Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, wedi lansio heddiw gynllun newydd i fynd i'r afael ag ymwrthedd i wrthfiotigau (AMR) mewn anifeiliaid a'r amgylchedd yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae AMR ar gynnydd ac ar led ac yn bygwth ein gallu i reoli heintiau mewn ysbytai, yn y gymuned yn gyffredinol ac mewn anifeiliaid.

Mae'r cynllun yn esbonio sut y byddwn yn atal ac yn rheoli clefydau heintus mewn anifeiliaid, trwy arferion rheoli da a chynlluniau iechyd anifeiliaid, er mwyn lleihau'r angen am wrthfiotigau. Mae angen gwneud yn siŵr bod gwrthfiotigau'n cael eu presgripsiynu, eu cyflenwi a'u defnyddio'n gyfrifol yng Nghymru.

Mae'r cynllun yn delio â'r angen i atal bacteria sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau rhag lledaenu yn yr amgylchedd, rhwng anifeiliaid a phobl, a'r bwyd y maen nhw'n ei fwyta a'r lleoedd y maen nhw'n eu rhannu.

Y cynllun hwn yw cyfraniad Cymru at Gynllun Gweithredu Cenedlaethol Pum Mlynedd y DU gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2019.

Y Grŵp Cyflawni AMR fydd yn goruchwylio'r cynllun 5 mlynedd, gan gydweithio'n glos â'r proffesiwn meddygol ac iechyd cyhoeddus yng Nghymru i sicrhau bod pawb yn gweithio yn unol ag egwyddorion cydweithredol 'Un Iechyd'.

Pum prif amcan y cynllun yw:

  • Lleihau'r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau yn fawr mewn anifeiliaid fferm trwy wella statws iechyd buchesi a diadelloedd, gan roi'r egwyddor 'gwell atal clwy na'i wella' ar waith trwy gynlluniau iechyd anifeiliaid.
  • Casglu/mesur gwybodaeth am y defnydd o wrthfiotigau ar lefel y fferm fesul prif anifeiliaid fferm Cymru.
  • Gwella safonau trin a defnyddio gwrthfiotigau, trwy hyfforddiant, meincnodi a rhoi arweiniad a phennu safonau ar gyfer presgripsiynu a chyflenwi.
  • Deall yn well rôl yr amgylchedd yn natblygiad a lledaeniad AMR. Yn arbennig, monitro gwrthfiotigau a'u gweddillion yn yr amgylchedd, yn enwedig mewn dŵr.
  • Hyrwyddo defnydd cyfrifol o wrthfiotigau mewn anifeiliaid anwes trwy gydweithio'n glos â milfeddygon anifeiliaid bach ac ag eraill i addysgu perchenogion a cheidwaid.

Dywedodd Lesley Griffiths: 

"Mae AMR yn gallu creu problemau mawr i'r gymuned yn gyffredinol yn ogystal ag i geidwaid anifeiliaid a milfeddygon a gall fod yn gostus hefyd. Rwyf wedi ymrwymo bod Cymru'n chwarae ei rhan i sicrhau bod gwrthfiotigau yng Nghymru a gweddill y byd yn para'n effeithiol.

"Nid mater i'r Llywodraeth yn unig yw rheoli AMR. Rhaid i nifer o asiantaethau gwahanol gydweithio â'i gilydd. Rhaid i bawb sy'n cadw anifeiliaid, yn gofalu am anifeiliaid ac sy'n rheoli'n hamgylchedd wneud eu rhan.

"Mae cynnal y safonau iechyd anifeiliaid gorau a dilyn egwyddorion 'gwell atal clwy na'i wella' yn allweddol i gynllun fydd yn rhan fawr o'n hymrwymiad i ddiogelu iechyd a lles cenedlaethau'r dyfodol sy'n dibynnu ar wasanaeth iechyd sy'n gallu delio'n effeithiol â heintiau."

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru,  Christianne Glossop: 

"Mae gwrthfiotigau'n adnodd gwerthfawr a rhaid eu defnyddio'n ddoeth ac yn ofalus i'w cadw'n effeithiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Mae'r perygl y gallai ymwrthedd dyfu yn un real, a gallai'r canlyniadau fod yn gatastroffig i iechyd pobl ac anifeiliaid. Mae gennym ni yng Nghymru ein rhan i leihau'r bygythiad hwn i'r byd.

"Mae Cynllun Gweithredu AMR Cymru yn esbonio sut y byddwn yn gweithio gyda'n gilydd i gadw anifeiliaid yn iach rhag gorfod defnyddio gwrthfiotigau. Dyma her a chyfle i filfeddygon a cheidwaid anifeiliaid yng Nghymru ac rwy'n disgwyl ymlaen at weithio gyda nhw i roi'r rhaglen bwysig hon ar waith."

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnal cyfarfod i drafod AMR mewn anifeiliaid a'r amgylchedd yn y Sioe Fawr (Mercher, 24 Gorff 12:30 i 2:00pm ym Mhafiliwn Llywodraeth Cymru). Mae lleoedd ar gael, ond maen nhw'n brin. Os hoffech inni gadw lle ichi, e-bostiwch OCVO@gov.wales - y cyntaf i'r felin fydd hi.

I weld y cynllun, ewch i: https://llyw.cymru/ymwrthedd-gwrthficrobaidd-mewn-anifeiliaid-ar-amgylchedd-cynllun-gweithredu