Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am gynllun newydd i helpu'r rhai sy'n gymwys i dalu eu Treth Gyngor, dechrau cynilo, a gwella eu sefyllfa ariannol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ynglŷn â’r cynllun

Bydd y cynllun peilot yn darparu cynlluniau ad-dalu di-log y cytunwyd arnynt rhwng person sy’n talu Treth Gyngor ac Undeb Credyd.

Nid dyma'r unig gymorth sydd ar gael os ydych yn cael trafferth i dalu eich Treth Gyngor. Gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol i weld a ydych yn gymwys i gael disgownt, eithriad neu ostyngiad

Mae rhagor o gymorth, gan gynnwys cyngor ar ddyledion ar gael gan sefydliadau fel Cyngor ar Bopeth Cymru.

Ardaloedd y cynllun peilot

Bydd y Cynllun Peilot Achub rhag Dyledion Treth Gyngor ar gael mewn rhai ardaloedd yng Nghymru o 1 Mai 2025 ymlaen.

Bydd y cynllun hwn ar gael dim ond os ydych yn byw yn ardaloedd awdurdodau lleol Merthyr Tudful, Casnewydd a Blaenau Gwent.

Os nad ydych yn byw yn yr ardaloedd sy'n cymryd rhan, ac mae angen cymorth arnoch o hyd gydag ôl-ddyledion Treth Gyngor, cysylltwch â'ch cyngor lleol cyn gynted ag y gallwch. Mae bob amser yn well gofyn am gymorth cyn gynted â phosibl pan fydd eich amgylchiadau'n newid, oherwydd efallai y bydd cymorth ar gael ichi.

Pwy sy'n gymwys

Os ydych yn byw yn un o’r ardaloedd sy'n cymryd rhan ac mae gennych ôl-ddyledion Treth Gyngor, dysgwch fwy am y cynllun drwy gysylltu ag Undeb Credyd sy'n cymryd rhan, neu alw heibio'r Undeb: 

Byddant yn asesu eich cymhwystra ar gyfer y cynllun, gan ystyried eich amgylchiadau ariannol unigol.

Mae Undebau Credyd yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Gallwch hefyd gysylltu â'ch cyngor lleol a all eich cyfeirio at y manylion, a'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau Treth Gyngor eraill.