Wrth iddynt lansio’r cam nesaf mewn cynllun 20 mlynedd i leihau ymwrthedd i wrthfiotigau, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru a Phrif Swyddog Milfeddygol Cymru wedi dweud bod rhaid i bawb chwarae eu rhan i’w atal. Mae mwy o bobl yn cael eu lladd ar draws y byd o ganlyniad i ymwrthedd i wrthfiotigau nag unrhyw achos arall bron.
Yn 2019, yn ôl yr amcangyfrifon, roedd 7,600 o farwolaethau a gafodd eu hachosi’n uniongyrchol gan heintiau sy’n ymwrthod â gwrthfiotigau (nifer tebyg i’r marwolaethau yn y DU o ganlyniad i ganser y stumog). Roedd hefyd 35,200 o farwolaethau a gafodd eu hachosi'n anuniongyrchol gan heintiau sy’n ymwrthod â gwrthfiotigau.
Hyd yn oed os bydd y claf yn goroesi, mae heintiau yn llawer mwy difrifol ac yn anoddach i’w trin yn llwyddiannus o ganlyniad i ymwrthedd i wrthfiotigau.
Ond gall camau syml i atal heintiau ac osgoi’r defnydd amhriodol o wrthfiotigau mewn pobl ac anifeiliaid helpu i atal rhai o’r marwolaethau hyn.
Heddiw (dydd Mercher 8 Mai), cafodd cynllun gweithredu cenedlaethol ymwrthedd gwrthficrobaidd y DU 2024 i 2029 ei lansio.
O dan y cynllun, mae’r DU yn addo i leihau’r angen am gyffuriau gwrthficrobaidd – fel meddyginiaethau gwrthfiotig, gwrthffwng a gwrthfeirol – ac i’w defnyddio yn y ffordd orau bosibl, mewn pobl ac anifeiliaid. Mae'r cynllun hefyd yn golygu y bydd y DU yn cadarnhau’r trefniadau ar gyfer cadw gwyliadwriaeth ar heintiau ag ymwrthedd i gyffuriau cyn iddynt ddod i’r amlwg ac yn cymell y diwydiant i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o driniaethau.
Yn 2019, cyhoeddodd pob llywodraeth yn y DU weledigaeth 20 mlynedd i ynysu, rheoli a lliniaru achosion o Ymwrthedd Gwrthficrobaidd (AMR) erbyn 2040.
Er gwaetha’r pandemig Covid, mae’r DU wedi llwyddo i leihau cysylltiad pobl â gwrthficrobau o fwy nag 8% ers 2014 a lleihau’r defnydd o wrthfiotigau mewn anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd o 59% rhwng 2014 a 2022.
Yn 2023, cafodd 15% yn llai o wrthfiotigau eu rhoi ar bresgripsiwn mewn ymarfer cyffredinol yng Nghymru nag yn 2014. Cafodd hyn ei gyflawni drwy waith caled a diwyd y presgripsiynwyr, fferyllwyr cymunedol a thimau byrddau iechyd sy’n gweithio yn y gymuned.
Dywedodd Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru:
Rydyn ni am adeiladu ar lwyddiant pum mlynedd gyntaf y cynllun hwn a pharhau i godi ymwybyddiaeth o’r hyn y gall pawb ei wneud i helpu i drechu AMR.
Mae atal heintiau yn y lle cyntaf yn rhan bwysig o fynd i’r afael ag AMR. Gall golchi eich dwylo’n rheolaidd gan ddefnyddio sebon a dŵr leihau’r risg o fod yn sâl a lledaenu bacteria niweidiol i bobl eraill.
Mae cymryd gwrthfiotigau pan nad oes eu hangen nhw arnoch chi yn golygu eu bod nhw’n llai tebygol o weithio yn y dyfodol. Does dim angen gwrthfiotigau ar bob haint, ac mae llawer o heintiau bacterol ysgafn yn gwella ar eu pennau eu hunain.
Nid yw gwrthfiotigau’n gweithio ar gyfer heintiau feirws fel annwyd a’r ffliw, a’r rhan fwyaf o beswch a dolur gwddf. O ran gwrthfiotigau, dylech wrando ar eich meddyg a fydd yn gallu dweud wrthych a oes eu hangen arnoch ai peidio.
Dywedodd Dr Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:
Diolch i drefniadau gweithio mewn partneriaeth rhagorol, mae Cymru wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gynllun gweithredu cenedlaethol ymwrthedd gwrthficrobaidd pum mlynedd blaenorol y DU. Rydyn ni’n bwriadu adeiladu ar y llwyddiant hwn, gan ddilyn dull Iechyd Cyfunol.
Mae defnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid a phobl yn un o’r prif achosion sy’n ysgogi AMR. Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau’r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau mewn anifeiliaid er mwyn sicrhau bod y meddyginiaethau hyn yn parhau i weithio mewn anifeiliaid, ac i atal AMR rhag lledaenu o anifeiliaid i bobl.
Mae ein gwaith ar reoli AMR yn mynd i’r afael â phob anifail sy’n cael ei gadw. Un o’r prif flaenoriaethau yn achos anifeiliaid ar y fferm yw hybu systemau cynhyrchu hynod iach, sydd o fudd i les anifeiliaid ac i gynhyrchiant ac sydd hefyd yn lleihau risgiau AMR. Rydyn ni’n bwriadu bwrw ymlaen â’r gwaith rydyn ni wedi’i wneud yng Nghymru i annog mwy o reolaeth ar AMR yn y sector anifeiliaid anwes.
Rwy'n edrych ymlaen at weld Cymru yn gwneud cyfraniad mawr i gynllun gweithredu cenedlaethol ymwrthedd gwrthficrobaidd pum mlynedd y DU.
Dywedodd Robin Howe, Microbiolegydd Ymgynghorol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu lansio’r cam nesaf hwn o gynllun 20 mlynedd i leihau ymwrthedd i wrthfiotigau erbyn 2040.
Gall pob un ohonom chwarae ein rhan i helpu i atal ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae'n bwysig ein bod ni’n defnyddio gwrthfiotigau yn union fel y bydd meddyg, nyrs neu fferyllydd yn dweud wrthym. Ni ddylai gwrthfiotigau gael eu cadw gan unrhyw un i’w defnyddio rywbryd eto ac ni ddylai pobl eu rhannu â theulu, ffrindiau neu anifeiliaid anwes. Os oes gennych chi wrthfiotigau sydd heb eu defnyddio, dylech eu dychwelyd i’ch fferyllfa leol. Mae eu taflu yn y bin neu eu fflysio i lawr y toiled yn arwain at halogi afonydd gan fygwth iechyd pobl ac anifeiliaid.
Mae gwrthfiotigau yn adnodd gwerthfawr y mae’n rhaid inni ei ddiogelu.