Gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol sy’n darparu cynnig rhagweithiol o ofal drwy gyfrwng y Gymraeg yw uchelgais cynllun newydd sy’n cael ei lansio gan y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, heddiw (2 Awst).
Mae cynllunio’r gweithlu, hyfforddi staff, systemau digidol a newid y diwylliant yn elfennau allweddol o’r cynllun gweithredu pum mlynedd Mwy na geiriau, sy’n gweithio tuag at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod gofal drwy gyfrwng y Gymraeg ar gael i bawb sy’n dymuno ei gael.
Heddiw (2 Awst), yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, dywedodd y Gweinidog:
“Pan fydd pobl yn derbyn gofal neu’n ceisio’i drefnu, fel arfer dyna’r adeg pan fyddan nhw fwyaf bregus. Felly, mae bod yn gyfforddus yn eu hiaith eu hunain yn bwysig.
Yn ôl ein gwaith ymchwil, i lawer o siaradwyr Cymraeg, roedd gallu cael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn gwella’u profiad cyffredinol yn sylweddol. Mewn llawer o achosion, roedd hynny’n gwella’u canlyniadau o ran iechyd a lles. Dangosodd ein hymchwil hefyd fod pobl yn aml yn ei chael hi’n anodd cael gwasanaethau yn y
Gymraeg, a’u bod yn amharod i ofyn pan nad oedd gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig.
Wrth wraidd ein strategaeth mae egwyddor y Cynnig Rhagweithiol. Mae’n rhoi’r cyfrifoldeb ar y darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg, yn hytrach nag ar y claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth i orfod gofyn amdanynt.
Er bod cynnydd wedi’i wneud ers lansio ein cynllun gwreiddiol bum mlynedd yn ôl, bellach mae angen inni gynnig mwy, yn gyflymach, er mwyn cyflawni’r cynnig hwnnw.”
Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu gan grŵp o arbenigwyr, yn dilyn gwerthusiad annibynnol o gynllun pum mlynedd gyntaf Mwy na geiriau.
O dan gadeiryddiaeth Marian Wyn Jones, ystyriodd y grŵp brofiad cleifion a thystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, y GIG a gofal cymdeithasol, rheoleiddwyr, cyrff proffesiynol, a’r sectorau addysg a hyfforddiant.
Mae’r cynllun yn cynnwys sawl cam gweithredu, o dan bedair thema:
- Diwylliant ac arweinyddiaeth
- Cynllunio a pholisïau o ran y Gymraeg
- Cefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu
- Rhannu arfer da
Bydd y cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yn cael ei fonitro gan fwrdd cynghori newydd.
Ychwanegodd y Gweinidog:
“Mae bron 200,000 o staff yn gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Felly, dyma gyfle arbennig iawn hefyd iddyn nhw arwain y ffordd wrth gyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae ein staff iechyd a gofal cymdeithasol wedi gwneud gwaith eithriadol yn ystod y pandemig, ac maen nhw’n parhau i weithio o dan bwysau mawr. Maen nhw’n angerddol ynglŷn â darparu’r gofal gorau posib i bobl yng Nghymru – i siaradwyr Cymraeg, mae hynny’n golygu darparu gwasanaeth yn y Gymraeg. Drwy gydweithio, rwy’n siŵr y gallwn ni i gyd wireddu uchelgeisiau’r cynllun hwn.”