Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun 10 mlynedd newydd i ddatblygu gweithlu gofal plant medrus i gefnogi ei chynlluniau i ddarparu gofal plant di-dâl ar gyfer plant tair i bedair oed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn cydnabod mai gofal plant yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu teuluoedd sy'n gweithio. Yn ystod tymor y Cynulliad hwn, bydd Llywodraeth Cymru'n darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth ar gyfer rhieni plant tair a phedair oed, hy rhieni sy'n gweithio, a hynny am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

Mae'r cynllun ar gyfer y gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar yn amlinellu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni'r ymrwymiad hwn. Bydd yn datblygu ac yn proffesiynoli'r gweithlu gofal plant a chwarae ac yn denu'r bobl gywir i'r sector, gan sicrhau bod ganddynt y sgiliau a'r cymwysterau cywir, a helpu busnesau newydd a busnesau sy'n bodoli eisoes i dyfu.

I helpu darparwyr gofal plant i dyfu a gweithredu mewn modd cynaliadwy, bydd Llywodraeth Cymru'n blaenoriaethu cymorth ar gyfer y sector gofal fel yr amlinellwyd yn y Cynllun Gweithredu Economaidd a lansiwyd yn gynharach yr wythnos hon. Bydd ynhelpu busnesau newydd a busnesau sy'n bodoli eisoes i gynyddu nifer y lleoedd gofal plant a gynigir ar draws Cymru.

Ar hyn o bryd, mae oddeutu 23,300 o bobl yn gweithio gyda'n plant ieuengaf mewn lleoliadau gofal plant a lleoliadau Cyfnod Sylfaen ledled Cymru.

Dyma dair prif flaenoriaeth y cynllun:

  • Blaenoriaethu cymorth er mwyn buddsoddi mewn gallu a chapasiti ar draws y sector. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda CWLWM a Busnes Cymru i ddarparu gwasanaethau cymorth busnes i fusnesau gofal plant; darparu cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach wedi'i ehangu ar gyfer y sector gofal plant o fis Ebrill 2018 sy'n cynyddu'r rhyddhad o £12,000 i £20,500; a darparu £100,000 dros y tair blynedd nesaf i helpu'r darparwyr hynny sy'n cymryd rhan yn y cynlluniau peilot a'r rheini sy'n ceisio ehangu neu ddechrau eu busnes.
  • Denu unigolion o safon uchel drwy ddatblygu fframwaith recriwtio i hyrwyddo gyrfaoedd ym maes gofal plant a chwarae. 
  • Codi safonau a gwella sgiliau drwy gynnig llwybr hyfforddi a datblygu strwythuredig ar sail cyfres newydd o gymwysterau ar gyfer y sector o fis Medi 2019; a thrwy ddatblygu llwybr gyrfa ar gyfer gwarchodwyr plant a gofalwyr cartref a gweithio gyda phrifysgolion Cymru i gynnwys cymhwysedd mewn graddau'n ymwneud â'r Blynyddoedd Cynnar a Phlentyndod.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, wrth lansio'r cynllun newydd:

"Mae darpariaeth o ansawdd ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy'n fforddiadwy ac yn hygyrch ac ar gael ar yr adegau pan fo'i hangen ar rieni, yn hollbwysig i hybu'r economi, gan helpu rhieni i ddychwelyd i'r gwaith a chreu cyfleoedd gwaith pellach yn y sector gofal plant.

"Mae'r rheini sy'n gofalu am ein plant ieuengaf yn chwarae rôl hanfodol wrth ein helpu i roi'r dechrau gorau i'n plant. Mae addysg gynnar a gofal plant o ansawdd uchel yn arwain at fwy o fanteision hirdymor ar gyfer ein plant ac yn dylanwadu'n gryf ar eu cyfleoedd bywyd yn y dyfodol. 

"Mae gweithlu sy'n meddu ar yr wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau i ddarparu gofal plant a chwarae o ansawdd uchel yn gallu cael effaith fawr ar y plant, yn enwedig y rheini o gefndiroedd difreintiedig neu blant sy'n anabl neu sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. 

"Mae'r cynllun rwyf yn ei gyhoeddi heddiw yn cydnabod yr heriau y mae'r hinsawdd economaidd bresennol yn eu cyflwyno i'r sector, ac yn nodi camau gweithredu clir ar gyfer blaenoriaethu cymorth er mwyn datblygu gallu a chapasiti'r gweithlu gofal plant a'r sector i gyflawni ein huchelgeisiau. Mae hefyd yn nodi gweledigaeth fwy hirdymor sy'n uchelgeisiol, ond yn hanfodol, er mwyn gwella ansawdd y gofal rydym yn ei gynnig i'n plant a chyflawni potensial y sector ymroddedig hwn a'i weithlu'n llawn."