Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi amlinellu sut bydd gronfa newydd gwerth £100m yn drawsnewid darpariaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y gronfa £100m,  a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddiwethaf, yn helpu i cyflawni argymhellion yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gyhoeddwyd y mis diwethaf.

Mae'r adolygiad, dan gadeiryddiaeth Dr Ruth Hussey, yn gwneud nifer o argymhellion ynghylch sut i wynebu'r heriau a fydd yn codi i'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dros y blynyddoedd nesaf. Mae'n argymell modelau gofal newydd, beiddgar gyda'r gwasanaethau wedi'u trefnu o amgylch yr unigolyn a'i deulu, mor agos â phosibl at y cartref.

Wrth annerch Cydffederasiwn y GIG heddiw (dydd Mercher, 7 Chwefror) dywedodd Mr Gething wrth y gynulleidfa o weithwyr iechyd proffesiynol ei fod yn disgwyl gweld ffyrdd newydd, beiddgar a dyfeisgar o ddarparu gwasanaethau er mwyn sicrhau dyfodol cynaliadwy i'r GIG yng Nghymru.  

Dywedodd: "Mae'r buddsoddiad ychwanegol yma yn mynd â'n buddsoddiad yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol y tu hwnt i'r hyn y dywedodd Ymddiriedolaeth a Sefydliad Iechyd Nuffield sydd ei angen ar gyfer cynnal gwasanaethau iechyd craidd. Dydy’r cyllid hwn ddim ar gyfer lleddfu unrhyw bwysau ar y system a ddylai fod yn cael ei reoli drwy welliannau effeithlonrwydd o’r cyllid ychwanegol sydd eisoes wedi’i ddyrannu. 

"Bydd y Gronfa'n cael ei thargedu'n fanwl i sicrhau'r newidiadau angenrheidiol i'r gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a nodwyd gan yr Adolygiad Seneddol . Bydd yn canolbwyntio ar ariannu nifer fach o raglenni a fydd yn cael yr effaith fwyaf ar ddatblygu a darparu modelau gofal newydd. Bydd yn cael ei defnyddio er mwyn helpu i wella iechyd poblogaethau, integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal, adeiladu gwasanaethau gofal sylfaenol, darparu gofal yn nes at y cartref, a rhoi cefnogaeth i drawsnewid gofal mewn ysbytai.”