Cynllun tlodi tanwydd blaenllaw Llywodraeth Cymru yn cael effaith economaidd bositif ar aelwydydd a busnesau Cymru.
Mae Cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru (dolen allanol) yn rhoi cyfle i bob aelwyd yng Nghymru fanteisio ar gyngor a chymorth i'w helpu i leihau eu biliau ynni. Rhan o’r cymorth a gynigir yw atgyfeirio deiliaid tai sy'n gymwys i gael pecyn rhad ac am ddim o fesurau arbed ynni yn y cartref megis boeler newydd, system gwres canolog, inswleiddio'r atig neu waliau ceudod, neu dechnolegau adnewyddadwy.
Yn 2016/17, darparodd Llywodraeth Cymru £19.5 miliwn ar gyfer Nyth a llwyddwyd i ddenu £3.9 miliwn arall drwy'r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni sydd ar waith ledled y DU.
Mae Adroddiad Blynyddol Nyth ar gyfer 2016/17 (dolen allanol) sydd wedi'i gyhoeddi heddiw yn datgelu:- Bod dros 5,500 o aelwydydd wedi manteisio ar y mesurau arbed ynni rhad ac am ddim.
- Bod aelwydydd sydd wedi gosod y mesurau hynny wedi arbed tua £410 y flwyddyn ar gyfartaledd oddi ar eu biliau ynni.
- Bod 264 o aelwydydd ar eu hennill mewn ffyrdd newydd neu ychwanegol, gydag aelwydydd ar gyfartaledd yn gweld cynnydd o £1,800 yn eu hincwm bob blwyddyn. Mae hynny'n cyfateb i gynnydd posibl o £482,500 yn y symiau y manteisiwyd arnynt.
- Bod 382 o aelwydydd wedi elwa ar ad-daliad o dan gynllun Disgownt Cartrefi Clyd sy'n werth £140 oddi ar eu biliau trydan; mae hynny’n golygu bod cyfanswm o dros £53,400 yn cael eu harbed ar filiau ynni.
- Bod 77 o aelwydydd wedi elwa ar gymorth oddi wrth eu cyflenwyr dŵr. Amcangyfrifir y bydd HelpU a Water Direct, ar y cyd, yn gwneud arbedion uniongyrchol o £14,300.
Ymhlith y cwmnïau sydd wedi elwa'n uniongyrchol ar gynllun Nyth y mae QRL Radiator Group o Gasnewydd. Mae QRL wedi darparu rheiddiaduron i gynllun Nyth ers mis Ionawr 2011, pob un ohonynt yn cael eu gwneud â dur a gynhyrchir gan Gwmni Dur Tata. Gosodwyd dros 153,000 o reiddiaduron QRL drwy gynllun Nyth.
Wrth siarad yn ystod ymweliad â QRL, dywedodd Lesley Griffiths:
"Mae'r adroddiad hwn heddiw yn dangos bod Nyth yn parhau i wneud cyfraniad aruthrol at greu swyddi ac at sicrhau twf yng Nghymru. Ers i'r cynllun ddechrau yn 2011, mentrau o Gymru sydd wedi gosod yr holl fesurau arbed ynni, gan greu dros 190 o gyfleoedd gwaith wrth wneud hynny. "Dylen ni ymfalchïo yn yr effaith economaidd y mae cynllun Nyth wedi'i chael ar yr economi ac ar yr amgylchedd. Serch hynny, allwn ni ddim gorffwys ar ein rhwyfau. Mae mynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru yn gryn her o hyd, a dyna pam dw i'n buddsoddi dros £104 miliwn yng nghynlluniau Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf er mwyn gwella 25,000 yn rhagor o gartrefi. "Dw i'n ffyddiog y bydd Nyth yn parhau i fynd o nerth i nerth yn 2017/18. Dw i'n edrych 'mlaen at weld llawer mwy o aelwydydd sydd wedi bod yn cael trafferth cynhesu eu cartrefi yn elwa ar y cymorth sy’n cael ei gynnig dan y cynllun".