Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o Arolwg Preswylwyr Cymru a gynhaliwyd ym Mro Morgannwg, Sir Benfro a Gwynedd, sef cynllun peilot i helpu i wella’r profiad o ran yr economi ymwelwyr drwy fonitro a dadansoddi agweddau preswylwyr tuag at Dwristiaeth.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o Arolwg Preswylwyr Cymru a gynhaliwyd ym Mro Morgannwg, Sir Benfro a Gwynedd, sef cynllun peilot i helpu i wella’r profiad o ran yr economi ymwelwyr drwy fonitro a dadansoddi agweddau preswylwyr tuag at Dwristiaeth. Mae’r prosiect yn cael ei gynnal fel rhan o’r blaenoriaethau yn Croeso i Gymru.

Canfyddiadau allweddol

Agweddau at dwristiaeth

  • O’r tair ardal beilot, yr ymatebwyr o Sir Benfro oedd yr unig rai i roi sgôr oedd yn dangos canfyddiad cadarnhaol net o dwristiaeth (56%) o’i gymharu â Gwynedd (46%) a Bro Morgannwg (45%).
  • O ran teimladau negyddol tuag at Dwristiaeth, ymatebwyr o Wynedd oedd wedi rhoi’r sgôr uchaf, sef 14% gyda Sir Benfro yn rhoi sgôr o 9% a Bro Morgannwg yn rhoi sgôr o 8%.
  • Gwelwyd sgôr gadarnhaol net yn y tair ardal o ran eu dymuniad i weld Twristiaeth yn tyfu (Bro Morgannwg, 63%; Gwynedd, 57%; Sir Benfro 56%). Fodd bynnag, mae’n werth nodi bod ymatebwyr o Wynedd a Sir Benfro yn fwy tebygol o fod yn gweithio ym maes Twristiaeth (sef tua 40% o’r ymatebwyr o’r ddwy ardal hon, o’i gymharu â dim ond 12% ym Mro Morgannwg).

Agweddau’r ymatebwyr

  • Mae ymdeimlad cryf o falchder yn y tair ardal (Gwynedd, 88%; Sir Benfro, 84%; a Bro Morgannwg, 83%).
  • Mae ymatebwyr o Wynedd yn gadarnhaol ar y cyfan ynghylch datblygu Llety Gosod Tymor Byr (53%) tra bo Sir Benfro (42%) a Bro Morgannwg (45%), at ei gilydd, yn fwy negyddol am hyn.

Llety gosod tymor byr

  • Roedd ymatebwyr o Wynedd yn fwy tebygol o dynnu sylw at gynnydd mewn ymwelwyr drwy gydol y flwyddyn o ganlyniad i fwy o Letyau Gosod Tymor Byr (52%) ond ym Mro Morgannwg, tynnwyd sylw at y cynnydd mewn prisiau tai (40%).
  • Dewisodd Sir Benfro beidio â gofyn unrhyw gwestiynau pellach ynghylch Lletyau Gosod Tymor Byr.

Awgrymiadau

  • Awgrymodd ymatebwyr o’r tair ardal beilot fwy o ymgysylltu o ran datblygu polisi Twristiaeth (Gwynedd, 37%; Bro Morgannwg, 35%; Sir Benfro, 27%). 
  • Roedd gwelliannau yn y ddarpariaeth o seilwaith lleol hefyd yn amlwg iawn ar draws pob ardal (Gwynedd, 23%; Sir Benfro, 24%; Bro Morgannwg, 48%).
  • Mae’n bwysig nodi bod yr atebion hyn yn ddigymell, sy’n awgrymu bod lefel y teimladau yn hyn o beth ymysg yr ymatebwyr yn uchel.

Effaith twristiaeth

  • Roedd yr economi leol ar y brig ar draws y tair ardal fel elfen yr oedd Twristiaeth wedi cael dylanwad gadarnhaol arni (Gwynedd, 82%; Sir Benfro, 86%; Bro Morgannwg, 74%).
  • Roedd cyflogaeth hefyd yn cael sylw (Gwynedd, 76%; Sir Benfro, 77%; Bro Morgannwg, 62%). Nodwyd glendid mannau cyhoeddus fel effaith negyddol amlwg ar draws y tair ardal (Gwynedd, 38%; Sir Benfro, 40%; Bro Morgannwg, 48%).

Y Gymraeg

  • Mae ymatebwyr o Wynedd (70%) a Bro Morgannwg (56%) yn credu bod Twristiaeth yn gyfrwng da o ran hyrwyddo’r Gymraeg. 
  • Dewisodd Sir Benfro beidio â gofyn am yr effaith ar y Gymraeg.

Canlyniadau twristiaeth

  • Problemau’n ymwneud â Pharcio a Thraffig sy’n cael eu nodi fwyaf gan ymatebwyr (Gwynedd, 77% a 76% yn y drefn honno; Sir Benfro, 84% ac 83% yn y drefn honno; a Bro Morgannwg, 84% ac 84% yn y drefn honno).

Is-grwpiau ymwelwyr

  • Ar draws y tair ardal beilot (Gwynedd, 75%; Sir Benfro, 65%; Bro Morgannwg 85%), twf mewn ymwelwyr Rhyngwladol oedd yn cael blaenoriaeth.

Digwyddiadau

  • Mae ymatebwyr o Wynedd (61%) a Bro Morgannwg (51%) yn cysylltu twf Twristiaeth â chynnal digwyddiadau yn yr ardal leol.
  • Mae ymatebwyr o Wynedd (18%) a Bro Morgannwg (39%) hefyd yn tynnu sylw at ddifrod i seilwaith lleol o ganlyniad i’r digwyddiadau hyn. Mae ymatebwyr o’r ddwy ardal (Gwynedd, 18%; Bro Morgannwg, 23%) hefyd yn credu (ar lefelau ychydig yn is) bod digwyddiadau’n dod â gormod o bobl ar yr un pryd.

Adroddiadau

Cynllun Peilot Arolwg Preswylwyr: Gwynedd, Sir Benfro a Bro Morgannwg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.