Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad

Pwrpas y ddogfen hon yw rhoi cyngor ymarferol a nodi meysydd allweddol sy’n benodol i brosiectau SMS er mwyn gallu ymgorffori arferion da wrth gasglu a monitro data a pharatoi ar gyfer gwerthusiad terfynol y prosiect.

Fe welwch ganllawiau manwl ar gyfer cynnal gwerthusiadau yn Llyfyr Magenta Trysorlys EM ac yn fwy penodol, ar gyfer Mesur 16 y RhDG, Prosiectau’r Cynllun Datblygu Cydweithredu a’r Gadwyn Gyflenwi - y Canllaw Gwerthuso (Llyw.Cymru). Daw’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) o dan y mesur hwn, felly mae’r canllaw hwn yn ymwneud â’r SMS ac yn esbonio’r gofynion monitro a gwerthuso i chi.

Mae’r ddogfen hon yn ganllaw i ategu’r uchod a chafodd ei ysgrifennu gyda golwg ar fesur SMS 16.5 er mwyn gallu targedu’n gwaith yn well. Bydd hynny’n galluogi Llywodraeth Cymru i asesu effaith yr SMS ac yn ei helpu â’i phenderfyniadau polisi yn y dyfodol.

Mae monitro’n rhan bwysig o bob prosiect SMS. Trwy fonitro gweithgareddau’n llwyddiannus, casglu data a rheoli’r data hynny, bydd gan bob prosiect dystiolaeth o’i fewnbynnau a’u heffaith ar ei amcanion a’i nodau.

Mae angen gwerthuso prosiectau er mwyn gallu pwyso a mesur yn ddoeth effeithiolrwydd y cyllido, yr ymyriadau a’r penderfyniadau.

Fel rhan o ofynion Cynllun Rheoli Cynaliadwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, mae angen cynnal gwerthusiad annibynnol o bob prosiect.  Drwy hynny, bydd Llywodraeth Cymru’n gallu gwerthuso cynlluniau a rhaglenni a chasglu tystiolaeth ddefnyddiol all ei helpu â’i phenderfyniadau yn y dyfodol.

Trwy werthuso pob prosiect unigol, bydd Llywodraeth Cymru’n dysgu o wersi a chanlyniadau pob prosiect cydweithredol a’u hymgorffori yn ei sylfaen dystiolaeth i’w helpu wrth ddatblygu cynlluniau cymorth eraill yn y dyfodol.  Rhwng nawr a diwedd y cyfnod cyflenwi, sef Mehefin 2023, rydym yn gweld ac yn disgwyl gweld gweithgareddau sy’n cyfrannu at ganlyniadau clir iawn: dal a storio carbon, gwella bioamrywiaeth, cryfhau ecosystemau, addasu i’r newid yn yr hinsawdd, lleihau perygl llifogydd, sgiliau, diwylliant a threftadaeth wledig, cydlyniant cymunedol, lles ac iechyd, gwella pridd, aer a dŵr a datblygu sgiliau, gallu ac arbenigeddau. Rydym am allu cofnodi hynny’n effeithiol, felly mae gwerthuso prosiectau’n hanfodol.

Mae gwerthusiad annibynnol allanol o’r cynllun wedi’i gomisiynu ac mae Llywodraeth Cymru wedi penodi OB3 Research, mewn cydweithrediad â BRO Partnership i gynnal gwerthusiad eang o gynllun yr SMS.  Amcan y gwerthusiad yw mesur effeithiolrwydd yr SMS fel ffordd o sicrhau Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol (SMNR) yng Nghymru. Bydd y gwerthusiad yn ystyried gwerth y cydweithredu ar gyfer cynnal SMS ar y naill law ac a yw’r cynllun wedi cyflawni’i ganlyniadau’n llwyddiannus ar y llall gan roi’r modd i ni ddeall a yw SMS wedi llwyddo fel ffordd o sicrhau Rheolaeth Gynaliadwy ar Adnoddau Naturiol a gwerth cydweithio  Bydd angen i’r gwerthusiad felly ganolbwyntio ar y prosesau a’r mecanweithiau a ddefnyddir i gynnal y cynllun yn ogystal ag ar ei ganlyniadau, gan roi asesiad o ganlyniadau ffisegol (amgylcheddol) a chymdeithasol/economaidd yr SMS.

Bydd y gwerthusiad o’r cynllun yn asesu;

  • I ba raddau y mae’r prosiectau a ariennir yn cefnogi egwyddorion SMNR
  • Y ffordd y mae’r cynllun yn cael ei reoli a’i roi ar waith
  • Natur a graddau’r cydweithio a beth mae wedi’i gyflawni
  • Canlyniadau’r cynllun a’r camau sydd wedi’u cymryd ar flaenoriaethau’r polisi
  • Cyfraniad themâu trawsbynciol, yn enwedig lleihau’r newid yn yr hinsawdd ac addasu iddo.

Cynhelir y gwerthusiad rhwng Ionawr 2020 a Hydref 2022 ac mae’n golygu paratoi pedwar adroddiad: adroddiad cychwynnol Theori Newid gafodd ei gwblhau ym mis Mai 2020; dau adroddiad diweddaru ac adroddiad gwerthuso terfynol ym mis Hydref 2022.

Bydd prosiectau’n cael cyfle i fynegi barn wrth werthuswyr allanol annibynnol Llywodraeth Cymru fel sefydliadau arwain a phartner, cyfrannu at arolygon blynyddol dwyieithog ar y we i ddweud am y profiad o wneud cais am gyllid SMS a’i gael a’u profiadau o gynnal prosiectau.  Bydd cyfle hefyd i gyfrannu at y gwerthusiad trwy gyfweliad ag ymchwilydd, wyneb yn wyneb neu dros y we. Y bwriad yw ymweld â phob prosiect o leiaf unwaith dros gyfnod gwerthuso’r cynllun i holi arweinwyr y prosiect, partneriaid y prosiect a lle bo hynny’n berthnasol, gwerthuswyr y prosiect.

Bydd gwaith casglu a monitro data a gwerthusiadau terfynol o’ch prosiectau unigol yn cyfrannu at y gwerthusiad ehangach hwn.

2. Pwrpas y pecyn gwerthuso hwn ar gyfer prosiectau a ariennir

Dros gyfnod Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, bydd cyfle i brosiectau SMS rannu dogfennau prosiect perthnasol; adroddiadau cynnydd, data monitro, adroddiadau ar lefel prosiect, data gofodol ynghyd â chyhoeddiadau a chanfyddiadau gwyddonol. Diben casglu’r holl ddata yw creu sylfaen dystiolaeth a bydd yr adroddiad terfynol yn gwerthuso effaith a defnyddioldeb yr ymyriadau. Byddwn yn defnyddio'r canfyddiadau hyn i’n helpu â’n penderfyniadau yn y dyfodol ac i ddeall a dangos sut y gall cydweithio ar raddfa tirwedd fod yn llwyddiannus.

Diben y pecyn cymorth hwn yw rhoi gwybodaeth i brosiectau a ariennir (a'u gwerthuswyr allanol, lle bo hynny'n berthnasol) am:

  • Yr hyn sydd ei angen arnom gennych: y wybodaeth a'r dystiolaeth a fyddai o help i hysbysu Llywodraeth Cymru ac i gynnal gwerthusiad allanol o’r cynllun.
  • Y ffordd fwyaf effeithiol o werthuso’ch prosiect
  • Nodi’r prif gwestiynau ymchwil
  • Nodi’r fethodoleg addas

Rydym yn gwerthfawrogi bod prosiectau a ariennir yn gweithio i wahanol amserlenni a’u bod yn defnyddio dulliau gwahanol i werthuso’u gweithgareddau. Felly, dylai'r pecyn cymorth hwn gael ei ystyried gan brosiectau fel canllaw a chyngor ategol yn hytrach na chyfarwyddyd y mae'n rhaid ei ddilyn. 

3. Y prif gwestiynau ymchwil ar lefel prosiect

  • Nodau ac amcanion eich prosiect – beth mae'n anelu at ei gyflawni a'r prif faterion y mae'n ceisio mynd i'r afael â hwy. Ydy’r nodau a'r amcanion wedi’u cyflawni? Os do, sut?
  • Gwerth ac effeithiolrwydd unrhyw ryngweithio, partneriaethau neu gydweithio y buoch yn rhan ohonynt o ganlyniad i gyllid SMS?
  • Effeithiolrwydd eich model ar gyfer cynnal y prosiect, h.y. o'r gwaelod i fyny? beth sydd wedi gweithio'n dda a beth sydd ddim?
  • Allbynnau’ch prosiect ar sail eich targedau; pa wahaniaeth y mae'ch prosiect yn ei wneud a’i effeithiau ar adnoddau naturiol, cymunedau a’r economi?
  • Pa fanteision sydd wedi'u sicrhau wrth gyflawni’ch nodau a'ch amcanion?
  • Unrhyw wersi pwysig yr ydych wedi'u dysgu hyd yma o gynnal eich prosiect fel hyn?
  • I ba raddau y gellir cynnal effeithiau’r ffyrdd newydd hyn o weithio ar ôl i’r ariannu ddod i ben?
  • A allech fod wedi cynnal eich prosiect heb gyllid SMS a’ch rhesymau dros ddweud hynny?

 

Ar gyfer y prosiectau hynny sy'n gweithio dros gyfnod hwy, efallai y byddai'n briodol ystyried cynnal gwerthusiad canol tymor a gwerthusiad terfynol o weithgareddau'r prosiect. Gallai monitro prosiectau ac allbynnau a dogfennau’r prosiect (e.e. cais am gyllid, adroddiadau cynnydd, cofnodion cyfarfodydd y bartneriaeth ac ati) fod yn ddefnyddiol yn hynny o beth.

Byddai hefyd yn briodol i'r gwerthusiad holi barn holl bartneriaid y prosiect yn ogystal â chynrychiolwyr o'r gymuned leol, gan gynnwys, lle bo'n briodol, grwpiau neu gymdeithasau cymunedol a chynrychiolwyr busnes a oedd yn rhan o'r prosiect, er mwyn casglu gwybodaeth am fanteision llai amlwg. Gellid casglu'r safbwyntiau hyn drwy gyfweliadau, grwpiau ffocws neu holiaduron byr. Am arweiniad manwl ar fethodoleg, cyfeiriwch at y dolenni yn y cyflwyniad. 

Mae Adran 4 yn darparu templed manwl i brosiectau ei fabwysiadu wrth baratoi adroddiadau gwerthuso ar lefel prosiect.

Mae Adran 5 yn cynnig y math o gwestiynau y gallai prosiectau neu eu gwerthuswyr eu gofyn i bartneriaid prosiect, aelodau'r gymuned a rhanddeiliaid eraill i fynd i'r afael â'r amcanion hyn.

4. Gwerthuso’ch Prosiect – Pethau i’w hystyried

Mae'r adran hon yn cynnig rhai syniadau ynghylch yr hyn y gallai adroddiad(au) gwerthuso’ch prosiect ei gynnwys. Rydym yn cynnig rhai syniadau ac mae croeso i brosiectau (a'u gwerthuswyr annibynnol) eu gwella a’u defnyddio i baratoi eu hadroddiadau gwerthuso eu hunain.

Cyflwyniad

Gallai'r adran hon gynnwys:

  • Cefndir – adran fer i roi cyflwyniad byr o'r prosiect a'r bartneriaeth
  • Strwythur yr adroddiad – amlinelliad syml o'r penodau sy’n dilyn a’u cynnwys

Trosolwg o'r prosiect SMS

Gallai'r adran hon nodi'n gryno:

  • Nodau ac amcanion eich prosiect
    • Beth oeddech yn bwriadu ei wneud a sut?
  • Yr angen canfyddedig am y prosiect a'r rhesymau drosto
    • O ble daeth y syniad, sut y cafodd ei ddatblygu, beth oedd yn gobeithio mynd i’r afael ag e?
  • Aelodaeth a strwythur y bartneriaeth
    • Grwpiau llywio
    • Grwpiau cymunedol
    • Pwy sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau
  • Eich model ar gyfer cynnal y prosiect a'ch trefniadau cyflawni
    • Sut gwnaethoch chi gynllunio'r gwaith, pa ddulliau yr oeddech yn bwriadu eu defnyddio, sut  cafodd hynny ei reoli?
    • Beth oedd eich trefniadau staffio neu wirfoddoli?
    • Beth oedd amserlen a chyllideb y prosiect?
    • A oedd hyn yn rhesymol ac yn gymesur?

Rhoi’r prosiect SMS ar waith

Gallai'r adran hon adolygu effeithiolrwydd sut y cafodd y prosiect ei gynnal, gan gynnwys:

  • Effeithiolrwydd cydweithio ac i ba raddau y mae ystod eang o sefydliadau, grwpiau ac unigolion wedi cael cymryd rhan
  • Effeithiolrwydd y model ar gyfer cynnal y prosiect
  • Effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu a rheoli
  • Effeithiolrwydd y cyfathrebu a’r rhyngweithio ar lefel y prosiect
  • Effeithiolrwydd trefniadau monitro ac adrodd y prosiect.

Methodoleg

Gallai'r adran hon ddisgrifio’r fethodoleg a ddefnyddiwyd wrth werthuso’r prosiect, yr ymchwil a gynhaliwyd i gasglu'r dystiolaeth a gyflwynwyd megis adolygiadau desg, cyfweliadau neu arolygon gyda phartneriaid y prosiect ac aelodau o'r gymuned, tystiolaeth ffotograffig 'cyn ac ar ôl', cofnodion a chyfrifiadau gwyddonol ac unrhyw adroddiadau cyhoeddedig.

Cyflawniadau, canlyniadau ac effeithiau

Gallai'r adran hon adolygu'r dystiolaeth sydd gan y prosiect i ddangos canlyniadau’r prosiect a'r gwahaniaeth y mae wedi'i wneud, gan gynnwys tystiolaeth o:

  • Gyfraniad y prosiect at adnoddau naturiol a chydnerthedd ecosystemau a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud
  • Sut mae’r prosiect wedi mabwysiadu egwyddorion SMNR yn ei ffordd o weithio a chyfrannu atynt
  • Cyfraniad y prosiect at y gymuned a’r gymdeithas leol
  • Cyfraniad y prosiect at yr economi leol a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud
  • Cyfraniad y prosiect at iechyd a lles pobl leol a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud
  • Faint o gydweithio, rhannu gwybodaeth ac arloesedd a ddatblygwyd gyda phrosiectau SMS eraill a ariennir, a’u gwerth
  • I ba raddau y bydd canlyniadau’r prosiect o ran cryfhau ecosystemau yn cael eu cynnal ar ôl i gyllid SMS ddod i ben
  • I ba raddau y bydd partneriaethau’r prosiect yn cael eu cynnal ar ôl i gyllid SMS ddod i ben
  • I ba raddau y bydd swyddi a hyfforddiant y prosiect yn cael eu cynnal ar ôl i gyllid SMS ddod i ben

Casgliadau ac argymhellion

Gallai'r adran hon nodi barn y gwerthuswr ar ganlyniadau ac effaith y prosiect a sut y cafodd ei gynnal. Nodwch y gwersi a ddysgwyd a’r prif argymhellion. Gallai nodi’r manteision y gallai’r prosiect ei cynnig ac at eu heffeithiau.

Gallai hefyd nodi argymhellion clir i staff rheoli'r prosiect ar gyfer y cyfnod sy’n weddill o’r prosiect (yn achos adroddiad canol tymor) yn ogystal â gwersi trosglwyddadwy ar gyfer y dyfodol.

Mae sawl peilot arloesol yn cael eu datblygu ynghyd â’r rheolaeth gynaliadwy lwyddiannus bresennol o'n hadnoddau naturiol ar draws y prosiectau. Defnyddir casgliadau ac argymhellion y gwerthusiadau i lywio polisi yn y dyfodol a defnyddir allbynnau a gwersi’r prosiectau hyn fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth i ddatblygu cynlluniau cymorth yn y dyfodol yng Nghymru. Felly mae'n hanfodol bod prosiectau'n rhannu eu profiadau, eu gwybodaeth a'u llwyddiant gyda Llywodraeth Cymru a'r sector er mwyn cael tystiolaeth dda ar gyfer gallu gwneud penderfyniadau ariannu yn y dyfodol. Mae crynodeb gweithredol yn arf defnyddiol iawn i'r gynulleidfa ei weld a byddem yn eich argymell i’w lunio ochr yn ochr â'r adolygiad manylach.

5. Fframwaith Cwestiynau Gwerthusiad y Prosiect

Mae'r adran hon yn cynnig awgrymiadau ar y math o gwestiynau y gallai gwerthuswyr y prosiect eu gofyn i bartneriaid y prosiect, aelodau'r gymuned a rhanddeiliaid eraill i lywio eu hadroddiad gwerthuso ac i ymdrin â’r nodau ac amcanion gwerthuso ar lefel prosiect a nodir yn y pecyn cymorth hwn.

Cefndir

  • Disgrifiwch eich rôl, eich sefydliad a'ch ymwneud â'r prosiect SMS

Nodau ac amcanion y prosiect SMS a ariennir

  • Beth mae’ch prosiect yn gobeithio’i gyflawni? Tynnwch sylw at y nodau ac amcanion strategol a nodwyd yn y cais
  • Pa faterion y mae’ch prosiect yn ceisio mynd i'r afael â hwy?

Monitro a chasglu data a methodoleg

  • Sut gwnaethoch chi fonitro’ch allbynnau ac ym mha fformatau?
  • Pa sefydliadau wnaeth eich helpu i nodi’r canfyddiadau ac adrodd arnynt?
  • A wnaethoch chi gofnodi’r adborth er mwyn nodi’r manteision anniriaethol fel sut roedd pobl yn teimlo am fod yn rhan o rywbeth?
  • A wnaethoch chi gofnodi lluniau, fideos, astudiaethau achos, cyfweliadau, podlediadau neu flogiau?
  • Beth oeddech chi'n ei chael hi'n anodd wrth fonitro?
  • Pa gamau ydych chi wedi'u cymryd i fesur a chofnodi gwerth cymdeithasol ac effaith eich gweithredoedd?
  • Ydych chi wedi casglu data ansoddol a meintiol?

Cynnydd, rheoli newid a nodi'r gwersi a ddysgwyd

  • Pa effeithiau amgylcheddol neu economaidd yr ydych wedi'u nodi y mae allbynnau’ch prosiect SMS wedi’u cael?
  • Pa gynnydd sydd wedi'i wneud tuag at gyflawni’ch amcanion gwreiddiol?
  • Pa gamau a gymerwyd gennych i sicrhau’ch canlyniadau?
    • Sut gwnaethoch chi nodi beth oedd angen ei wneud?
    • Sut wnaethoch chi roi’r pethau hynny yn nhrefn blaenoriaeth?
    • Sut aethoch chi i’r afael â nhw a phwy gwnaeth hynny?
  • Os nad oedd modd gwneud beth oeddech yn bwriadu ei wneud - beth oedd y rhesymau dros unrhyw newidiadau, sut gweloch chi fod angen newid a sut y gwnaethoch reoli'r newid?
  • Beth yw cryfderau a gwendidau’r hyn sydd wedi’i wneud?
  • Beth wnaethoch chi i leihau’r risg?
  • Pa ffactorau allanol sydd wedi effeithio ar yr hyn sydd wedi’i wneud trwy’r prosiect?
  • Pa atebion sy'n seiliedig ar natur y mae'r prosiect wedi'u cynnal i gyfrannu at y canlyniadau canlynol:
    • Dal a Storio Carbon
    • Gwella Bioamrywiaeth
    • Cryfhau Ecosystemau
    • Newid yn yr Hinsawdd ac Addasu iddo
    • Lleihau Perygl Llifogydd
    • Sgiliau, Diwylliant a Threftadaeth Wledig
    • Cydlyniant Cymunedol
    • Iechyd a Lles
    • Ansawdd Pridd, Aer a Dŵr
    • Datblygu Sgiliau, Gallu ac Arbenigedd

Cydweithio

  • Sut sefydlwyd eich grŵp/partneriaeth?
  • Beth yw strwythur eich grŵp/partneriaeth?
  • Sut mae’ch grŵp/partneriaeth yn cael ei ariannu y tu allan i SMS?
  • Beth yw maint eich grŵp/partneriaeth?
  • Pa rwystrau ydych chi wedi'u hwynebu fel grŵp/partneriaeth?
  • Pa mor effeithiol yw’r gweithio mewn partneriaeth a’r cydweithio o fewn eich prosiect yn eich barn chi?
  • Beth sy'n gweithio'n dda?
  • Beth yw manteision gweithio mewn partneriaeth, cydweithio?
  • Pa werth ychwanegol sy'n cael ei sicrhau o'r cydweithio hwn?
  • Beth yw'r heriau a sut ydych chi wedi'u goresgyn?
  • Pa mor effeithiol yw model cyflawni cydweithredol eich prosiect?
  • Pa arfer da ydych chi wedi'i weld/brofi?
  • Beth yw'r gwersi a ddysgwyd o gydweithio?
  • Ydych chi wedi cysylltu â phrosiectau SMS eraill er mwyn trosglwyddo gwybodaeth, data neu arloeseddau?
  • Pwy/beth oedden nhw a sut aethoch chi ati?
  • Pa wybodaeth/data ydych chi wedi’i rannu a sut aethoch chi ati?
  • Pa mor effeithiol yw trefniadau llywodraethu a rheoli (e.e. strwythurau fel grwpiau llywio, mecanweithiau adrodd) eich prosiect? Beth yw'r prif resymau dros hyn?
  • A oes unrhyw gryfderau a gwendidau yn y mecanweithiau hynny?
  • Pa mor gyfarwydd oedd/yw'r partneriaid â chydweithio?
  • Pa rôl chwaraeodd y gwasanaeth cymorth hwyluso (os o gwbl) i gefnogi hyn?
  • Os na chawsoch gymorth hwyluso, pa gymorth arall a gawsoch?

Iechyd a lles, a chymdeithasol-economaidd

  • Beth yw manteision/canlyniadau/effeithiau’ch prosiect ar y gymuned a chymdeithas leol
    • e.e. sgiliau gwledig, creu swyddi, hyfforddiant, ymgysylltu ag ysgolion/cymuned, gwelliannau i dreftadaeth leol, y celfyddydau, y Gymraeg?
  • Beth yw manteision/canlyniadau/effeithiau’ch prosiect ar yr economi leol? 
  • Beth yw manteision/canlyniadau/effeithiau’ch prosiect ar iechyd a lles pobl e.e. manteision corfforol, lleihau straen, gwell lles meddyliol?
  • Beth ydych chi wedi’i wneud i sicrhau cynhwysiant cymdeithasol ac i wella cyfranogiad a chyfleoedd i grwpiau difreintiedig?

Ariannu a Chynaliadwyedd hirdymor

  • A fyddech yn debygol o fod wedi sicrhau unrhyw rai o ganlyniadau prosiect heb gyllid SMS?
  • A fydd maint y gwaith rheoli tirwedd a ariannwyd cyn hynny wedi gallu parhau?
  • A fydd staff a swyddi'n cael eu cadw?
  • I ba raddau y bydd partneriaeth y prosiect yn parhau ar ôl cyllid SMS?
  • Pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd i gynnal y bartneriaeth ar ôl i’r cyllid ddod i ben?
  • Pa gymorth neu gymorth pellach y byddai ei angen arnoch i gynnal y bartneriaeth ar ôl i gyllid yr SMS ddod i ben?
  • Beth yw gwaddol eich prosiect SMS?
  • A yw partneriaeth y prosiect wedi sicrhau unrhyw gyllid arall i gefnogi ei gwaith yn y dyfodol? Os felly, pa ffynonellau cyllid sydd wedi'u sicrhau a faint?
  • Pa wersi a ddysgwyd i helpu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor prosiectau a gweithgareddau yn y dyfodol?