cyn diwedd 2026.
Y bysgodfa crancod a chimychiaid yw un o bysgodfeydd mwyaf gwerthfawr Cymru o ran gwerth. Bydd yr FMP yn rhoi sylw i’r:
- cranc coch
- cimwch
- cranc heglog
- cimwch coch
- cranc llygatgoch
- gorgimwch cyffredin
Er gwaetha’u pwysigrwydd economaidd, mae’r stociau hyn yn ddi-gwota a does dim llawer o ddata amdanyn nhw. Dim ond trwy gyfres o fesurau technegol a ‘maint glanio lleiaf’ (MLS) y maen nhw’n cael eu rheoli.
Mae’n flaenoriaeth datblygu FMP ar gyfer y rhywogaethau hyn. Mae pysgodfeydd cimychiaid a chrancod o werth economaidd mawr i bysgotwyr a’r cymunedau arfordirol sy’n dibynnu arnyn nhw. Ceir y teimlad bod angen rheolaeth well arnyn nhw.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Rydym am gael trafodaeth â rhanddeiliaid sydd â diddordeb yn y pysgodfeydd crancod a chimychiaid. Y cam cyntaf oedd siarad â physgotwyr masnachol ym mis Ebrill 2024. Ein pwrpas oedd:
- casglu barn rhanddeiliaid am y trefniadau rheoli presennol
- casglu barn am drefniadau rheoli ar gyfer y dyfodol, ar gyfer pysgodfeydd pysgod cregyn yng Nghymru
- deall disgwyliadau rhanddeiliaid
- deall sut mae rhanddeiliaid am fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu a chyd-reoli’r FMP yn y dyfodol
Cyn-ymgynghori ar Gynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid Cymru
Buom yn siarad â physgotwyr hamdden crancod a chimychiaid ddiwedd yr haf, 2024.
Cynllun rheoli pysgodfeydd crancod a chimychiaid: adroddiad ymgysylltu â'r sector hamdden
Gweithgor Cynghori Cranc a Chimychiaid (GCCC)
Mae grŵp cynghori wedi’i sefydlu a chyfarfu am y tro cyntaf ym mis Hydref 2024. Ei bwrpas yw i:
- rhoi cyngor ar weithredu'r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Crancod a Chimychiaid
- bod yn brif fforwm ar gyfer ymgysylltu a chydweithio â rhanddeiliaid
- gweithio i wella pysgodfeydd crancod a chimychiaid
Mae’r grŵp, ar hyn o bryd, yn cynnwys 7 pysgotwr masnachol, 2 gyflenwr, 4 pysgotwr hamdden, 1 cynghorydd gwyddonol ac 1 ymgynghorydd morol.