Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi y bydd cyfnod datgan diddordeb ar gyfer cynllun £1.5 miliwn i helpu ffermwyr a chynhyrchwyr organig yn agor ar 17 Hydref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Contract pum mlynedd yw Glastir Organig, i’r rheini sydd am droi’n ffermwyr organig ac i helpu’r rheini sydd eisoes yn cynhyrchu’n organig. 

Mae mwy o dir yn cael ei ffermio trwy ddulliau organig yng Nghymru nag yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig.  Amcan y cynllun Glastir Organig yw denu hyd yn oed mwy i ffermio’n organig mewn sectorau fel garddwriaeth a godro, lle ceir potensial i gynyddu’r farchnad ddomestig. 

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Mae’n dda gen i gyhoeddi cyfnod datgan diddordeb newydd ar gyfer y cynllun Glastir Organig. Mae gan ffermio organig ran bwysig i’w chwarae yn nyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru ac mae’n cefnogi’n huchelgais ar gyfer economi wyrddach.

“Mae statws organig yn gallu ychwanegu at werth cynnyrch hefyd wrth i’r galw am fwyd a diod cynaliadwy a chyfrifol gynyddu.  Buaswn yn annog ffermwyr sydd eisoes yn ffermio’n organig a’r rheini sydd â diddordeb mewn troi’n organig i fanteisio ar y cynllun.” 

Caiff ceisiadau llwyddiannus ar gyfer y cynllun Glastir Organig eu dewis fel rhan o broses gystadleuol.

Y dyddiad cau ar gyfer Datgan Diddordeb yw 4 Tachwedd 2016. Bydd contractau’n cychwyn ar 1 Ionawr 2017.

Rhaid Datgan Diddordeb trwy RPW Ar-lein. Os nad ydych eto wedi’ch cofrestru gydag RPW Ar-lein ac os nad oes gennych god defnyddio, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 cyn gynted ag y medrwch.

Am help i lenwi’ch Datganiad o Ddiddordeb Glastir Organig, ewch i RPW Ar-lein.

Ariennir Glastir Organig gan Lywodraeth Cymru a’r Comisiwn Ewropeaidd ac mae’n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014 – 2020.