Neidio i'r prif gynnwy

Help i'r rhai sy'n gadael gofal ar ôl cymryd rhan yn y peilot incwm sylfaenol.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i'r cynllun peilot ddod i ben?

Rydych chi nawr yn nesu at ddiwedd y cynllun peilot ac efallai y byddwch chi'n poeni am beth i'w wneud ar ôl derbyn eich neges destun neu e-bost.

Peidiwch â phoeni, mae llawer o help a chefnogaeth ar gael i chi.

Cefnogaeth

Nid oes rhaid i chi ddelio â newidiadau ar eich pen eich hun. Mae gennych hawl i gael cefnogaeth gan eich Cynghorydd Personol a'ch Tîm Gadael Gofal lleol.

Mae eich Cynghorydd Personol yno i drafod unrhyw bryderon sydd gennych a'ch helpu chi.

Gallwch gysylltu â Cyngor ar Bopeth drwy eich Cynghorydd Personol neu eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Gallwch hefyd gysylltu â gwasanaeth eirioli fel Voices from Care Cymru am help ar unrhyw adeg.

Er mwyn eich helpu i feddwl am beth sy'n digwydd nesaf, defnyddiwch ein rhestr wirio ar gyfer pob un o'r camau olaf hyn.

Gallwch hefyd gymryd rhan yn yr arolwg "Eich Bywyd y Tu Hwnt i Ofal".