Yr hyn yr ydym yn ei wneud i wella argaeledd cartrefi fforddiadwy i bobl leol yn ardal Dwyfor, Gwynedd.
Cynnwys
Cyflwyniad
Dylai pawb allu fforddio byw yn eu hardal leol, p'un a ydynt yn prynu neu'n rhentu cartref.
Mae gan nifer o gymunedau yng Nghymru lawer o:
- ail gartrefi
- llety gwyliau tymor byr
- cartrefi gwag
Gall hyn arwain at lai o dai, a llai o dai fforddiadwy. Gall hefyd effeithio ar yr iaith Gymraeg a bywiogrwydd rhai cymunedau.
Ail Gartrefi: datblygu polisïau newydd yng Nghymru
Yn dilyn tystiolaeth ac argymhellion Ail-gartrefi: Datblygu polisïau newydd yng Nghymru.
- Rydyn ni wedi newid y ffordd y mae ail gartrefi, llety gwyliau tymor byr a thai gwag yn cael eu trethu. Mae hyn er mwyn sicrhau fod perchnogion yn gwneud cyfraniad tecach i'r cymunedau lle mae eu heiddo. Mae newidiadau bellach ar waith ledled Cymru ac yn codi arian sylweddol i helpu pobl a chymunedau lleol i gael tai, a'u helpu allan o ddigartrefedd.
- Rydyn ni wedi datblygu pwerau cynllunio lleol arloesol, fel y gall awdurdodau lleol ddod o hyd i atebion cynaliadwy i'w sefyllfaoedd tai eu hunain. Cyngor Gwynedd yw'r cyntaf, gyda'n cefnogaeth ni, i ddefnyddio'r pŵer newydd hwn i gyflwyno Cyfarwyddyd Cynllunio Erthygl 4, gyda Pharc Cenedlaethol Eryri i ddilyn yn fuan. Mae Erthygl 4 yn golygu bod angen caniatâd cynllunio ar berchnogion i newid cartref naill ai yn ail gartref neu yn lety gwyliau tymor byr.
- Rydyn ni’n sefydlu cynllun cofrestru a thrwyddedu ar gyfer pob llety i ymwelwyr - gan gynnwys llety gwyliau tymor byr.
- Rydyn ni wedi sefydlu cynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd yn ardal Dwyfor, Gwynedd, gyda staff wedi'u lleoli'n lleol, i ddeall effeithiau'r camau mawr rydyn ni wedi'u cymryd ac i roi cynnig ar ffyrdd newydd o sicrhau bod mwy o gartrefi fforddiadwy ar gael i bobl leol.
Cynllun Peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd
Mae'r cynllun peilot yn ymwneud â gweld sut mae'r newidiadau rydyn ni wedi'u gwneud yn gweithio a rhoi cynnig ar syniadau newydd i sicrhau bod mwy o gartrefi fforddiadwy ar gael i bobl leol.
Dewiswyd Dwyfor fel yr ardal beilot oherwydd:
- ei maint daearyddol
- y crynodiad o ail gartrefi sydd mewn cymunedau yn yr ardal a
- phwysigrwydd yr ardal fel ardal lle mae'r Gymraeg yn cael ei siarad yn eang.
Rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Gwynedd, Grwp Cynefin, Adra a Pharc Cenedlaethol Eryri i dreialu ffyrdd newydd o wneud pethau a fydd yn helpu i lywio ein dull cenedlaethol.
Ffyrdd newydd o sicrhau bod mwy o gartrefi ar gael
- Prynu Cartref: Mae’r cynllun Prynu Cartref yn helpu pobl i brynu cartref yn eu hardal leol. Rydyn ni wedi sicrhau bod arian ar gael ac wedi teilwra'r dull Prynu Cartref cenedlaethol i gyd-fynd â'r sefyllfa dai yn Nwyfor. Rydyn ni’n falch o ddweud, drwy'r dull newydd hwn, 23 o aelwydydd lleol wedi gwireddu'r freuddwyd o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain. Rydyn ni'n disgwyl llawer mwy eleni - os ydych chi'n lleol i Ddwyfor ac angen help i brynu cartref yna fe allech chi fod yn un ohonyn nhw.
- Cartrefi gwag: Fe wnaethon ni roi £3 miliwn i Gyngor Gwynedd i helpu i brynu eiddo gwag a'u defnyddio eto fel cartrefi fforddiadwy. Roedd £1 miliwn o hyn yn benodol ar gyfer ardal Dwyfor.
- Tai a Arweinir gan y Gymuned: Rydyn ni wedi cefnogi grwpiau Tai a Arweinir gan y Gymuned gyda'u prosiectau yn yr ardal. Sefydliadau yw'r rhain lle mae trigolion a chymunedau'n arwain wrth ddatblygu, perchnogi a rheoli eu tai. Bellach mae 5 grŵp yn arwain gyda'u prosiectau eu hunain a fydd yn darparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol mewn angen. Gobeithiwn y bydd y grwpiau a'r prosiectau hyn yn ysbrydoli ac yn datblygu CLH mewn rhannau eraill o Ddwyfor ac ar draws Cymru.
- Hunanadeiladu Cymru: Rydyn ni’n ceisio helpu pobl leol i adeiladu eu cartrefi fforddiadwy eu hunain drwy gynllun hunan-adeiladu Banc Datblygu Cymru. Byddai hyn yn ffordd newydd o weithio i'r cynllun a gallai ddatgloi ei botensial.
- Rydyn ni wedi cyflawni llwyddiannau drwy weithio'n wahanol, gyda thîm peilot ymroddedig yn yr ardal, a gweithio'n agos gyda chymunedau a sefydliadau lleol,
Deall yr hyn rydyn ni wedi'i wneud a sut mae'n effeithio ar bobl a lleoedd
Rydyn ni wir eisiau deall sut mae'r camau rydyn ni wedi'u cymryd yn gweithio. Rydyn ni eisiau gwybod a ydyn nhw'n gwneud gwahaniaeth.
- Fe wnaethon ni ofyn i arbenigwyr o Alma Economics ac Ymchwil OB3 werthuso'r peilot yn annibynnol rhwng Awst 2023 a Rhagfyr 2026: Ewch i Gwerthusiad o'r Cynllun Peilot Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd: cyfnod 1 a 2023 i 2024 | LLYW.CYMRU. Byddant yn parhau i gadw llygad barcud ar y sefyllfa a rhannu eu canfyddiadau hyd at eu hadroddiad terfynol yn hydref 2026.
- Mae'r tîm peilot yn cefnogi'r gwerthusiad drwy rannu data a dadansoddiad newydd hyd yn oed fel y gall weld beth sy'n digwydd yn yr ardal. Os hoffech chi gyflwyno sylwadau am drethi Cymru, mae croeso ichi gysylltu: – dwyforpilotevaluation@almaeconomics.com